Skip page header and navigation

Fe wnaeth Vinicius Dreher, a raddiodd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro, ddysgu am y cwrs ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y tro cyntaf tra’r oedd yn gweithio i gwmni gwerthu beiciau modur Ducati ym Mrasil.

Vinicius Dreher yn eistedd o flaen dau feic modur rasio.

Roedd eisoes yn amser cyffrous i Vinicius, a oedd wedi cael y fraint o gefnogi reidiwr proffesiynol – ond wedi’i gyfareddu gan y posibiliadau o ehangu ei ddysg, fe gysylltodd â Dr Gregory Owen, Cyfarwyddwr Academaidd Peirianneg yn y Drindod Dewi Sant, i ddarganfod mwy.

Meddai Vinicius: “Ymatebodd Dr Owen yn garedig gan rannu’r geiriau canlynol gyda mi: “Ein nod yw rhoi’r holl hyfforddiant ac addysg i chi er mwyn dod yn beiriannydd proffesiynol. Mae hyn yn caniatáu i chi weithio mewn lleoedd fel WSB, Moto2, a MotoGP, ond mae’n rhaid i chi weithio’n galed iawn, iawn i gyrraedd yno.’

“Gwnaeth y geiriau hynny argraff ddofn arnaf, ac am sawl blwyddyn, fe wnes i feithrin breuddwyd i ddilyn y cwrs hwn. O’r diwedd, cyflwynodd y cyfle ei hun, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi ymuno â’r Drindod Dewi Sant i gychwyn ar y daith gyffrous hon.”

Dywedodd Vinicius, sy’n graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon, ei fod bob amser wedi cael ei gyfareddu gan natur gymhleth beiciau modur a’i fod wedi dyheu am ymchwilio’n ddyfnach i’w mecaneg, eu dyluniad a’u hegwyddorion peirianneg.

“Y cyfle i gael hyfforddiant ac addysg gynhwysfawr yn y maes arbenigol hwn oedd yr hyn a’m hysbrydolodd i ddewis y cwrs hwn,” meddai.

“Un o agweddau amlycaf fy nghwrs yw’r cyfleusterau anhygoel sydd ar gael i ni yn y brifysgol. Mae gennym fynediad at adnoddau o’r radd flaenaf, megis technoleg sganio 3D a pheiriannau CNC, sydd wedi bod yn allweddol yn ein profiad dysgu.

“Yn ogystal, mae presenoldeb beiciau modur i’w defnyddio’n ymarferol wedi ychwanegu elfen o archwilio ac arbrofi ymarferol, gan wneud y broses ddysgu hyd yn oed yn fwy deniadol ac effeithiol. Heb os, mae’r uchafbwyntiau hyn wedi gwella fy nhaith addysgol ac wedi darparu cyfleoedd amhrisiadwy i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliad ymarferol.”

Yn ystod ei flwyddyn olaf, cafodd Vinicius gyfle i ymgymryd â phrosiect arbenigol yn canolbwyntio ar hydrogen.

Fel rhan o’r prosiect hwn datblygodd feddalwedd ffynhonnell agored, am ddim sy’n galluogi defnyddwyr i gyfrifo metrigau perfformiad injan, gan gynnwys pwysedd, tymheredd, gwaith a wnaed, ac allyriadau.

“Mae’r feddalwedd yn cynnig ystod o 24 opsiwn tanwydd ac yn caniatáu ar gyfer addasiadau i’r gymhareb stoichiometrig. Mae’r gwaith arbenigol hwn nid yn unig wedi ehangu fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd wedi cyfrannu at y gymuned ehangach trwy ddarparu offeryn gwerthfawr ar gyfer dadansoddi injan,” meddai.

Fe wnaeth cydbwyso cyfrifoldebau bod yn rhiant i ddau o blant a swydd amser llawn yng Nghanolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru  (CBM) – cyfleuster ymchwil uwch sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, yn datblygu cynnyrch newydd, ac yn ymgymryd â gweithgynhyrchu arloesol ac arbrofol - ochr yn ochr â’i astudiaethau,  brofi i fod yn eithaf heriol i Vinicius. Fodd bynnag, roedd y rhain yn heriau y gwnaeth eu goresgyn gyda rhwydwaith agos o gefnogaeth.

Dywedodd Vinicius y byddai’n argymell y cwrs hwn yn fawr i eraill.

“Mae’n rhaglen unigryw ac arbenigol sy’n cynnig gradd gyda phwyslais penodol ar feiciau modur, sy’n ei gosod ar wahân i gyrsiau eraill. Mae’r cyfle i ennill gwybodaeth ac arbenigedd manwl yn y maes penodol hwn yn ddigyffelyb,” meddai.

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn hynod fuddiol i mi yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i mi i ragori yn fy ymdrechion proffesiynol, gan fy ngalluogi i fynd i’r afael yn hyderus â heriau ym maes beiciau modur.

“Rwyf hefyd yn gyffrous i rannu, o ganlyniad i gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, y byddaf yn dechrau rhaglen PhD yn y Drindod Dewi Sant .”

Meddai Dr Owen Williams, Cyfarwyddwr Peirianneg Beiciau Modur yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd yn amlwg o’r eiliad y gwnes i gwrdd â Vinicius ei fod yn berson angerddol a brwdfrydig iawn gyda diddordeb mawr mewn beiciau modur, rasio beiciau modur a phopeth sy’n ymwneud â pheirianneg. Yn ystod ei amser gyda ni mae wedi gwneud pob ymdrech i ddysgu popeth y gall ac i fanteisio ar ein holl gyfleusterau i feithrin ei sgiliau a’i ddatblygiad academaidd ymhellach.

“Mae wedi gweithio’n eithriadol o galed yn ystod ei radd ac mae bob amser wedi edrych i fod yn arloesol a gwreiddiol yn ei astudiaethau, gan gofleidio cyfleoedd newydd a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu ei ddealltwriaeth o’r beic modur a’i gymwysiadau yn well mewn amgylchedd perfformiad uchel.

“Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni ac yn gyffrous iawn ei fod yn aros gyda ni fel aelod o’n grŵp ymchwil i ddatblygu arloesedd pellach ym maes peirianneg beiciau modur.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon