Skip page header and navigation

Dathlodd Clybiau Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu llwyddiant yn eu noson wobrwyo gyntaf.

Grŵp o fyfyrwyr sy’n gwenu o Academi Chwaraeon PCYDDS yn sefyll gyda’i gilydd am lun grŵp hwyliog.

Cynhaliwyd y noson yn Ystafell Cothi yng Nghanolfan Gynadledda Halliwell ar gampws Caerfyrddin yn gynharach yn y mis, ac yn y tymor hanesyddol cyntaf hwn i Dimau Chwaraeon ac athletwyr unigol y Drindod Dewi Sant yn ôl yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), cafwyd nifer o wobrwyon i gydnabod cyflawniadau myfyrwyr y Drindod Dewi Sant eleni.

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Ers lansio’r Academi Chwaraeon ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a chan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, rydym ni bellach yn cymryd rhan yng nghystadlaethau, cynghrair a chwpanau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain sydd wedi arwain at ffurfio nifer o glybiau chwaraeon myfyrwyr newydd ar gyfer timau a mabolgampwyr unigol. Mae wedi bod yn gyflawniad gwych i gyrraedd ble rydym ni mewn cyfnod byr o amser, ac rydym ni wedi gweld y myfyrwyr yn ffynnu eleni wrth gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau BUCS.

“Roedd ein noson wobrwyo gyntaf yn ddigwyddiad ardderchog ac yn gyfle i fyfyrwyr a staff ddod at ei gilydd i gydnabod llwyddiannau eleni ac i adfyfyrio ar rai misoedd nodedig. Ond nid yw’r tymor drosodd eto am fod gan rai o’r timau/unigolion Rygbi saith-bob-ochr BUCS a nifer o Ddigwyddiadau/Pencampwriaethau Chwaraeon Unigol BUCS i fynd o hyd yn y flwyddyn academaidd yma!”

Myfyrwyr yn mynychu noson gyflwyno Academi Chwaraeon PCYDDS yn Ystafell Cothi yng Nghanolfan Gynadledda’r Halliwell.

Roedd yr enillwyr yn cynnwys:

  • Pêl-droed Dynion y Drindod Dewi Sant – Chwaraewr y Flwyddyn – Ross Buckley-Turner
  • Pêl-rwyd Menywod y Drindod Dewi Sant – Chwaraewr y Flwyddyn – Cathryn Jones
  • Rygbi Dynion y Drindod Dewi Sant – Chwaraewr y Flwyddyn – Jordan Evans
  • Chwaraeon Unigol y Drindod Dewi Sant – Person chwaraeon y Flwyddyn – Dominic Davies
  • Staff Cymorth y Drindod Dewi Sant – Myfyriwr y Flwyddyn – Joanna Cathersides
  • Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant – Myfyriwr y Flwyddyn – Jordan Evans

Enillodd Jordan Evans, aelod o garfan Llanymddyfri sy’n Uwch Gynghrair Cymru, Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn i Ddynion a myfyriwr anrhydeddus Academi Chwaraeon y Flwyddyn y Drindod Dewi Sant wedi iddo ddangos arddangosfeydd rhedeg gwych a gwaith amddiffynnol arbennig o fewn y tîm rygbi, ei ymrwymiad i’r rhaglen Cryfder a Chyflyru sydd ar waith i’n myfyrwyr athletaidd, a’i gyfraniad oddi ar y cae i’r fywyd y Brifysgol a’i ddiwylliant. Dywedodd:

Ychwanegodd Lee Tregoning:  

“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr, staff ac wrth gwrs enillwyr y gwobrwyon a hoffwn i hefyd ddiolch i bawb a gyfrannodd at wneud y noson yn un mor gofiadwy.”

Arddangosfa o wobrau a dillad chwaraeon.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau