Skip page header and navigation

Mae busnes offeryn cerddorol digidol o Abertawe wedi cael ei gefnogi’n llwyddiannus trwy gydweithrediad ymchwil a datblygu gyda Phrosiect Scale Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

The hurdy-gurdy, which comprises drones and melody strings bowed by a rotating wheel, played by pressing keys which contact them at different points.
Funded by UK Government; Scale.

Caiff Scale, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad a thwf busnes mentrau sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Abertawe a’i gyflwyno gan PCYDDS. Cefnogir y Prosiect gan gydweithwyr PCYDDS, gan gynnwys y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a’i Chymrodyr Arloesi.

Mae Dingley Innovations Ltd, sydd wedi’i leoli yn Llangyfelach, yn cynhyrchu offeryn electronig fforddiadwy o’r enw’r Digi-Gurdy.  Fersiwn ddigidol fodern o offeryn cerddorol o’r 10fed Ganrif o’r enw’r hyrdi-gyrdi yw’r Digi-Gurdy. Mae’r hyrdi-gyrdi’n cynnwys llinynnau grŵn ac alaw a blygir gan olwyn sy’n troi, ac fe’i chwaraeir trwy bwyso allweddau sy’n cysylltu â nhw ar bwyntiau gwahanol. 

Dyfais cwbl electronig yw’r Digi-Gurdy y gellir ei ymarfer yn unrhyw le. Mae ganddo allweddau wedi’u lleoli’n gywir sy’n allbynnu MIDI trwy gebl USB i gyfrifiadur, ffôn neu iPad sydd wedi’i gysylltu neu ei baru’n ddi-wifr ac sy’n rhedeg meddalwedd chwaraewr MIDI addas. Caiff corff y Digi-Gurdy ei dorri â laser er cywirdeb gyda’r electroneg mewnol a mecanwaith y cranc, ac mae ganddo baneli mynediad ar yr ochr isaf.

Ers 2023, mae gosod bwrdd sain mewnol a soced clustffonau/llinell allan wedi galluogi chwaraewyr i droi’r offeryn ymlaen a’i ddefnyddio heb ei gysylltu â ffôn neu iPad. Mae hyn yn caniatáu i’r chwaraewyr ymarfer heb darfu ar deulu, cymdogion, neu gyd-letywyr, yn enwedig os ydynt yn ddechreuwyr.

Dywedodd Dr John Dingley, Rheolwr Gyfarwyddwr Dingley Innovations: “Gall cost uchel ac amseroedd aros hir am gynnyrch fod yn rhwystr mawr i egin chwaraewyr. Roedd gen i ddiddordeb yn y cydweithrediad hwn trwy brosiect Scale i archwilio potensial optimeiddio proses weithgynhyrchu’r Digi-Gurdy. 

“Yn benodol, roeddwn am archwilio sut y gallem leihau’r nifer o oriau gwaith sydd eu hangen i gynhyrchu’r cynnyrch, a chynorthwyo gallu’r busnes i gynyddu cynhyrchiant i fodloni nifer gynyddol o archebion.”

Cyn gweithio gyda phrosiect Scale, câi pob Digi-Gurdy eu cydosod mewn proses araf deg a oedd yn golygu lleoli a gludo cydrannau pren lluosog â llaw, a oedd yn cael eu dal yn eu lle gan nifer o glampiau wedi’u gosod yn ofalus. Roedd yr amser a’r ymdrech a oedd ei angen i alinio a gludo pob Digi-Gurdy â llaw yn creu tagfa yn y broses gynhyrchu, gan gyfyngu ar gyfanswm nifer yr archebion y gellid eu cyflawni bob mis.

Meddai Nick Thatcher, Arweinydd Prosiect ar y cydweithrediad Scale hwn, a Chymrawd Arloesi ATiC yn PCYDDS: “Fe wnaeth Dingley Innovations bartneru â’r prosiect Scale ar brosiect ymchwil a datblygu cydweithredol pedair wythnos o hyd i archwilio sut y gellid defnyddio jigiau (offer pwrpasol a ddefnyddir i reoli lleoliad a/neu symudiad rhannau neu offer eraill), gosodion, a gludyddion sy’n sychu’n gyflym, i optimeiddio’r broses gydosod.

“Hwn yw’r prosiect Scale cyntaf i gael ei gwblhau’n llwyddiannus, ac roedd yn her anarferol. Roedd y jig terfynol a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gennym ar y cyd yn gweddu’n unigryw i alluoedd argraffu 3D ATiC, sydd o’r radd flaenaf, gan ganiatáu amseroedd cwblhau cyflym ar gyfer yr offer cynhyrchu pwrpasol.”

“Roeddwn wrth fy modd gyda chanlyniad cydweithrediad Dingley Innovations â phrosiect Scale,” ychwanegodd Dr Dingley.

“Mewn cwta pedair wythnos, fe wnaeth y prosiect alluogi fy nghwmni i ddatblygu proses newydd, llawer gwell i gynhyrchu’r Digi-Gurdy yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae’n enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae Scale yn helpu busnesau bach lleol i dyfu a chynyddu refeniw.”

Mae prosiect Scale, sy’n rhedeg drwy gydol 2024, yn helpu mentrau wedi’u lleoli yn Abertawe sydd am ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn ogystal ag ymgorffori technolegau a phrosesau newydd. Caiff ei gyflwyno trwy gyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar fusnes, sesiynau cymorth un i un, a phrosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol.

Yn ogystal, mae Scale yn gweithio gydag egin entrepreneuriaid a busnesau newydd drwy raglen lansio a chyflymu, wedi’i chynllunio i greu busnesau cynaliadwy newydd yn Abertawe.

Powered by Levelling Up; University of Wales Trinty Saint David; Scale.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon