Skip page header and navigation

Anerchiad Taya Gibbons, llywydd grŵp, Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, i raddedigion Birmingham.

Yn gwisgo gŵn a het academaidd, mae Taya Gibbons yn sefyll wrth ficroffon ar y llwyfan.

“Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd, rydych chi wedi’i gwneud hi o’r diwedd. Mae pobl wedi siarad o fy mlaen i, a byddant yn parhau ar fy ôl i, i’ch llongyfarch a dymuno’n dda i chi, ond roeddwn i am ofyn i chi i stopio am funud a sylwi ar yr holl ogoniant.

Cymrwch anadl ddofn, gafaelwch yn yr eiliad hon â’ch dwy law, dathlwch bob cyrhaeddiad unigol, rydych chi’n ei haeddu.

Nid y brifysgol yw diwedd eich taith, ond dechrau dyfodol yn llawn o obaith a llwyddiant disglair. Yn y byd sydd ohoni, allwch chi ddim â rheoli sut mae pobl eraill yn eich gweld chi, yn eich beirniadu chi, na’ch trin chi, ond trwy symud ymlaen heb ofn, dyna sut rydych chi wedi rheoli eich rhagoriaeth i fod yma heddiw.

Rwy’n andros o falch i sefyll yma o’ch blaen, carfan o lwyddiant drwyddi draw. Mae’r brifysgol yn gyfnod heriol o’ch bywyd, yn gorfforol ac yn emosiynol, ond gyda’r gwydnwch a’r penderfyniad a ddangoswyd gennych, rydych chi wedi cyrraedd y pwynt hwn. Onid yw hynny’n hynod bwerus?

Er bod heddiw er eich mwyn chi, mae’n rhaid llongyfarch a diolch yn fawr i’r bobl o’ch cwmpas. Mae’r empathi a’r caredigrwydd y mae’r bobl hyn wedi’i ddangos, mewn adegau o amheuaeth a gofid, yn rhywbeth y byddwch yn ei gofio am byth. Wrth gwrs gallwch chi ddiolch i’r holl bobl bwysig hyn, ond roeddwn i hefyd am sefyll yma a diolch iddyn nhw am eu hamynedd, a’u cryfder ewyllys am chwarae eu rhan yn eich llwyddiannau yma.

Grŵp o oddeutu deg ar hugain o raddedigion yn codi llaw, yn chwerthin ac yn gwenu wrth iddynt adael y seremoni raddio. Ar flaen y grŵp, mae Deon Campws Birmingham sy’n gwisgo gŵn las a choch yn estyn ei het ac yn gwenu.

Eich academyddion, darlithwyr, a rheolwyr rhaglen, Deoniaid, Penaethiaid Athrofeydd a’r Is-Ganghellor. Teulu a ffrindiau, eich anwyliaid agosaf, y bobl sydd yma heddiw ac sy’n gwylio drosom. Diolch yn fawr iddyn nhw i gyd, rwy’n siŵr y gallwch ymuno â mi i fynegi eich diolchgarwch iddyn nhw.

Yr un peth mawr y mae’r brifysgol wedi’i ddysgu i mi yw hyn: cyn i chi weithredu, gwrandewch; cyn i chi ymateb, meddyliwch; cyn i chi feirniadu, arhoswch; a chyn i chi roi’r gorau iddi, rhowch gynnig arni.

Mae heddiw er eich mwyn chi; pa bynnag ffordd rydych chi’n bwriadu dathlu eich llwyddiannau, gwnewch yn siŵr eich bod yn trysori pob un o’r eiliadau hyn a phob lwc ar gyfer ble bynnag y bydd eich bywyd yn mynd â chi.

Bydded i chi fentro gwneud pethau gwych â’ch bywyd bob amser.”

Y neuadd raddio – ystafell fawr fodern wedi’i goleuo â golau glas a lampau crwn gwyn.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon