Skip page header and navigation

Heno am 6:30pm ar Gaffi Gwyddoniaeth BBC Cymru Adam Walton yn siarad â’r Athro Cyswllt Julia Lockheart o’r Drindod Dewi Sant a’r arbenigwr cwsg blaenllaw, yr Athro Mark Blagrove i drafod eu llyfr The Science and Art of Dreaming (2023) a gyhoeddwyd gan Routledge.

Julia Lockheart o PCYDDS yn gwenu.

Ar y rhaglen, maent yn esbonio seicoleg a niwrowyddoniaeth breuddwydio ac yn disgrifio sut mae eu prosiect celf gwyddoniaeth wedi dangos bod rhannu breuddwydion yn cynyddu empathi rhwng pobl, ac yn archwilio celf a swrealaeth. 

Athro seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yw Mark Blagrove sy’n arbenigo mewn astudio cwsg a breuddwydion. Sefydlodd Dr Lockheart y Ganolfan Ymchwil Fetadylunio (MdRC) yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS ac yn 2016 fe ddechreuon nhw eu cydweithrediad celf wyddonol DreamsID.

Mae The Science of Art and Dreaming yn archwilio achosion biolegol, seicolegol a chymdeithasol breuddwydio ac yn amlinellu datblygiadau diweddar wrth astudio hunllefau a breuddwydion eglur. Mae’n cynnig ailddarlleniad cymhellol o freuddwydion claf Freud, yr arwr ffeministaidd Dora, ac yn dangos sut mae chwareusrwydd, gwreiddioldeb a chynnwys trosiadol breuddwydion yn eu cysylltu â chelf. Mae hefyd yn disgrifio sut mae ffilmiau wedi tynnu ar freuddwydion a phrosesau tebyg i freuddwydion.

Mae hefyd yn annog rhannu breuddwydion i hyrwyddo dychymyg, creadigrwydd, hunanfyfyrio, ac agosrwydd at eraill. Mae pob pennod yn dechrau gyda naratif breuddwyd a phaentiad cysylltiedig o’r freuddwyd, i amlygu agweddau ar themâu pob pennod.

Yn ddiweddar, ymddangosodd Blagrove a Lockheart at Lwyfan Gwy yng Ngŵyl y Gelli 2023 gan ddangos maint y diddordeb cyffredinol mewn breuddwydio. Maent hefyd wedi cael eu gwahodd i roi perfformiad DreamsID yn agoriad Sefydliad Jung yn Zurich ym mis Mehefin, ac maent yn cynllunio digwyddiadau pellach i hyrwyddo eu llyfr gan gynnwys ymweliadau â Los Angeles a Berkeley yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd Dr Lockheart: “Mae archwilio’r gwahaniaethau rhwng sut mae celf a gwyddoniaeth yn ymagweddu at freuddwydio wedi bod yn drawsnewidiol i mi. Mae ein perfformiadau a’n salonau breuddwydion wedi bod o fudd mawr i’r bobl a rannodd eu breuddwydion, ac arnom ni a’n cynulleidfaoedd. Mae hyn hefyd wedi arwain at ymchwil gwreiddiol ac effeithiol y byddwn yn manylu arno yn ein llyfr. Roedd yn wych siarad ag Adam Walton o’r BBC am hyn ar ei raglen.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau