Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddathlu taith a chyflawniadau Isaac Law, sy’n graddio gyda gradd mewn Archaeoleg o gampws Llambed. Yn ystod y seremoni hefyd cyflwynwyd gwobr 2024 ER Pritchard mewn Archaeoleg i Isaac.

Isaac Law in graduation gown

Mae stori Isaac yn dyst i amgylchedd cefnogol y brifysgol a’r profiadau cyfoethog y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Denwyd Isaac, sy’n wreiddiol o Pitsea yn Essex, i’r Drindod Dewi Sant am ei chyfuniad unigryw o Archaeoleg ag Astudiaethau Canoloesol, cwrs a oedd yn cyd-fynd yn berffaith â’i angerdd hirsefydlog am yr Oesoedd Canol. “Ers oeddwn i’n fach, rydw i wedi caru’r Oesoedd Canol,” mae Isaac. “Daeth fy niddordeb mewn Archaeoleg i’r amlwg yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth, yn ystod cyfyngiadau y Coronafeirws a hynny wrth wylio llawer o Time Team gyda fy nhad.”

Dylanwadwyd ar benderfyniad Isaac i fynychu PCYDDS gan leoliad gwledig y brifysgol, y profiadau cloddio ymarferol a gynigiwyd fel rhan o’r cwrs, a’r gymdeithas ail-greu weithgar. “Roedd maint a lleoliad Llanbedr Pont Steffan hefyd yn atyniad mawr,” eglura. “Roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i ymuno â’r gymdeithas ail-greu hanes yn y brifysgol.”

Wrth fyfyrio ar ei astudiaethau, mae Isaac yn amlygu’r cloddiad yn Llanllyr fel profiad nodedig. “Ces i’r profiad o osod ffosydd, cloddio, catalogio darganfyddiadau, arolygu, a dadansoddi pridd,” dywedodd. Mwynhaodd hefyd weithio yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Roderick Bowen a gyda llawysgrifau canoloesol a llyfrau printiedig cynnar. “Roedd y dosbarthiadau llai yn caniatáu ar gyfer mwy o ddarlithoedd tebyg i seminar, gan gynnig cefnogaeth bersonol gan ddarlithwyr.”

Roedd traethawd hir israddedig Isaac yn canolbwyntio ar arwyddocâd sgil-gynhyrchion defaid i’r Eingl Sacsoniaid, gan gyfuno darganfyddiadau archaeolegol â ffynonellau testunol.

Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, roedd Isaac yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o gymdeithasau myfyrwyr, gan gynnwys y Gymdeithas Ganoloesol, Ffensio, a’r Undeb Cristnogol. Wrth wasanaethu ar bwyllgor gwaith y cymdeithasau hyn, roedd yn arbennig o hoff o’i amser gyda’r Gymdeithas Ganoloesol, gan fynychu sioeau ail-greu ledled Cymru a Lloegr.

Trwy gydol ei astudiaethau, roedd Isaac yn wynebu heriau fel rheoli amser a phryder cymdeithasol. “Dechreuais fynd i’r llyfrgell ar ôl darlithoedd er mwyn osgoi anwasterau canolwbyntio a gweithio ochr yn ochr â ffrindiau i gwblhau aseiniadau’n gynharach,” eglura. “Gyda chymorth adborth a chyngor fy narlithwyr, deuthum yn fwy cyfforddus yn llunio casgliadau a thrafod syniadau.”

Mae cyfnod Isaac yn PCYDDS wedi bod yn drawsnewidiol yn academaidd ac yn bersonol. “Cwrddais i, syrthiais mewn cariad â, a dechreuais fynd allan gyda fy mhartner, sydd bellach yn ddyweddi, wrth astudio yn Llanbedr Pont Steffan,” meddai. “Mae Llanbedr Pont Steffan wedi cael effaith barhaol ar fy mywyd. Rwyf wedi dod yn fwy cadarn yn fy ffydd, wedi dod o hyd i fy hyder, wedi adeiladu cyfeillgarwch, wedi syrthio mewn cariad, ac wedi ennill ychydig o ymladd cleddyfau!”

Bydd Isaac yn parhau â’i daith academaidd gydag MA mewn Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Efrog. Mae’n edrych ymlaen at adeiladu ar y sgiliau y mae wedi’u hogi yn Llambed. “Mae’r addysgu wedi bod yn wych, ac mae’r darlithwyr wedi bod yn gefnogol iawn,” meddai. “Mae Llanbedr Pont Steffan ei hun wedi bod yn amgylchedd gwych i astudio ynddo. Mae’r lleoliad gwledig yn ymlaciol a dymunol, ac mae cymuned y myfyrwyr yn gyfeillgar ac yn groesawgar.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Archaeoleg a chyrsiau eraill a gynigir yn PCYDDS, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/pynciau/hanes-archaeoleg 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon