Skip page header and navigation

Mae academydd o’r Drindod Dewi Sant, Dr Dylan Blain, wedi bod yn ymgymryd â rôl sylwebu pêl-droed gyda S4C.

Gan wisgo clustffonau ac yn eistedd wrth ymyl offer ffilmio, mae Dr Dylan Blain yn troi ei gefn at y cae pêl-droed ac yn codi bawd at y camera.

Mae Dylan wedi ymuno â’r tîm ar ôl i S4C sicrhau’r hawliau llawn i ddarlledu pob un o gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Dan 21 Ewropeaidd UEFA 2025 am y tro cyntaf.

Roedd Dylan, cyn chwaraewr rhyngwladol dan 19 Cymru, unwaith eto y tu ôl i’r meicroffon wrth i Gymru wynebu Denmarc a Gwlad yr Iâ yn ddiweddar.

Yn dilyn y gemau diweddaraf hyn, dywedodd Dylan:

“Rwy’n falch iawn o weld bod y gemau Dan 21 hyn ar gael yn fyw ar S4C ac mae’n wir fraint cael y cyfle hwn i fod yn rhan o’r tîm sylwebu.

Mae’r criw presennol hwn o chwaraewyr dan 21 yn dalentog iawn ac maen nhw wedi cael dechrau cryf i’r ymgyrch hon. Mae chwarae dros Gymru yn gymaint o anrhydedd, a does dim byd yn curo gwisgo’r crys coch hwnnw a chlywed Hen Wlad fy Nhadau.”

Yn y Brifysgol, mae Dylan yn Gyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Chwaraeon a Byw’n Iach. Mae ei ddiddordebau academaidd yn cynnwys archwilio prosesau ysgogi mewn chwaraeon ac ymarfer corff.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau