Skip page header and navigation

Mae Dafydd Millns, un o raddedigion BA Addysg Antur Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi troi ei frwydr bersonol gydag iechyd meddwl yn stori am orchest a llwyddiant proffesiynol. 

An image of Dafydd Millns in his cap and gown

Dylanwadwyd ar benderfyniad Dafydd i ddilyn gradd mewn Addysg Antur Awyr Agored gan ei brofiadau personol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ar ôl blynyddoedd o therapi traddodiadol, dywed Dafydd ei fod wedi cael gobaith newydd ac iachâd drwy’r rhaglen Tonic Surf Therapy yng Ngorllewin Cymru. Gan gyfuno Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) â manteision therapiwtig syrffio, dywed Dafydd ei fod wedi darganfod ymdeimlad newydd o bwrpas a lles. Mae hefyd wedi ei ysbrydoli i helpu eraill.

Roedd y cwrs Addysg Antur Awyr Agored yn y Drindod Dewi Sant yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i Dafydd sy’n hanfodol ar gyfer gweithio mewn amgylcheddau dynamig yn yr awyr agored. Meddai: 

“Mae hyn wedi golygu gallu deall, rheoli a delio â risg ochr yn ochr â beth i’w wneud pan fydd pethau’n mynd o chwith. Yn ogystal, mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o bersbectifau a nodweddion addysg antur awyr agored ac addysg awyr agored o fewn cymdeithas a diwylliant.”

Cafodd addysg Dafydd ei chyfoethogi ymhellach gan brofiadau ymarferol, gan arwain at nifer o wobrau cyrff llywodraethu cenedlaethol ac aelodaeth o Dîm Achub Mynydd y Bannau Gorllewinol. Roedd y cyfleoedd hyn yn caniatáu iddo weithio fel hyfforddwr awyr agored llawrydd, gan ddatblygu ei wasanaethau a gweithredu’n annibynnol.

Roedd y cwrs Addysg Awyr Agored wedi’i leoli yng nghanolfan Cynefin, safle o’r radd flaenaf yn Nhre Ioan. Roedd y ganolfan hon yn cynnwys ystafell ddosbarth, mannau dysgu awyr agored, iwrt, trac beicio mynydd, ac offer awyr agored technegol amrywiol. Mae’r ganolfan yn gweithredu fel cymuned ar gyfer myfyrwyr addysg awyr agored a’r gymuned i rannu arfer a gweithio ochr yn ochr â’i gilydd. Roedd y cyfuniad o ddysgu damcaniaethol a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i Dafydd o sut i alinio theori ac arfer, gan roi hwb i’w hyder fel hyfforddwr ac ymarferydd.

Penderfynodd astudio yn y Drindod Dewi Sant oherwydd: 

“bod ei lleoliad gerllaw amgylcheddau naturiol, taith fer 45 munud i ffwrdd o Gaerfyrddin, yn cynnig mynediad at afonydd, traethau, mynyddoedd a choedwigoedd o’r radd flaenaf. Roedd hyn, ochr yn ochr â’i threftadaeth Gymreig gyfoethog, yn gwneud fy newis yn hawdd.”

Ychwanegodd Dafydd fod y cwrs wedi ei helpu i ddatblygu fel unigolyn: 

“Yn bersonol, rwy’n berson gwahanol iawn i bwy oeddwn i pan ddechreuais i astudio yn y Drindod Dewi Sant. Dwi wedi datblygu’n rhyngbersonol, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Dwi wedi datblygu sgiliau gydol oes o ran cadw amser a rheoli fy adnoddau fy hun. Mae gen i ddealltwriaeth ddyfnach o fy hunan-effeithiolrwydd fy hun ac uwchlaw dim byd arall dwi’n gweld fy hun fel person llawer mwy hyderus.”

O ystyried natur y cwrs a’r dosbarthiadau bach, tyfodd cyfeillgarwch yn gyflym rhwng myfyrwyr a darlithwyr gan ddod i adnabod ei gilydd yn dda. Roedd y darlithwyr yn gefnogol iawn yn academaidd ac yn ymarferol. Ychwanega: 

“Yn academaidd, roedd rhywun ar gael bob amser y gallwn gysylltu â nhw pe bawn yn cael trafferth gyda phwnc, ac yn ogystal â hyn, arweiniodd natur ‘agored’ y darlithwyr at safbwyntiau gonest, perthnasol a beirniadol ar bynciau trafod. Roedd hyn oll wedi deillio o ddegawdau o’u profiadau cyfoethog eu hunain. Yn ymarferol, roeddem yn aml yn cael cyfleoedd i weithio, cynorthwyo a chymhwyso ein dysgu ymhellach gyda grwpiau ac eraill. Unwaith eto, yn sgil eu profiad fel darlithwyr, maent yn gweithredu fel cyfle rhwydweithio anhygoel i unrhyw un sydd am wneud cysylltiadau yn y diwydiant.”

Ar ôl graddio, mae Dafydd yn bwriadu parhau â’i ddatblygiad mewn therapi antur. Diolch i gefnogaeth y Drindod Dewi Sant, mynychodd y 4ydd Gathering for Adventure Therapy Europe (GATE) yn Latfia, gan gysylltu â gweithwyr proffesiynol o’r un anian ledled y byd. Nod Dafydd yw dilyn gradd meistr ran-amser mewn seicoleg i integreiddio arferion awyr agored a therapiwtig. Mae’n gobeithio dod o hyd i waith rhan-amser neu wirfoddol mewn lleoliad clinigol i ategu ei astudiaethau. Ychwanega:

“Wrth symud ymlaen rwy’n gobeithio datblygu ymchwil ymhellach ym maes therapi awyr agored/antur ledled Cymru gyda’r gobaith o ddatblygu mesurau canlyniadau safonol, fframwaith moesegol a chymuned lle gellir rhannu arfer gorau a dysgu ohono.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon