Skip page header and navigation

Fe wnaeth Anupa Paul a astudiodd ei chwrs MA Addysgeg y Llais yn gyfan gwbl o gysur ei chartref yn Chennai, India, ddathlu ei llwyddiant gyda ffrindiau a theulu yn y seremoni raddio 2023 ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Anupa Paul yn gwenu mewn gwisg academaidd.

Roedd Anupa, sydd wedi bod yn athrawes ganu ers dros 10 mlynedd, yn falch iawn o fod wedi dod o hyd i raglen y Drindod Dewi Sant, MA Arfer Proffesiynol – Addysgeg y Llais, ar ôl chwilio ym mhob man am gwrs achrededig yn ymwneud â’i gyrfa.

Dywedodd hi: “Er fy mod eisoes yn athrawes ganu ac wedi cwblhau nifer o gyrsiau byr i’m helpu yn fy ngyrfa, roedd gen i lawer o gwestiynau heb eu hateb - roeddwn i eisiau dod yn athrawes gwell a rhoi’r profiad gorau i’m myfyrwyr.

Pan ddes i ar draws MA Addysgeg y Llais a oedd yn caniatáu imi ddilyn fy nghwestiynau a meysydd diddordeb fy hun, roeddwn i’n gwybod mai dyma oedd y cwrs iawn i mi - ac roedd y ffaith fy mod i’n gallu’i gwblhau o India yn berffaith!”

Mae’r MA Arfer Proffesiynol – Addysgeg y Llais, sydd wedi’i achredu gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) yn y Drindod Dewi Sant ar gyfer Canolfan Astudio’r Llais, wedi ei gyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein ac yn galluogi gweithwyr proffesiynol fel athrawon canu, cyfarwyddwyr corawl a therapyddion iaith a lleferydd i roi theori ar waith o fewn maes eang Addysgeg y Llais.

Saif Anupa Paul rhwng darpar-raddedigion eraill yn ystod y seremoni.

Ers cwblhau ei gradd yn 2022, mae Anupa wedi ychwanegu nifer o gyflawniadau a phrofiadau at ei CV gan gynnwys cyflwyno ymchwil a gynhaliwyd ganddi fel rhan o’i hastudiaethau ar y cwrs Meistr yng nghynhadledd Cymdeithas yr Athrawon Canu (AOTOS) yn Llundain, cynhadledd ar-lein Singing for Health Network, a bydd yn cyflwyno yn y Symposiwm Rhyngwladol ar Wyddor Perfformio (ISPS) eleni yn Warsaw.

Mae ei hymchwil ar orbryder perfformio cerddoriaeth mewn cantorion yn rhywbeth a oedd yn bersonol ac yn bwysig iddi, ac roedd yn sbardun arall y tu ôl i wneud cais am y cwrs.

“Pan brofais orbryder fy hun fel canwr, y cyngor ges i oedd i gymryd anadl ddofn a meddwl am bethau hapus, ond doedd hyn ddim bob amser yn gweithio i mi. Roeddwn i’n gallu gweld fy myfyrwyr fy hun yn cael yr un problemau ag yr oeddwn i wedi’u profi, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth am hyn - roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi wneud hynny.

Roedd y tiwtora a’r mentora rhagorol a gefais yn ystod fy nghwrs yn sicrhau bod fy ymchwil yn cael ei gynnal mewn modd trylwyr a phroffesiynol, ac mae hyn wedi rhoi’r hyder i mi gyflwyno fy ymchwil i wahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys athrawon canu, ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.”

O’r diwedd llwyddodd Anupa i gwrdd wyneb yn wyneb â un o’i thiwtoriaid y mae’n eu canmol a diolch iddynt yn ei seremoni raddio a gynhaliwyd ar gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant ar 3ydd Mehefin, 2023.

Meddai Debbie Winter, Cyfarwyddwr Canolfan Astudio’r Llais a thiwtor Anupa ar y cwrs MA Addysgeg y Llais:

“Roedd yn wych cwrdd ag Anupa am y tro cyntaf wyneb yn wyneb. Fe wnes i ei goruchwylio am dair blynedd o India dros Zoom. Fe aethon ni trwy’r Pandemig gyda’n gilydd a dioddefodd India’n wael iawn yn ystod yr argyfwng. Daliodd ati ac roedd yn anhygoel i’w gweld yn blodeuo ac yn dod i mewn iddi hi ei hun. Cyflawnodd Anupa Ragoriaeth ac mae hi wedi bod yn teithio o gwmpas Ewrop gyfan yn cyflwyno ei gwaith ar Bryder Perfformio Cerddoriaeth mewn ystod o gynadleddau mawreddog. Mae hi wir yn ysbrydoliaeth ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol. Dwi’n edrych ymlaen at weld lle fydd Anupa yn mynd nesaf gyda’i dyfodol.”

Mae Anupa yn parhau i addysgu a hyfforddi grwpiau ac unigolion, ac mae’n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous:

“O’r diwedd mae cael gradd achrededig wedi rhoi’r hyder i mi archwilio pethau na fyddwn i erioed wedi’u hystyried o’r blaen. Mae wedi agor drysau i mi, yn enwedig yn Ewrop lle rwy’n bwriadu symud i weithio ddiwedd y flwyddyn.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau