Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, AS, i gyflwyno prif anerchiad ei 10fed Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar 26 Mai. 

Grŵp o wyth o bobl yn sefyll y tu mewn i Neuadd y Brangwyn Abertawe.

Trefnir y gynhadledd, y mwyaf o’i math yng Nghymru ac un o’r mwyaf yn y DU, bob blwyddyn gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA) ac mae’n dod â darpar athrawon BA Addysg, TAR Cynradd a TAR Uwchradd at ei gilydd i rannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa ym myd addysg.

Yr Athrofa yw’r Ganolfan Addysg yn Y Drindod Dewi Sant. Daw â rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill ar gyfer addysgwyr ym mhob sector o’r system addysg at ei gilydd; cyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gydol-gyrfa, a gynlluniwyd drwy ddefnyddio ymchwil a chydweithio agos gydag ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau, ac arbenigedd; a Chanolfan Polisi, Adolygu a Dadansoddi Addysg (CEPRA) y Brifysgol.

Gwnaeth y gynhadledd ddarparu cyfle i glywed gan y Gweinidog Addysg ar ei agenda diwygio ac fe ymatebodd i gwestiynau gan ddarpar athrawon yn ystod sesiwn Cwestiwn ac Ateb fyw.

Dywedodd Jeremy Miles: “Roedd yn wych cael y cyfle i gyfarfod a gwrando ar gynifer o bobl dalentog a llawn cymhelliant sy’n ymuno â’r proffesiwn addysgu.

“Mae’n rhoi cymaint o obaith i mi ar gyfer dyfodol ein proffesiwn ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi ein gweithlu nawr ac yn y dyfodol.”

Ymhlith y siaradwyr gwadd eraill roedd yr Athro Graham Donaldson, sylfaenydd fframwaith cwricwlwm newydd arloesol Cymru; yr awdur, ymchwilydd ac athro Darren Chetty, a Phil Beadle, arbenigwr yn nhri maes llythrennedd/addysg Saesneg, rheolaeth ymddygiad a chreadigrwydd.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Donaldson yn gynghorydd ar ddiwygio addysgol i Lywodraeth Cymru ac yn aelod o Gyngor Rhyngwladol Ymgynghorwyr Addysg Prif Weinidog Yr Alban. Gwnaed Graham yn Gydymaith Urdd y Baddon gan y Frenhines yn 2009 am wasanaethau i addysg a derbyniodd Wobr Robert Owen fel addysgwr ysbrydoledig gan Lywodraeth Yr Alban yn 2015. Hefyd, mae wedi derbyn Doethuriaethau Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow.

Meddai’r Athro Donaldson: “Mae’n bleser bob tro cwrdd â chymaint o athrawon ac arweinwyr addysgol y dyfodol Cymru. Mae eu brwdfrydedd yn fy llenwi â hyder y bydd y diwygiadau uchelgeisiol yng Nghymru yn cael eu cynnal a’u cyfoethogi yn y blynyddoedd i ddod.”

Cafwyd cyflwyniadau gan Ffion Osmyndsen, Amber Prosser a Nia Loren, a roddodd mewnolwg unigryw i’r cynllunio gwersi arloesol sy’n cael ei wneud a’i gyflwyno mewn ysgolion gan ddarpar athrawon Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o dros 100 o ysgolion partner ar draws de Cymru, o Sir Benfro i Sir Fynwy. Roedd cynrychiolwyr o lawer ohonynt hefyd yn bresennol yn y gynhadledd.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae mynychu’r gynhadledd flynyddol hon yn rhoi boddhad mawr i mi bob tro.  Mae brwdfrydedd a chreadigrwydd ein hathrawon newydd yn galonogol iawn ac yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau