Skip page header and navigation

Heddiw, yn Seremoni Raddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyddin cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Eifion Griffiths mewn cydnabyddiaeth o’i  wasanaeth neilltuol i’r Brifysgol, datblygiad ei champysau a’i gwaith rhyngwladol.

Eifion Griffiths gydag uwch aelodau’r Brifysgol i gyd yn gwisgo dillad academaidd llawn.

Wrth gyflwyno Eifion Griffiths i’r cynulliad, dywedodd Yr Athro Dylan E. Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae Eifion Griffiths yn ddyn gweithgar, cymwynasgar sy’n llawn egwyddor ac yn ddyn a wnaeth gyfraniad sylweddol iawn at lwyddiant a thwf y Brifysgol hon.

“Caiff ei weld fel unigolyn i’w barchu a’i edmygu gan nifer fawr yn ei gymuned. Os y’i ganwyd ef yng nghysgod castell Carreg Cennen yna mae ei gysgod gwirfoddol a chefnogol yntau wedi ei daenu dros yr ardal yr un mor eang. Mawr yw ein diolch iddo am ei holl gyfraniadau ac am ei haelioni”.

Bu Eifion Griffiths yn aelod o’r Cyngor yn ystod cyfnod allweddol yn nhwf y Brifysgol a bu’n gysylltiedig gyda nifer o fentrau cyffroes.  Mae’r rhain yn cynnwys yr uniad gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, datblygiad “Yr Egin” mewn partneriaeth a S4C ac ail strwythuro adnoddau’r Brifysgol yn Abertawe. Mae Eifion hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd y Colegau yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, sy’n rhan o Grŵp y Brifysgol.

Cafodd Eifion Griffiths ei addysg yn Ysgol Gwynfe ac yn Llandovery County High School. Wedi ei addysg hyd at lefel A, ymunodd â Banc Lloyds lle treuliodd y dyddiau cynnar yng ngorllewin Cymru cyn symud i Gaerdydd a Phont-y-Pŵl. Yna dechreuodd ar yrfa fel arweinydd tîm arolygu yng Nghaergrawnt, Dwyrain Lloegr, a Llundain. Ar ôl cyfnod o tua 6 mlynedd, dychwelodd i dde Cymru fel Rheolwr ym Mhort Talbot. Yn fuan cafodd y profiad gwerthfawr o gael ei secondio i Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) i hyrwyddo a chynghori busnesau i Gymru. Roedd y ddwy dasg yn heriau mewn gwahanol ffyrdd, yn arbennig, yn ystod y pwysau aruthrol a wynebwyd gan y diwydiant dur.

Ar ôl dwy flynedd gyda’r Awdurdod, fe’i penodwyd i swydd Rheolwr yn Abertawe, lle treuliodd ddeng mlynedd fel Rheolwr yn delio’n bennaf â chwmnïau a sefydliadau masnachol. Ym 1994 manteisiodd ar y cyfle i ailgyfeirio ei yrfa a chafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn bennaf gyfrifol am ochr fasnachol y brifysgol. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau ac awdurdodau megis Awdurdod Datblygu Cymru, y Cyngor Sir, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chwmnïau Tai. Yn y cyfnod hwn adeiladwyd Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru ar dir y brifysgol a chyfunwyd adnoddau chwaraeon y brifysgol a Chyngor Abertawe i greu Pentref Chwaraeon ar gyfer y gymuned gyfan. Adeiladwyd nifer o ganolfannau “Technium” hefyd mewn cydweithrediad ag Awdurdod Datblygu Cymru i bontio rhwng y sector Addysg Uwch a’r byd busnes.

Treuliodd Eifion hefyd ymrron i ddeng mlynedd ar Fyrddau Iechyd Bro Morgannwg a Hywel Dda, Cwmni Tai Gwalia a phum mlynedd fel Cadeirydd Bwrdd Masnachol Grŵp Pobl.

Dychwelodd Eifion, a’i wraig Undeg, i’w fro enedigol yn 2006, gan ymsefydlu yn Ffairfach, Llandeilo, ar ôl 26 mlynedd yng Nghastell-nedd.

Ychwanegodd yr Athro Jones:  “Mae creu’r Brifysgol hon yn cyd-fynd mor agos â gwerthoedd a chredoau craidd Eifion. Mae’n cydnabod rôl ehangach addysg uwch wrth greu cyfleoedd ar wahanol lefelau ac oedran i gynifer o unigolion â phosibl. Rydym yma i wasanaethu eraill a heddiw rydym yn cydnabod ymrwymiad Eifion i’r egwyddor graidd honno ac yn ei gymeradwyo am fod yn barod i roi’r gred honno ar waith. Nid yw geiriau gwag yn ddigon da i Eifion ac am y cryfder hwn o egwyddor a gwerthoedd rydym yn diolch o galon iddo”.

Mae Eifion yn parhau i gefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol ei filltir sgwâr. Treuliodd 8 mlynedd fel trysorydd Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg a chyfnod fel Cadeirydd Clwb Rygbi Llandeilo.  Bu’n rhan o’r tîm cynllunio ar gyfer gweithgareddau’r brifysgol i ddathlu 150 mlynedd ers chwarae’r gem gyntaf o rygbi yng Nghymru rhwng Coleg Dewi Sant, Llambed a Choleg Llanymddyfri yn 1866. Ar hyn o bryd mae’n drysorydd “Money for Madagascar”- elusen sy’n codi arian at brosiectau dyngarol ac addysgol ar ynys lle mae dinistr ecolegol dros y blynyddoedd wedi ei gwneud yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd.  Hefyd mae’n cyfrannu at lwyddiant Menter Dinefwr, sefydliad sy’n ceisio datblygu’r gymuned leol a hybu’r iaith Gymraeg yng ngogledd Sir Gâr.”

Yn sefyll gyda’i deulu, gwena Eifion Griffiths yn llydan.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Eifion Griffiths:

“Mae’n anrhydedd i mi gael sefyll ar y llwyfan heddiw i dderbyn yr anrhydedd hon. Mae hwn yn sefydliad sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi dros y deng mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser i mi ac Undeg i fod yn rhan o’r gymdeithas glos sydd yma yn y brifysgol.

Mae hwn yn ddiwrnod i’r graddedigion dderbyn eu gwobrau a llongyfarchiadau mawr a dymuniadau da diffuant i chi gyd. Rydych chi’n cychwyn ar daith ac am ddechrau i’ch gyrfaoedd. Byddwn yn eich annog i achub ar bob cyfle i barhau â’r dysgu hwnnw. Mae dysgu yn broses gydol oes. Bydd y  sylfaen yr ydych wedi ei osod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn eich rhoi mewn sefyllfa dda wrth i chi adeiladu ar eich gyrfaoedd.

Ar ôl i’r brifysgol fynd trwy gyfnodau mawr o newid, mae’n mynd trwy newid sylweddol arall gydag ymddeoliad y cadeirydd a’r is-ganghellor. Ar nodyn personol, hoffwn ddiolch iddynt am y fraint o gydweithio â nhw dros y blynyddoedd a dymunaf yn dda iddynt yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau