Skip page header and navigation

Ar ôl tri degawd o wasanaeth ymroddedig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol amrywiol, mae Tina Pena-Smith, cyfarwyddwr, a chadeirydd Highgate Community Support LTD, elusen yn Birmingham, wedi cychwyn ar daith addysg uwch ysbrydoledig, gan wireddu dyhead hirsefydlog i ennill gradd. 

Tina Pena-Smith

Gyda gyrfa yn rhychwantu meithrinfa, cartrefi plant, gadael gofal, a thimau amddiffyn plant, gohiriodd Tina y freuddwyd hon oherwydd cyfyngiadau amser ac ymrwymiadau proffesiynol. Fodd bynnag, ar ôl colli ei mam yn 2018, penderfynodd Tina i ddilyn ei breuddwyd.

“Un o geisiadau olaf fy mam oedd i mi fynychu’r brifysgol a dilyn fy mreuddwydion,” meddai Tina. Wedi’i hysgogi gan yr anogaeth ddwys hon, dechreuodd archwilio cyfleoedd addysgol ac, yn 2019, cofrestrodd ar gampws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). 

“Roedd y rhaglen hyblyg, ran-amser a gynigir gan PCYDDS yn ei gwneud hi’n bosibl i mi gydbwyso fy astudiaethau â chyfrifoldebau bod yn rhiant sengl a bywyd proffesiynol,” meddai.

“Roeddwn wedi fy lleoli ar Gampws Aparkhill PCYDDS, gan ddechrau astudiaethau gyda chwrs ar Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle. Roedd hyn yn nodi dechrau fy nhaith gyda’r nod o ehangu cyfleoedd gyrfa, yn enwedig o fewn maes iechyd meddwl plant—maes sydd wastad wedi bod yn angerdd i mi.”

Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd Tina: “Uchafbwyntiau’r cwrs hwn yw’r hyder y mae wedi’i feithrin ynof, y gallu i sefyll dros yr hyn rwy’n ei gredu, a’r dewrder i gerdded i ffwrdd o sefyllfaoedd nad ydynt yn iawn imi. Rwyf wedi mwynhau dysgu gan ddarlithwyr gwych sydd wedi rhannu eu cyfoeth o wybodaeth yn hael.

“Ond rydw i hefyd wedi wynebu heriau. Collais fy mam, felly roedd yn daith emosiynol iawn i mi. Roedd fy mab yn sâl iawn ac wedi cael diagnosis o salwch hirdymor ac roedd angen ei dderbyn i’r ysbyty. Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hyn a theimlo fy mod eisiau rhoi’r gorau iddi, cofiais fy addewid i fy mam. Fi yw athro gorau fy mab, ac nid oedd ychwaith yn opsiwn iddo fy ngweld yn rhoi’r gorau iddi, ond yn hytrach fy ngweld yn dal ati, cwrdd â rhwystrau a dod o hyd i lwybrau newydd i gyflawni’r canlyniadau dymunol.

Gyda diddordeb personol dwfn mewn diabetes, mae Tina hefyd wedi cymryd rhan mewn ymchwil, gan rannu canfyddiadau yn eiddgar â chyfoedion a darlithwyr fel ei gilydd. Arweiniodd yr ymdrech academaidd hon at ei gwahodd i draddodi darlith ar “Byw mewn Gofal,” gan dderbyn adborth hynod gadarnhaol gan fyfyrwyr a darlithwyr. Dywedodd fod y profiad hwn wedi ei hysbrydoli i ystyried gyrfa yn y dyfodol mewn darlithio, wedi’i hysgogi gan angerdd newydd dros addysgu a rhannu gwybodaeth.

“Rwyf wedi mwynhau fy nhaith yma yn PCYDDS yn llwyr. Mae’r twf personol a’r hyder a enillais yn amhrisiadwy. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch rwyf wedi’u ffurfio ar hyd y ffordd. Mae’r cwrs yn bendant yn cefnogi fy rôl yn yr elusen rwy’n gweithio iddi, sydd wedi helpu i fod yn sail i’m Traethawd Hir ar gyfer fy ngradd Meistr.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon