Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu myfyrwyr o Goleg Douglas, Canada yn ddiweddar, fel rhan o raglen gyfnewid gyfoethog sy’n canolbwyntio ar Addysg Blynyddoedd Cynnar.

A group of students from Douglas College Canada in a group shot during their exchange visit to Wales

Treuliodd 19 o fyfyrwyr ac aelodau staff academig bythefnos ar gampws Caerfyrddin, yn dysgu mwy am yr hyn sydd gan y disgyblaeth Addysg Plentyndod cynnar i’w gynnig. Yn ystod eu hymweliad, cymeron nhw ran mewn prif ddarlithoedd wedi’u teilwra i addysg Plentyndod Cynnar. Yn ogystal, cawsant gyfle i archwilio meithrinfeydd ac atyniadau twristiaeth amrywiol ar draws Sir Benfro, Abertawe, Caerdydd a Llundain. 

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Blynyddoedd Cynnar PCYDDS Alison Rees Edwards: 

“Ar ôl nifer o e-byst a galwadau Zoom rhwng Adrannau’r Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS a Choleg Douglas, roedd yn hyfryd cwrdd â staff a myfyrwyr sydd yr un mor angerddol â ni am y blynyddoedd cynnar, datblygiad plant a’r awyr agored. Gan mai ffocws eu hymweliad oedd darpariaeth awyr agored, trefnwyd ymweliadau â lleoliadau blynyddoedd cynnar. Roedd yn hyfryd gweld ymateb y staff a’r myfyrwyr i’r amgylcheddau awyr agored a sut mae staff yma yng Nghymru yn gwneud y gorau o’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt. 

“Camsyniad cyffredin yn ein plith yn PCYDDS yw y byddai arfer yng Nghanada yn rhagori ar ddarpariaeth awyr agored i blant ifanc, felly roedd dysgu nad yw hyn yn wir bob amser, ac roedd gweld rhyfeddod staff a myfyrwyr Coleg Douglas at ein hymarfer yn arbennig o ddiddorol. Mae wynebau myfyrwyr wrth iddynt ddysgu am ddarpariaeth Ysgol Goedwig yn y lleoliadau, gyda phlant ifanc yn tostio eu malws melys eu hunain a chael cyfleoedd i ofalu am anifeiliaid, yn rhywbeth y byddaf yn eu trysori! Rwy’n edrych ymlaen yn awr at archwilio cyfleoedd pellach i ddatblygu’r berthynas newydd a chyffrous hon rhwng ein tîm Blynyddoedd Cynnar yma yn PCYDDS a Choleg Douglas.”

Dywedodd Minnie Mossop, Hyfforddwr Cyfadran: Addysg Plentyndod Cynnar, Coleg Douglas:

“O’r croeso cynnes a gawsom ar y dechrau i’r gefnogaeth ddiwyro drwy gydol ein hymweliad, mae pob eiliad wedi bod yn dyst i’r ymroddiad a’r croeso anhygoel rydych chi a’ch tîm wedi’u dangos. 

“Rydym ni ynghyd â’n 19 i fyfyrwyr wedi bod yn ffodus iawn i brofi’r hanes cyfoethog, natur a diwylliant bywiog Cymru gyda phobl ryfeddol, gan gynnwys chi eich hun, y canolfannau, y siaradwyr gwadd ac ati. Mae’r rhyngweithiadau hyn, nid yn unig wedi cyfoethogi ein gwybodaeth, ond hefyd wedi ein gadael gyda chalonnau cynnes ac atgofion gydol oes. A wnewch chi gyfleu ein diolchiadau diffuant i bawb a oedd yn rhan o’r ymweliad hwn. Rydym yn gadael gyda gwerthfawrogiad dirfawr ac yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o wahodd rhai ohonoch i Vancouver yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS (Gogledd America ac Outward Mobility), Academi Fyd-eang Cymru:

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd grwpiau o fyfyrwyr Coleg Douglas yn ymweld â lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae ymweliadau o’r fath nid yn unig yn meithrin cydweithio rhyngwladol, ond hefyd yn darparu cyfle i rannu arferion gorau, syniadau a phrofiadau rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes addysg plentyndod cynnar. 

“Un o fanteision allweddol yr ymweliadau hyn yw cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. Mae cyfadran a myfyrwyr coleg Douglas yn gallu dod â safbwyntiau newydd, syniadau arloesol a dulliau gwahanol i addysg plentyndod cynnar na fyddai ymarferwyr o Gymru wedi dod ar eu traws o’r blaen.   Yn yr un modd, mae lleoliadau blynyddoedd cynnar Cymru yn gallu arddangos eu harferion a’u methodolegau eu hunain, gan gynnig cipolwg i goleg fyfyrwyr Douglas ar strategaethau llwyddiannus y gallant eu haddasu a’u gweithredu yn eu cyd-destun eu hunain. 

“At hynny, mae’r ymweliadau hyn yn gallu helpu i gryfhau rhwydweithiau proffesiynol a pherthnasoedd rhwng addysgwyr yng Nghanada a Chymru. Drwy gydweithio a dysgu o’i gilydd, mae ymarferwyr yn gallu adeiladau partneriaethau hir dymor sy’n ymestyn y tu hwnt i hyd yr ymweliad. Mae hyn yn gallu arwain at gyfathrebu, cydweithio ar brosiectau ymchwil, a datblygu mentrau ar y cyd sydd wedi’u hanelu at wella canlyniadau addysg blynyddoedd cynnar yn y ddwy wlad. 

“Drwy weithio gyda’n gilydd, mae gweithwyr proffesiynol yn gallu sicrhau bod plant yng Nghanada a Chymru yn derbyn yr addysg blynyddoedd cynnar o’r ansawdd uchaf posibl, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn ddiweddarach mewn bywyd. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon