Skip page header and navigation

Bu myfyrwyr o’r cwrs Cyfieithu ar y Pryd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn brysur yn ddiweddar yn cynorthwyo gyda darpariaeth cyfieithu ar y pryd yn Ngŵyl Lên Llandeilo.  

Dafydd Iwan with Bethan Griffiths and Lynwen Davies from rhagoriaith

Mae’r ŵyl hon yn cynnig arlwy gwych o awduron, beirdd, storïwyr, cofianwyr a dramodwyr. Yn ogystal cynhaliwyd gweithdai ymarferol creadigol, sesiynau adrodd straeon i blant, a bu amryw o sgyrsiau yn Gymraeg a Saesneg gan rai o awduron ffuglen a ffeithiol enwocaf Cymru.

Daeth dros 1350 o bobl i’r digwyddiad, gyda phobl yn dod ar draws de a gorllewin Cymru i fwynhau’r penwythnos. 

Dyma oedd gan Christoph Fischer un o Gadeiryddion yr ŵyl i’w ddweud:

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfieithiadau proffesiynol a gawsom gan fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eleni yng Ngŵyl Lenyddiaeth Llandeilo. Cawsom adborth cadarnhaol iawn am hyn o’r ffurflenni adborth ac o sylwadau personol.

“Roedd y myfyrwyr yn ddefnyddiol iawn ac yn agored iawn i gynorthwyo a chynnig cyngor gan ychwanegu at awyrgylch gwych ein digwyddiadau. Gyda’u cymorth nhw, llwyddwyd i gynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn 100% o’r sesiynau Cymraeg sydd yn ein galluogi ni i gynnig yr holl ddigwyddiadau Cymraeg i’n cynulleidfa gyfan. Mae hyn wedi cynyddu ein ffigurau presenoldeb, ac mae niferoedd wedi tyfu’n sylweddol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Ni allwn ddiolch digon i chi am eich cefnogaeth.”

Un o’r awduron fu’n cymryd rhan mewn sesiwn uniaith Gymraeg oedd Dafydd Iwan, ac fe wnaeth dderbyn cymorth gan y myfyrwyr i estyn allan at y gynulledifa ddi-Gymraeg. Meddai: 

“Camp cyfieithu da yw peidio tynnu sylw at y peth, ond gadael i’r rhai sy’n dibynnu ar gyfieithiad i wneud hynny. Yn rhy aml, bydd rhywun yn cwyno eu bod yn methu clywed, neu ddim yn deall yr offer clust, neu reswm arall dros oedi am funudau hir cyn cychwyn ar y gwaith.

“Os yw’r paratoi yn iawn, a’r cyfieithydd yn deall y drefn, mae cyfieithu da yn ychwanegu llawer iawn at lwyddiant cyflwyniad yn Gymraeg. Yr arwydd gorau imi yw na wnaeth neb gwyno, na dweud eu bod yn methu dilyn.

“Gan fy mod yn sôn yn bennaf at hynt yr iaith ei hun, roeddwn yn awyddus i drosglwyddo’r neges yn glir, i’r di-Gymraeg a’r Cymry Cymraeg. Felly diolch eto am y profiad, a diolch mawr i’r myfyrwyr am eu gwaith effeithiol.”

A crowd shot looking at Dafydd Iwan speaking in the event with the simultaneous translators at work

Un o’r myfyrwyr a fanteisiodd ar y cyfle i gysgodi a darparu’r gwasanaeth oedd Bethan Griffiths. Dywedodd: 

“Roedd mynychu digwyddiad o’r fath yn brofiad gwerthfawr tu hwnt er mwyn dysgu mwy am y proffesiwn o gyfieithu ar y pryd. Cafwyd cyfle arbennig i gysgodi cyfieithydd profiadol yn ogystal ag ymarfer y grefft o gyfieithu ar y pryd yn ystod rhai o’r sesiynau byw. Heb os, roedd y cyfle hwn yn ffordd wych o ymgyfarwyddo gyda gofynion y maes.”

Ychwanegodd darlithydd y cwrs, Lynwen Davies:

“Wrth i Ŵyl Lenyddiaeth Llandeilo prysur ennill ei phlwyf yn y calendr blynyddol, a hefyd wrth i nifer y sesiynau Cymraeg gynyddu yn yr ŵyl, mae darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig. Nid yn unig bod darparu’r gwasanaeth hwn yn bwysig er mwyn cynnig mynediad i siaradwyr di-Gymraeg i fyd a diwylliant cyhoeddi cyfoethog Cymru ond hefyd er mwyn cynnig cyfle cyfartal i bawb sydd am fynychu’r ŵyl. Law yn llaw â hyn mae’n cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i fyfyrwyr y Brifysgol ac yn benodol myfyrwyr y Dystysgrif Ȏl-radd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ymarfer y grefft mewn sefyllfa go iawn. Roedd cael cwrdd a chyfieithu ar y pryd i bobl megis Dafydd Iwan yn bleser.”

Os am fwy o wybodaeth am y Dystysgrif Ol-radd mewn Cyfieithu ar y Pryd anfonwch ebost i rhagoriaith@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon