Academïau Chwaraeon yn creu llwybr i fyfyrwyr gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon
Bydd partneriaeth strategol newydd rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Academi Chwaraeon Coleg Sir Benfro yn darparu llwybr i fyfyrwyr i gyfuno eu dyheadau academaidd a chwaraeon drwy Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
![Staff a myfyrwyr yn gwisgo crysau-t chwaraeon glas ac yn dal rhai i fyny i’r camera eu gweld.](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-10/sporting-academies-create-pathway-for-students-to-combine-academic-and-sporting-excellence.jpg?h=1f0260ec&itok=ZSwU4-dd)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arwain ar ddatblygu fframwaith i alluogi cydweithredu gyda sefydliadau eraill yn y rhanbarth, gan gynnwys ffurfio rhwydwaith o Sefydliadau Prifysgol Technegol yn gynharach eleni i ddod ag addysg uwch ac addysg bellach at ei gilydd, gyda’r ddau sefydliad yn rhan o’r datblygiad hwn. Mewn gwirionedd mae Coleg Sir Benfro a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eisoes wedi cydweithio ar benderfyniadau academaidd allweddol ers dros ddegawd ac mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau’r berthynas ymhellach.
Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp PCYDDS ac mae ein hymrwymiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol yn greiddiol i’n gweithgareddau. Nod y ddwy Academi Chwaraeon yw cefnogi myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon perfformiad uchel yn ystod eu cyfnod yn astudio.
Mae hyfforddiant ar lefel broffesiynol ac ymarfer cryfder a chyflyru ar gael i’r myfyrwyr, ynghyd â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw. Byddant hefyd yn cael mynediad i gyfleusterau chwaraeon ar draws y ddau sefydliad, cyfleoedd sy’n darparu’r amgylchedd i fyfyrwyr gystadlu yng Nghystadlaethau Chwaraeon Colegau Cymru a Cholegau Prydain o fewn Addysg Bellach a chynghreiriau, digwyddiadau a phencampwriaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) o fewn Addysg Uwch.
![Ystafell ddosbarth yn llawn myfyrwyr gwrywaidd mewn crysau t glas; mae aelod o staff yn siarad ac mae sgrin fawr yn dangos y geiriau – The Rugby Academy.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/sporting-academies-create-pathway-for-students-to-combine-academic-and-sporting-excellence-2.jpg?h=189cadc5&itok=dj19boYR)
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:
“Rydym yn gwella’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac addysg uwch i greu’r llwybr unigryw hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a chwaraeon perfformiad uchel a fydd o fudd i’n dysgwyr. Croesawn y cyfleoedd mae hyn yn eu creu i sicrhau gwell aliniad rhwng y ddwy academi chwaraeon. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth a chynyddu’r cyfleoedd addysg bellach, addysg uwch a dilyniant i ddysgwyr yn y byd academaidd a chwaraeon.”
Ychwanegodd Elaine Rees, Pennaeth Addysg Alwedigaethol Arbenigol yng Ngholeg Sir Benfro:
“Mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau’r cyfle i fyfyrwyr barhau â’u taith addysg a chwaraeon yng Ngorllewin Cymru. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y ddwy Academi yn darparu llwybr 5 mlynedd i fyfyrwyr nodweddiadol lle gallant hyfforddi a chymryd rhan ar y lefel uchaf mewn Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion gan hefyd gyflawni eu nodau academaidd.”
![Y gampfa; mae myfyriwr yn codi barbwysau.](/sites/default/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-10/sporting-academies-create-pathway-for-students-to-combine-academic-and-sporting-excellence-3.jpg?h=a610a299&itok=6hxsQ__S)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476