Skip page header and navigation

Mae’r flwyddyn academaidd hon yn dynodi pum mlynedd ar hugain ers sefydlu’r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. I ddathlu’r llwyddiant hwn gyda balchder, cynhelir arddangosfa a dathliad yn Stiwdio Griffith ar Gampws Dinefwr y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Grŵp o ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr yn agoriad yr arddangosfa i nodi 25 mlynedd o’r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffig; maent yn sefyll yn hapus o flaen y gwaith celf sy’n cael ei arddangos yn Stiwdio Griffith.

Mae’r arddangosfa, llafur cariad curadurol y darlithydd Dylunio Graffig, Harry Richmond, yn dyst gweledol amrywiol a chynhwysfawr i lwyddiant a hirhoedledd y cwrs hwn sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol.

Yma, mae Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffig, yn myfyrio ar noson hudolus a ddaeth â chyn fyfyrwyr yn ôl i’r Brifysgol i ysbrydoli ein myfyrwyr presennol:

Mae ein graddedigion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chyfraniad gweledol, nid yn unig o fewn Cymru a’r DU ond fwyfwy ar lefel fyd-eang. Ar ein noson agoriadol, roeddem wrth ein boddau o weld cynifer o’n cyn-fyfyrwyr, sydd bellach wedi dod yn ffrindiau cadarn ac yn llysgenhadon a chefnogwyr y rhaglen Dylunio Graffig, yma yn Abertawe.

Roedd hi’n bleser gweld Patrick Glavey – un o’n graddedigion o ‘gyfnod Covid’ - a chlywed ei fod wedi cael ei recriwtio’n ddiweddar gan OddCommon, i swydd a fydd yn gweld Patrick yn rhannu’i amser rhwng Llundain ac Efrog Newydd. Roedd cynifer o straeon ysbrydoledig gan bob un o’n raddedigion.

Dychwelodd y cyn-raddedigion James Packer a Nathan Griffiths - Uwch Ddylunwyr yn Sky News - i’r Brifysgol i roi trosolwg o’u rôl i’r myfyrwyr presennol, a chipolwg i’r dyfodol. Fe wnaeth James a Nathan, yn garedig iawn, osod briff ar gyfer y diwrnod, a chafodd saith grŵp bach ychydig oriau’n unig i gyflwyno syniadau ar gyfer creu delwedd ymarferol o’r stori ‘Partygate’ barhaus. Roeddem yn falch o glywed fod James a Nathan wrth eu bodd â safon y gwaith a gynhyrchwyd, gan roi tipyn o gur pen iddyn nhw wrth ddewis cyflwyniad buddugol!

Ar ôl tipyn o drafod, penderfynwyd y byddai’r grŵp a oedd yn cynnwys Summer Davies, Laura Wade, Ceri Thomas, a Jodie Bond yn cael gwahoddiad i bencadlys Sky yn Llundain ar gyfer taith breifat a chyfle i ail gyflwyno eu syniad i gynulleidfa fwy.

Mewn maes gwahanol o’r sbectrwm dylunio, bu cyn-fyfyrwyr eraill, Jon Dawkins, Heidi Griffiths a Dan Huxtable, yn adrodd straeon am lwyddiant yn y byd llawrydd a mentrau busnes bach, sy’n amlygu’r cyfoeth o opsiynau a chyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ein graddedigion Dylunio Graffig. Mae ein cwrs yn creu rhwydwaith cynyddol o ffrindiau hirsefydlog, myfyrwyr sydd wedi dod yn weithwyr proffesiynol, ac weithiau rhieni. Mae gennym angerdd mawr am ein cwrs a’r rhai sy’n ymrwymo tair blynedd o’u bywydau iddo. Y boddhad o chwarae rhan yn y straeon llwyddiant hyn yw’r hyn sy’n rhoi egni i’r tîm staff o flwyddyn i flwyddyn.

Mae pump ar hugain o’r blynyddoedd hynod greadigol hyn bellach wedi mynd heibio a byddem wrth ein boddau yn eich gweld yn y sioe ryfeddol hon, sy’n llwyddo i grisialu allbwn ac ymdrech y myfyrwyr a’r staff dros chwarter canrif balch. Mae’r digidol a’r cyffyrddol, y rhesymegol a’r emosiynol, y corfforaethol a’r heriol - i gyd yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynrychioli yn y dathliad hynod atyniadol hwn o’n harchwiliadau parhaus mewn gair a delwedd.

Cyn-fyfyriwr yn sefyll wrth ymyl un o’r gweithiau celf sydd i’w gweld yn yr arddangosfa i nodi 25 mlynedd o’r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffig.

Mae’r dathliad 25 mlynedd wedi bod yn brofiad adfyfyriol pwerus o goladu cynifer o straeon, a gweld sut mae’r gwaith wedi esblygu, ac yn parhau i esblygu, mewn diwydiant sy’n newid mor gyflym.

Yn yr agoriad mawreddog, roedd yna deimlad hudolus yn yr ystafell. Y ffordd orau gallaf ddisgrifio’r teimlad yw ei fod yn aduniad teuluol cyffrous. Cefais fy syfrdanu gan ystod y gyrfaoedd a’r profiadau mae ein graddedigion wedi symud ymlaen iddynt. Parhaodd yr wythnos gyda gweithdai a siaradwyr o fyd diwydiant, sydd bob amser yn rhan hanfodol a buddiol o’n hwythnos ddylunio. Diolch o galon i’n holl siaradwyr ac i’n myfyrwyr presennol am eu hymgysylltiad. Llawer o ddiolch i Mark Cocks, ein Deon Cynorthwyol, a roddodd araith agoriadol galonogol, a Caroline Thraves, ein Cyfarwyddwr Academaidd, sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith.

Mae’r sioe yn parhau tan 6 Ebrill yn Stiwdio Griffith, Campws Dinefwr, Coleg Celf Abertawe. PCYDDS, SA1 3EU.

Ar agor o 10am tan 4pm gan gynnwys dydd Sadwrn.

Cawsom ein noddi’n garedig ar gyfer y sioe gan y cyflenwyr papur uchel eu parch G.F Smith ac mae gennym rai posteri sgrîn sidan, argraffiad cyfyngedig, a ddyluniwyd gan Phil Thomas, ar gyfer ein holl ymwelwyr. Diolch yn fawr i Phil am yr holl ddyluniadau.

I gael rhagor o wybodaeth: Donna.williams@uwtsd.ac.uk

Mae cyn-fyfyriwr yn gwenu wrth ymyl un o’r gweithiau celf sydd i’w gweld yn yr arddangosfa i nodi 25 mlynedd o’r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Graffig.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon