Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal Cynhadledd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar 13 Rhagfyr yn Arena Abertawe, gan ddod ag addysgwyr angerddol sy’n ymroddedig i addysgu cynhwysol ynghyd.

Ochr allanol Arena Abertawe wedi’i gorchuddio â phlatiau aur rhychiog.

Bydd y gynhadledd, a drefnir gan yr Athrofa, Canolfan Addysg y Brifysgol, yn cynnwys siaradwyr gwadd, sy’n arbenigwyr ym maes ADY i rannu mewnwelediadau a strategaethau gwerthfawr i wella arferion ystafell ddosbarth er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau disgyblion ag ADY.

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn dangos bod 74,661 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (15.8% o’r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022.

Mae’r gynhadledd yn rhan o raglen datblygiad proffesiynol yr Athrofa ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yn y Brifysgol.

Dywedodd Deon Cynorthwyol PCYDDS Anna Brychan: “Mae’r gynhadledd ADY a Lles yn uchafbwynt blynyddol i ni yn PCYDDS. Mae’n cynnig mynediad i’n hathrawon dan hyfforddiant, staff ac ysgolion partner at arbenigedd a thrafodaeth ysgogol gydag arbenigwyr ar draws pob maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant ehangach. Mae gennym ni gyd-destun polisi cyffrous ac arloesol ar gyfer ADY a Lles yng Nghymru; mae’r gynhadledd hon yn archwilio sut olwg sydd ar hyn yn ymarferol ac yn edrych i weld beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, beth mae’r ymchwil yn ei ddweud, a sut gallwn ni, gyda’n gilydd, sicrhau ein bod ni’n cynnig y cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr o bob oed a chyfnod.’

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Chris Britten, Pennaeth Gweithredol Ysgolion Arbennig Ffederal Bro Morgannwg gan gynnwys Ysgol y Deri a Huw Beynon, Arweinydd Tîm Cymorth Dysgu Cyngor Abertawe.

Bydd panel a ffurfiwyd gan Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn rhannu taith Ollie – addysg gydag ADY, mewn ysgol brif ffrwd.

Bydd staff o Amgueddfa Glannau Abertawe a chydweithwyr yn trafod “Gwneud yr Amgueddfa i Bawb.”

Bydd côr o Ysgol Gynradd Christchurch yn dod â’r gynhadledd i ben gyda’u perfformiadau o ffefrynnau’r Nadolig.

Bydd cyfres o weithdai Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cynnal y diwrnod canlynol ar Gampws Busnes Abertawe PCYDDS, wedi’u teilwra i fynd i’r afael ag ADY yn yr ystafell ddosbarth.

  • O strategaethau cynhwysol i gymorth personol i fyfyrwyr, nod y sesiynau dan arweiniad arbenigwyr yw rhoi mewnwelediad gwerthfawr a sgiliau ymarferol i gyfranogwyr.
  • Bydd cyfranogwyr yn gallu dewis 4 gweithdy o’r ystod a gynigir gan gynnwys :
  • Cipolwg ar yr asiantaeth sy’n cefnogi iechyd meddwl
  • Addysgeg sy’n Ymateb i Drawma
  • Pecyn cymorth o strategaethau i gefnogi dysgwyr Awtistig yn yr ystafell ddosbarth gynradd
  • Deall anawsterau lleferydd ac iaith yn y dosbarth
  • Bywyd y tu mewn i UCD – Uned Cyfeirio Disgyblion
  • Pwysigrwydd symud cynnar
  • Rôl y Cydlynydd ADY mewn ysgolion
  • Cefnogi ADY – Safbwynt rhiant
  • Cipolwg ar Ddyslecsia
  • Anabledd Corfforol a Phlant; safbwynt personol
  • Rôl Therapydd Galwedigaethol Plant
  • Cyflwyniad i Brosesu Synhwyraidd a sut mae’n effeithio ar ddysgu
  • Bywyd ac amseroedd gofalwr ifanc
  • Adlewyrchiad gonest o fod yn blentyn yn y system ofal
  • Dealltwriaeth o Gyflwr Sbectrwm Awtistig gan Awtistiaeth Cymru.

Nodyn i’r Golygydd

Mae’r Athrofa yn dwyn ynghyd raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill ar gyfer addysgwyr ym mhob sector o’r system addysg; cyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gydol gyrfa, wedi’u cynllunio gan ddefnyddio ymchwil a chydweithio agos â Llywodraeth Cymru, ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau, ac arbenigedd; a Chanolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg y Brifysgol (CEPRA).

Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o fwy na 100 o ysgolion partner ar draws de Cymru, o Sir Benfro i Sir Fynwy.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau