Skip page header and navigation

Mae dwy aelod o Dîm Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant newydd ddychwelyd o Ganolfan Loris Malaguzzi, Reggio Emilia yn yr Eidal sy’n adnabyddus am ei dull ymarfer blynyddoedd cynnar, ac sydd wedi dylanwadu’n fawr ar addysg Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru.  

Natasha Young a Natasha Jones yn sefyll yng nghanolfan Loris Malaguzzi, Reggio Emilia yn yr Eidal.

Bu’n gyfle i Natasha Jones a Natasha Young o’r tîm Blynyddoedd Cynnar y Drindod Dewi Sant i rhwydweithio’n rhyngwladol â dros 420 o wahoddedigion ar draws y byd, gan ddod â’r arbenigedd yn ôl i Gymru er mwyn dylanwadu ar y sector yn ehangach. Cafodd y profiad hwn ei ariannu gan Raglen Symudedd Taith.

Mae Taith yn rhaglen newydd sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio dros y byd i gyd, gan ganiatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yn ein gwlad ni. Y pwrpas yw creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd o fyw newydd, a dod â gwersi yn ôl i’w rhannu â phobl gartref.

Dywedodd y darlithydd Natasha Young:

“Mae agwedd Reggio Emilia tuag at addysg a gofal blynyddoedd cynnar yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ledled y byd, ond mae ei brofi, yn uniongyrchol, a chael y cyfle i ddatblygu fy nealltwriaeth fy hun wedi bod yn wych. Mae ymweld â chanolfannau babanod a phlant bach ac ysgolion meithrin, cymryd rhan mewn seminarau a gweithdai craff ac addysgiadol a chael eich trochi yn nhraddodiad, hanes a diwylliant rhanbarth Reggio Emilia wedi fy ysbrydoli i ddod â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth honno’n ôl i’n myfyrwyr, nid i gefnogi eu datblygiad personol eu hunain ond i wella cyfleoedd a phrofiadau plant yng Nghymru.”

Disgrifiodd y darlithydd Natasha Jones y profiad fel un:

“cyfoethog a chalonnog; gan gwrdd â phobl oedd hefyd llawn emosiynau, a syniadau ar ran fel i ddarparu profiadau o ansawdd i blant ifanc.

“Mae’r gallu o fwynhau perthnasau a gweithio gydag eraill yng nghalon dull addysgu Reggio Emilia. Yn ol ei hymchwil nhw, os mae plentyn yn teimlo wedi ei werthfawrogi mae hyn yn adeiladu sylfaen cryf i ddysgu. Felly, nod yr ymarferwyr presennol yw creu perthynas gadarnhaol gyda’r disgyblion er mwyn gallu adnabod potensial pob un plentyn yn unigol, ac i ddefnyddio’r wybodaeth casglwyd fel adnodd i yrru eu haddysg bellach.”

Mae’r rhan fwyaf o’r profiadau a rhoddwyd i blant yno yn rhai ymarferol, gan gynnwys defnyddio gwahanol ddeunyddiau a’i casglwyd o’i Remida lleol (Canolfan ailgylchu). I blant ysgolion cynradd mae mynediad gennynt i atelier megis gweithdy golau, papur, ffotograffiaeth, creu marciau a llawer mwy, sy’n anelu at gyflawni profiadau i archwilio, darganfod a chwarae. Rôl yr oedolyn yn yr achos yma yw bod yn gyd-ddysgwr yn ei darganfyddiadau. Bu’r ddwy yn ddigon ffodus i dreialu rhai o’r gweithdai hyn a meddwl fel plentyn am gyfnod, a fu’n brofiad gwerthfawr iawn.

Meddai Natasha Young:

“Roedd y profiad yn amhrisiadwy o ran gweld a chlywed ein hunain sut mae’r dull hwn yn cefnogi datblygiad plant yn holistaidd, gwerthoedd pob plentyn fel rhai galluog a chymwys, yn pwysleisio pwysigrwydd perthnasoedd ac yn helpu i ddatblygu unigolion sy’n ddysgwyr creadigol, hyblyg ac ymreolaethol.”

Mae’r ddysgeidiaeth hon yn debyg i’r â’r athroniaeth yma yng Nghymru, gyda’r Cwricwlwm Newydd i Gymru a’r Cwricwlwm Newydd i Leoliadau Meithrin heb eu Cyllido yn anelu at alluogi unigolion i ddysgu, datblygu a dod yn gyd-adeiladwyr yn eu dysgu eu hunain.

Un o’r pethau wnaeth Natasha Young ganfod yn ddifyr oedd lefel yr ymddiriedaeth sydd gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn y ‘broses’ a pharch at ddewisiadau’r plant.

Dyn yn siarad â grŵp o bobl sy’n eistedd mewn gardd y tu allan i adeilad oren yn yr Eidal.

Ychwanegodd:

“Roedd y strategaethau pwrpasol, y dull a’r technegau a ddefnyddiwyd i gefnogi chwilfrydedd plant, datrys problemau, sgiliau meddwl beirniadol, hyder, annibyniaeth ac ymreolaeth yn rhywbeth arbennig i’w arsylwi.”

“Roedd creadigrwydd ac unigolrwydd yn amlwg drwyddi draw, mae cyfleoedd i unigolion archwilio ac ymchwilio mewn ffyrdd oedd yn bodloni eu hanghenion a’u dyheadau eu hunain ar unrhyw adeg benodol a’r ffaith y gallai hynny edrych yn wahanol i bob plentyn, yn cael ei ddathlu.

“Roedd pwysigrwydd perthnasau hefyd yn rhywbeth oedd yn sefyll allan i mi, perthnasau sydd gan y plant gyda’r ymarferwyr, y lleoliad, y byd o’u cwmpas, yr adnoddau, ei gilydd a’u hunain, ond hefyd y tu hwnt i hynny, roedd y staff gosod, y teuluoedd, y gymuned, yn creu’r ymdeimlad go iawn o berthyn yno.”

Er i’r ddwy gydnabod fod yr wythnos yn y ganolfan yn ddwys ac yn heriol, gan ei bod nhw’n cwmpasu gwerth 60 mlynedd o waith ymchwil i fewn i bum diwrnod, ni wnaeth hynny eu rhwystro rhag arbrofi, archwilio a rhannu profiadau gydag eraill.

Yn sicr, mae’r ymweliad yma wedi bod yn holl bwysig i rannu a datblygu arbenigedd, ac yn galluogi’r ddwy Natasha  a’r tim Blynyddoedd Cynnar i ddatblygu cyrsiau ac hyfforddiant arloesol, ac i gefnogi ymchwil sydd yn hybu addysg a gofal blynyddedd cynnar o’r safon uchaf.

Dywedodd Natasha Jones:

“Rydym yn dychwelyd adref llawn ysbrydoliaeth ac edmygedd, nid yn unig am yr ymarfer yn Reggio Emilia, ond hefyd am y pethau gwych sy’n cael ei chyflawni yn ein sector Blynyddoedd Cynnar yma yng Nghymru.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau