Skip page header and navigation

Ddoe (19eg Mehefin) ymgasglodd cynrychiolwyr o’r byd academaidd a phlismona ledled Cymru yn Symposiwm Ymchwil Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) i drafod yr ymchwil cydweithredol a gynhaliwyd trwy AWPAC.

Three smiling people standing in front of a desk with a large screen behind them.

Sefydlwyd Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn 2022 fel rhwydwaith cydweithredol ar gyfer ymchwil plismona yng Nghymru, gan ddod ag ymchwilwyr o bob rhan o Gymru ynghyd i fynd i’r afael â heriau allweddol a chydweithio er mwyn helpu i wella plismona yng Nghymru. Mae’n dod â phedwar heddlu Cymru, swyddfeydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a naw prifysgol Cymru at ei gilydd, gyda chymorth Rhwydwaith Arloesedd Cymru (WIN).

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae AWPAC wedi darparu grant bach i gyllido wyth prosiect sydd â’r nod o fynd i’r afael â rhai o’r heriau allweddol mewn plismona. Cyflwynwyd canlyniadau a chanfyddiadau pob un o’r prosiectau a ariannwyd yn y symposiwm.

Un prosiect o’r fath a gefnogir gan AWPAC yw’r prosiect rhannu data Cymru Gyfan. Gan amlygu natur gydweithredol AWPAC, mae’n dod ag academyddion o bedair prifysgol yng Nghymru a dadansoddwyr yr heddlu o bob un o’r pedair ardal heddlu yng Nghymru at ei gilydd mewn ymdrech i uno data heddluoedd Cymru â chronfa data SAIL, sy’n dal cyfoeth o ddata poblogaeth a all helpu i ateb cwestiynau ymchwil. Byddai’r data pwysig hwn o gymorth i amrywiaeth eang o ymchwil i lywio arferion yr heddlu.

Mae prosiect arall wedi cynorthwyo cynrychiolwyr o’r heddlu ledled Cymru i weithio gydag academyddion i ystyried sut mae heddluoedd Cymru’n mynd i’r afael â chamdrin a thrais o fewn yr heddlu. Bydd canfyddiadau gwasanaeth peilot, Tabw, sy’n darparu cymorth emosiynol ac eiriolaeth ar gyfer goroeswyr trais yn erbyn menywod, camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu, yn cynorthwyo gwasanaethau allweddol ar draws Cymru i wella eu gwaith gyda dioddefwyr a goroeswyr.

Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrth siarad yn y symposiwm:

“Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn enghraifft wych o’r effaith y gall cydweithio ei chael. Mae’n galonogol gweld cymaint o brosiectau rhagorol yn derbyn cyllid trwy’r rhwydwaith hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, lle mae heddluoedd a phrifysgolion ledled Cymru wedi cydweithio i fynd i’r afael â heriau allweddol a llywio polisïau. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gefnogi’r symposiwm ymchwil hwn, ac edrychaf ymlaen at bopeth y bydd AWPAC yn parhau i’w wneud yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans, Heddlu Dyfed-Powys, cyd-gadeirydd AWPAC:

“Mae AWPAC yn llwyfan hanfodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a syniadau a all drawsnewid plismona. Trwy ddod ag academyddion a’r heddlu ynghyd, gallwn ddatblygu strategaethau sy’n arloesol ac yn ymarferol. Mae’r mewnwelediadau a geir o ymchwil academaidd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein polisïau a’n harferion, gan sicrhau ein bod yn barod i wynebu heriau’r presennol a’r dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Deborah Jones, Prifysgol Abertawe, cyd-gadeirydd AWPAC:

“Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan (AWPAC) wedi datblygu model o weithio rhwng prifysgolion a’r pedwar heddlu ledled Cymru sy’n cefnogi ymddiriedaeth a hyder mewn plismona trwy ddulliau cydweithredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dathlu llwyddiant AWPAC trwy’r symposiwm ymchwil hwn, gan dynnu sylw at y mentrau rhagorol sydd wedi’u hariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r prosiectau a ariennir gan AWPAC, cysylltwch ag innovation.network@uniswales.ac.uk

Prosiectau blwyddyn 1:

Prosiect rhannu data Cymru-gyfan: Dr Gwyn Griffith, Prifysgol Aberystwyth

Effeithiau sylw yn y cyfryngau cenedlaethol ar ymddiriedaeth a hyder lleol: Yr Athro Stefan Machura, Prifysgol Bangor

Dealltwriaeth a gweithrediad yr heddlu o’r cysyniad o fod yn agored i niwed wrth ymateb i anghenion gweithwyr rhyw yng Nghymru: Dr Jordan Dawson, Prifysgol Abertawe

Ffactorau sy’n annog ac yn rhwystro myfyrwyr i wirfoddoli gyda’r Heddlu: Bronwen Williams, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mynd i’r afael â cham-drin domestig o fewn yr heddlu – archwilio ymateb heddluoedd Cymru i ddioddefwyr a throseddwyr fel gweithwyr

Prosiectau blwyddyn 2:

Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched (TEMM), cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr Heddlu: Gwerthusiad o broses (parhad o brosiect Blwyddyn 1): Dr Sarah Wallace, Prifysgol De Cymru

Ymgyrch Diogel ac unedau arbenigol ar gyfer mynd i’r afael â TEMM ledled Cymru: Dr Bethan Davies, Prifysgol Caerdydd

Casineb at fenywod fel ffactor risg sy’n arwain at niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig: Claire Hodgkinson, Prifysgol Bangor


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau