Skip page header and navigation

Mae Dr Gareth Potter, Pennaeth Rygbi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â thri myfyriwr Rygbi o’r Academi Chwaraeon – Jordan Evans, Sam Potter a Harry Thomas – wedi dathlu tymor eithriadol trwy ennill y Gynghrair a’r Cwpan gyda Chlwb Rygbi Llanymddyfri.

Gareth Potter & Jordan Thomas in Llandovery RFC Kit

Fe wnaeth Gareth, sy’n gweithredu fel hyfforddwr ymosod ar gyfer Clwb Rygbi Llanymddyfri, nid yn unig arwain tîm rygbi’r Drindod Dewi Sant i fuddugoliaeth yn y gynghrair a’r cwpan eleni, ond fe wnaeth hefyd chwarae rhan hanfodol yn sicrhau buddugoliaeth ddwbl hanesyddol ar y lefel uchaf o rygbi clwb yng Nghymru.

Mae’r cydweithio llwyddiannus rhwng Clwb Rygbi Llanymddyfri a’r Drindod Dewi Sant, a gafodd ei ffurfioli ym mis Gorffennaf y llynedd, wedi bod yn allweddol. Mae’r bartneriaeth hon, sydd hefyd yn cynnwys Coleg Llanymddyfri, wedi hwyluso trosglwyddiad llyfn y chwaraewyr hyn i garfan Uwch Gynghrair Indigo, gan amlygu llwyddiant y fenter.

Wrth i Gareth edrych yn ôl dros y tymor, meddai:

“Mae wedi bod yn 12 mis blinedig iawn i bawb sy’n gysylltiedig â Chlwb Rygbi Llanymddyfri y tymor hwn, wrth i ni geisio rhagori ar ein llwyddiant yn Rownd Derfynol yr Uwch Gynghrair y llynedd trwy amddiffyn y teitl hwnnw ac ychwanegu Cwpan Cymru at y cwpwrdd tlysau. Mae’r bechgyn wedi bod ar lefel arall, ac mae hyn yn cynnwys craidd o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant sydd wedi cyfuno eu hastudiaethau a’u hymrwymiadau chwarae i’r Brifysgol gyda’r nod o chwarae rygbi lled-broffesiynol i’r Porthmyn. 

Gan dynnu sylw at gyflawniadau unigol, ychwanegodd:

“Mae Harry, sy’n astudio Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon, wedi cael tymor nodedig, nid yn unig yn ymddangos mewn 17 o gemau i Lanymddyfri ond hefyd yn gwneud ei ymddangosiad rhanbarthol cyntaf dros y Scarlets. Mae Sam, sy’n astudio Addysg Gorfforol, wedi parhau â’i ddatblygiad gyda Chlwb Rygbi Rhydaman a thîm y Drindod ac wedi gwneud dau ymddangosiad i ni ar ddiwedd y tymor. Rhaid rhoi sylw arbennig i Jordan Evans, sydd ar ei flwyddyn olaf gyda’r Drindod Dewi Sant ac sydd ar fin cwblhau ei gwrs TAR mewn Addysg Ôl-16. Mae wedi dod dros y siom o golli allan ar le yn y Rownd Derfynol y llynedd i fod yn aelod craidd o garfan Llanymddyfri eleni ac mae wedi ffynnu yn amgylchedd y Brifysgol dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’n wych gweld y bartneriaeth yn gweithio mor dda”.

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Llongyfarchiadau enfawr i bawb yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri ac wrth gwrs i’n chwaraewyr ni a Gareth.  Rydym yn ffodus o gael rhywun o safon Gareth yma yn arwain ein darpariaeth rygbi yn y Brifysgol a’r llwybr sy’n datblygu rhyngom ni a Chlwb Rygbi Llanymddyfri a Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin. Bu’r ddau glwb yn llwyddiannus yn eu cais i fod yn rhan o Gynghrair Led-broffesiynol newydd EDC Cymru a gall hynny ond bod o fudd i’n myfyrwyr sy’n chwarae rygbi ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.”

3 students from The Academy of Sport wearing Llandovery RFC kit holding the trophy

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon