Skip page header and navigation

Cynhaliodd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru gynhadledd ryngwladol ar 3–6 Mehefin 2024 a oedd yn edrych ar fwyngloddio a metelau Oes yr Efydd a’r cysylltiadau pellgyrhaeddol rhwng Sgandinafia, Cymru a thu hwnt. 

Group photo of delegates at the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies (CAWCS) international conference held between 3–6 June 2024

Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i adeiladu fframweithiau newydd ar gyfer archwilio goblygiadau masnach Oes yr Efydd ar gyfer trafnidiaeth forol, ymfudo, newid cymdeithasol, a chyswllt rhwng ieithoedd cynhanesyddol.  

Mae dadansoddiad cemegol ac isotopig diweddar ar offer ac arfau o’r Oes Efydd Nordig yn dangos mai ffynonellau pwysig ar gyfer y metel oedd mwyngloddfeydd copr hynafol ger Aberystwyth yng nghanolbarth Cymru o 2100–1700 CC ac ar y Gogarth yng ngogledd Cymru o 1700–1400 CC.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod o sgyrsiau a thrafodaethau panel yn y Ganolfan ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y siaradwyr yn cynnwys arbenigwyr o Gymru, Lloegr, Sbaen, Llydaw, Sgandinafia, ac America. Cafwyd ymweliad undydd â mwyngloddfeydd o Gyfnod y Biceri ac Oes yr Efydd Gynnar (2200–1700 CC) yng Nghwmystwyth gyda’r prif arbenigwr ar y safle (Dr Simon Timberlake, Caer-grawnt). Roedd yr offer cloddio a ddarganfuwyd ar y safleoedd hyn yn cynnwys llawer o forthwylion cerrig a weithiwyd o gerrig crwn y môr, wedi eu cludo i’r dyffryn o’r arfordir, lle mae tref Aberystwyth bellach mewn harbwr naturiol, islaw bryngaer gynhanesyddol Pendinas, gyda’i golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir ac i fyny dyffryn Ystwyth tuag at y mwyngloddfeydd. Aeth yr ail daith i fwynglawdd Oes yr Efydd Ganol (1700–1400 CC) ar y Gogarth gyda’r prif arbenigwr ar y safle honno (Dr Alan Williams, Lerpwl a Durham). 

Johan Ling, Lene Melheim (Oslo) and Alan Williams on mountain discussing Early Bronze Age finds at Cwmystwyth ancient mine site 6/6/24)
Johan Ling, Lene Melheim (Oslo) ac Alan Williams yn trafod darganfyddiadau o Oes yr Efydd Gynnar ar safle mwynglawdd hynafol Cwmystwyth 6/6/24

Sefydlodd y gynhadledd rwydweithiau a mentrau penodol ar gyfer ymchwilio i oblygiadau ‘ffyniant a methiant’ mwyngloddfeydd copr yng Nghymru Oes yr Efydd ac edrychwyd ar le mwyngloddio, metelau a chysylltiadau dros gryn bellter daearyddol yn ystod Oes yr Efydd o safbwynt diwylliannau, poblogaethau, ac ieithoedd.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd, yr Athro John T. Koch o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: ‘Mae ymwybyddiaeth eang yng Nghymru o bwysigrwydd mwyngloddio o ran hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y cyfnod modern. Mae wedi effeithio ar gymaint o bobl, yn eu cefndir teuluol ac wrth lunio’r lleoedd y maent yn byw yddynt mewn gwahanol ffyrdd. Pan fyddwch yn egluro bod mwyngloddio, a mwyngloddio allforion, yn mynd yn ôl 4,000 o flynyddoedd yn hanes Cymru, mae hynny’n newyddion syfrdanol. Mae’n tanio diddordeb yn syth y tu hwnt i’r gynulleidfa arferol ar gyfer ymchwil arbenigol’.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘Rydym yn hynod falch fod y gynhadledd yn cael ei chynnal yma yng Nghymru, yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn y lleoliadau yng Nghwmystwyth a Phen y Gogarth sydd mor allweddol i’r maes ymchwil hwn. Hoffwn longyfarch arweinydd y prosiect, yr Athro Johan Ling o Brifysgol Gothenburg, a’r Athro John T. Koch ar guradu cynhadledd arbennig. Hoffwn hefyd estyn ein diolch i fanc canolog Sweden am gefnogi prosiect ‘Cyfrangau Arforol’.’

Mae’r gynhadledd yn datblygu ar seiliau prosiect chwe blynedd rhyngddisgyblaethol dan nawdd banc canolog Sweden, sef ‘Cyfrangau Arforol: gwrthbwynt i’r naratif llywodraethol am gysylltiadau daearol cynhanes Ewrop’. Mae’r prosiect yn cynnwys 17 o arbenigwyr o feysydd archaeoleg, ieithyddiaeth hanesyddol, geneteg, eigioneg ac anthropoleg wedi eu lleoli mewn 8 gwlad. Bydd y prosiect yn adrodd stori fanylach am sut y gwnaeth cymdeithasau cynhanesyddol wireddu mordeithiau agos a phell, trefnu masnach o bell, a’u ffordd o fyw ger y môr yn y cyfnod cynhanesyddol. Am fwy o wybodaeth gweler: https://www.gu.se/en/research/maritime-encounters

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru, a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon