Skip page header and navigation

Mae Nerys Siddall, Rheolwraig a Swyddog Addysg Byd Mary Jones gerllaw’r Bala wedi graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gydag MA Dehongli’r Beibl. 

Nerys in her cap and gown

Wrth edrych ymlaen at y seremoni, meddai Nerys: 

“Dw i wirioneddol mor falch fy mod wedi llwyddo i gwblhau’r gradd. Er roedd yna lawer o adegau yn ystod y cwrs lle nad oeddwn yn meddwl byswn i byth yn gorffen, dw i’n hynod o falch, ac yn edrych ymlaen at y seremoni graddio a chael cyfle i gyfarfod eraill sydd wedi cwblhau’r un cwrs.”

Yn ystod ei chwrs MA Dehongli’r Beibl, gwnaeth Nerys edrych yn fanwl ar y sgwrs rhwng y Wraig o Samaria a Iesu yn Efengyl Ioan, Pennod 4, adnodau 1- 42 gan ymchwilio i ddatblygiad ffydd y wraig fel ei thestun traethawd hir.   

Dywedodd Nerys fod dim rheswm penodol am fynd ar ôl y Wraig o Samaria fel y cyfryw, ond mae o hyd wedi bod â diddordeb mewn astudio merched yn y Beibl. Ychwanegodd: 

“Mae’r Wraig o Samaria yn gymeriad difyr dros ben - mae’n gymeriad ar ffiniau gymdeithas yn grefyddol ac yn gymdeithasol, ond mae’n chwarae rôl allweddol wrth alw’r Samariaid eraill i ddod i brofi presenoldeb Iesu drostynt eu hunain. Er ei statws o fewn y gymdeithas mae’n dangos bod ganddi ddealltwriaeth o’i hunaniaeth ac yn dangos chwilfrydedd i’r hyn sydd gan Iesu i ddweud ac eisiau gwybod mwy.

“Yn y gorffennol, gwelwyd mewn rhai agweddau o gymdeithas rôl y gwragedd yn fwy ymylol, a dynion yn ymddangos yn fwy blaenllaw wrth arwain y ffordd, dyna ddiwylliant cyfnod y Beibl. Ond yn hanes y wraig o Samaria, gwelir herio’r drefn a’r wraig hon o blith cymdeithas wrthodedig i raddau, yng ngolwg yr Iddew yn cael lle canolog ac yn profi bod lle iddi hithau o fewn teulu’r ffydd. Dyma ysbrydoliaeth i unrhyw un heddiw sy’n teimlo eu bod ar gyrion cymdeithas i ganfod eu llais a’u lle canolog hwythau o fewn y gymdeithas.”

Gwnaeth Nerys gwblhau ei chwrs tra’n gweithio’n llawn amser fel Rheolwraig Canolfan Bererindod Mary Jones yn y Bala. Roedd cwblhau’r cwrs yn her i Nerys, ond  roedd yn cynnig rhywbeth gwahanol i ganolbwyntio arno o’i gwaith bob dydd. Er hyn,  fe ddarganfyddodd tebygrwydd rhwng y Wraig o Samaria a Mary Jones. 

“O ran tebygrwydd i Mary Jones mae’r ddwy yn enghreifftiau o sut mae rhywun cyffredin yn gallu gwneud gwahaniaeth. Roedd gan Mary Jones ffydd gadarn yng Nghrist a gwelwn yn efengyl Ioan 4 yr awgrym o bosib i’r wraig o Samaria gychwyn ar ei thaith ffydd hithau hefyd er nad yw hyn yn cael ei gadarnhau yn y testun. Ond dengys rôl flaenllaw i’r ferch yn y ddwy hanes.”

Un o fanteision y cwrs i Nerys oedd y ffaith yr oedd yn medru ei gwblhau o adref gyda’r sesiynau gyda’r tiwtor ar lein, ac roedd hefyd modd iddi gyflwyno’i  thraethawd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig yn y Drindod Dewi Sant, dywedodd Nerys ei bod wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan ei thiwtoriaid.

“ Roedd y gefnogaeth cefais gan yr Athro Catrin Haf Williams yn arbennig. Roedd wir yn mynd yr ail filltir i fy nghefnogi. Roedd ei chyngor a’i hanogaeth yn arbennig. Roeddwn yn ffodus iawn o’i chael fel tiwtor oherwydd ei harbenigedd yn Efengyl Ioan a’i chael elwa o’i gwybodaeth helaeth am y pwnc.”

Yn ogystal â hynny: 

“Roedd ceisio cael amser i astudio rhwng gweithio a chael dwy o rhai bach adref yn gallu bod yn heriol (cafodd y ferch ieuengaf ei geni yn ystod y ddwy flynedd roeddwn yn gwneud y cwrs hefyd!). Felly yn ystod amser gyda’r nos roeddwn yn gallu gwneud rhan helaeth o’r gwaith. Yn sicr ni fyswn wedi cael cwblhau’r cwrs heb gefnogaeth Carwyn, y gŵr, ac wrth gwrs Miriam a Marged.”

Dywedodd Yr Athro Catrin Haf Williams, 

“Yr wyf yn falch dros ben ein bod yn gallu dathlu llwyddiant Nerys heddiw. Mae’r cysylltiad rhyngom yn mynd yn ôl i’w chyfnod fel myfyriwr israddedig ym Mangor, pan oeddwn yn aelod o’r staff academaidd yn y Coleg ar y Bryn. Yr oedd gan Nerys ddiddordeb mawr yn y Testament Newydd bryd hynny, felly yr oedd yn gam naturiol – dros ddegawd yn ddiweddarach - iddi ysgrifennu ei thraethawd MA ar un o ffigurau benywaidd amlycaf Efengyl Ioan, sef y wraig o Samaria.  Dyma ffordd ardderchog i Nerys ailgydio mewn astudiaethau Beiblaidd ond hefyd, ar yr un pryd, i roi sylw i faes sydd o bwys mawr wrth drafod lle’r ferch mewn Cristnogaeth heddiw.”

Mae Nerys yn falch iddi ddyfal barhau gyda’i hastudiaeth, ac am annog eraill i’w dilyn: 

“Byddwn yn annog unrhyw un i wneud y cwrs. Roedd y gefnogaeth a’r arbenigedd y cefais gan yr adran heb ei ail. Roedd yn brofiad gwahanol i’m gradd gyntaf ym Mangor tua 15 mlynedd yn ôl gan roeddwn yn mynychu darlithoedd, seminarau ayb. Ond erbyn hyn gyda bywyd teuluol a gweithio llawn amser, roedd gwneud y cwrs o adref yn gweddu yn well gan roedd modd gwneud popeth ar lein.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon