Skip page header and navigation

Mae’r artist Vivian Ross-Smith, Cymrawd Freelands Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn arddangos yn Stiwdio Griffiths yn Adeilad Dinefwr yn Abertawe. 

Mewn llun unlliw, menyw â gwallt hir yn penlinio ar ddarn crwn o frethyn ac yn tylinio gwrthrych â'i dwylo; taflunnir fideo ar y wal y tu ôl iddi.

Mae Holding Place yn arddangosfa unigol sy’n archwilio cyffwrdd, gofal a lle. Gellir gweld y corff newydd hwn o waith tan 26 Ionawr a hwn yw diweddglo cyfnod Vivian fel Cymrawd Stiwdio Sefydliad Freelands yng Ngholeg Celf Abertawe.

Mae’r Brifysgol yn un o chwe phrifysgol ar draws y DU sy’n rhoi cartref i Gymrodoriaethau Stiwdio arobryn Freelands. Lleolir y Cymrodyr llwyddiannus yn eu prifysgol letyol am flwyddyn galendr lawn. Rhoddir stiwdio iddynt yn yr adran Celf Gain, mynediad at gyfleusterau gweithdy a llyfrgell ac fe’u cefnogir gan fentor addysgu.

Mae ffocws y Cymrodoriaethau ar ddatblygu arfer yn barhaus, ac ochr yn ochr â hynny bydd y Cymrodyr yn cynorthwyo i addysgu’r myfyrwyr cyfredol yn eu prifysgol letyol.

Mae Vivian Ross-Smith yn cael ei mentora gan yr Athro Celf Gain a Chyfarwyddwr Cwrs, Sue Williams. Mae Vivian, a fagwyd ar Fair Isle, yn defnyddio mannau ffisegol a digidol i wneud gwaith peintio, perfformio a thecstilau. Mae ganddi radd Meistr gyda Rhagoriaeth o Ysgol Gelf Glasgow (2020) a BA (Anrh) o Ysgol Gelf Gray (2013).

Yn ei harfer mae Vivian yn archwilio obsesiwn â materoliaeth. Mae’n mynd i’r afael â gwneud trwy brosesau rhythmig, corfforol, gan arwain at ganlyniadau dwys sydd i’w teimlo, eu profi, a’u gwisgo. A hithau wedi’i dylanwadu’n drwm gan ei safbwynt fel artist a fagwyd ar ynys, mae gwaith Ross-Smith yn ystyried gweithredoedd cymunedol o gasglu a gwneud sy’n archwilio themâu lle, cymuned, gofal, cysur, hygyrchedd a chyfathrebu.

Meddai Vivian: “Mae fy nghyfnod yn Gymrawd yng Ngholeg Celf Abertawe wedi cefnogi f’arfer mewn ffyrdd newydd ac anhygoel. Rwyf wedi mwynhau gweithio o fewn yr adran Celf Gain yn fawr, gan ganolbwyntio ar wneud cynnydd yn fy ngwaith a’m hymchwil, a chefnogi’r myfyrwyr rhagorol i ddatblygu eu llais artistig. Rwy’n falch o gyflwyno fy sioe unigol ‘Holding Place’ yn gynnig cyffyrddol yn ôl i’r ysgol gelf a chymuned Abertawe sydd bellach mor bwysig i mi.”

Meddai’r Athro Sue Williams: “Mae bod yn rhan o Gymrodoriaeth Stiwdio Freelands wedi bod yn gyfle eithriadol i’n cwrs Celf Gain ac mae Vivian Ross-Smith, a hithau’n Gymrawd cyntaf i ni, yn sicr wedi dod yn rhan gynhenid o’r adran. Mae cyflwyno Cymrawd o fewn ein cwrs wedi ychwanegu llais a safbwynt unigryw. 

“Mae’r myfyrwyr wedi ymgysylltu’n drwyadl â Vivian ac wedi bod ar eu hennill yn fawr yn sgil ei chyfranogiad hithau, nid yn unig yn eu stiwdios ond o fewn ei stiwdio hithau hefyd. Mae’r gwahoddiad agored hwn i amgylchedd gwaith Vivian wedi galluogi myfyrwyr i sylweddoli beth bydd arfer stiwdio yn ei olygu yn y dyfodol. Yn sicr byddwn yn drist i weld Vivian yn ein gadael ni a dymunwn yn dda iddi yn y dyfodol.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym wrth ein bodd i groesawu Vivian yn Gymrawd Freelands yng Ngholeg Celf Abertawe (PCYDDS). Nifer bach o brifysgolion sy’n cael bod yn gartref i’r Gymrodoriaeth fawreddog hon ac felly mae hyn yn arwydd o ragoriaeth Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe.”

Yn ystod eu Cymrodoriaeth, bydd Cymrodyr yn ymweld â dwy brifysgol arall sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ac yn gweithio gyda myfyrwyr a staff fel darlithwyr gwadd. Mae pob Cymrawd yn derbyn bwrsari o £22,000 dros gyfnod y Gymrodoriaeth. Maent yn gweithio tuag at arddangosfa unigol, a gynhelir yn eu prifysgol letyol.

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Sefydliad Freelands a’r prifysgolion, sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r rhaglen, gyda’r Sefydliad yn darparu’r cyllid a’r seilwaith a’r prifysgolion yn goruchwylio’r cymrodoriaethau unigol, yn ogystal â recriwtio a chefnogi’r artistiaid.

Daw’r Cymrodoriaethau i ben gydag arddangosfa grŵp yng Ngwanwyn 2024, a gynhelir yn oriel Sefydliad Freelands yn Llundain, yn arddangos gwaith cymrodyr y flwyddyn honno. I gyd-fynd â’r arddangosfa hon ceir catalog yn llawn darluniau sy’n cynnwys ysgrifennu beirniadol: cyfle i gael amlygrwydd a disgwrs beirniadol ar adeg arwyddocaol yn eu gyrfa gynnar.

Nodyn i’r Golygydd

Holding Place

Arddangosfeydd ar agor nawr tan 26 Ionawr 2024
Llun–Gwe 10am–5pm

Stiwdio Griffith
Coleg Celf Abertawe
Campws Dinefwr
Stryd De-La-Beche
SA1 3EU

Ymgasglwch yn yr oriel…

Dydd Iau 18 Ion, 5:30–8pm Gweithdy gyda’r Prosiect Blancedi LHDTC+, gwybodaeth a thocynnau am ddim yma

Dydd Iau 25 Ion, 5:30–8pm Perfformiad a digwyddiad cloi 

Yn cyd-fynd â holding place mae Teimladwyedd, testun gan Dylan Huw sydd ar gael yn yr oriel.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau