Skip page header and navigation

Darparodd Dr Ross Head a’r tîm yng Nghanolfan Arloesi Cerebra yn y Drindod Dewi Sant addasiad clyfar ar gyfer camera mewn pryd i ben-blwydd bachgen bach.

Bachgen bach yn dal camera glas llachar gyda Kidizoom yn amlwg mewn oren ar yr ochr.

Mae’i fam Amanda yn esbonio sut bu modd i’r tîm addasu camera mewn modd clyfar er mwyn i’w mab allu mwynhau tynnu lluniau wrth ochr ei chwaer.

“Mae ein mab Archer yn fachgen hapus, mae’n dwlu ar chwarae gyda cheir, adeiladu cestyll tywod, casglu cerrig ar y traeth, a Maui o’r ffilm Moana! Mae gan Archer hemiplegia ar yr ochr dde, sydd wedi’i achosi gan ei epilepsi difrifol, ac wedi’i waethygu gan ei niwrolawdriniaeth ddiweddar pryd cafodd hemisfferotomi chwith i ddatgysylltu ochr chwith ei ymennydd yn gyfan gwbl mewn ymdrech i reoli ffitiau. Nid yw’n gallu defnyddio’i law dde a’r arddwrn (eto) sy’n gallu’i gwneud hi’n anodd iddo ddefnyddio rhai teganau.

Mae Archer wedi dangos diddordeb go iawn mewn ffotograffiaeth – rwy’n ffotograffydd fy hun ac mae’n dangos diddordeb parhaus yn fy nghamerâu. I’w 3ydd pen-blwydd prynon ni gamerâu VTech KiddiZoom iddo ef a’i efeilles, ond roedd botwm y caead ar yr ochr dde a oedd yn golygu nad oedd yn gallu’i weithio am nad yw’n gallu defnyddio’i law dde a’r arddwrn (eto!)

Cysyllton ni â’r Ganolfan Arloesi i weld a allen nhw awgrymu unrhyw addasiadau a fyddai’n helpu. Rhoddon nhw gymaint o gymorth. Gofynnon nhw i ni anfon camera Archer i mewn cyn gynted â phosibl er mwyn iddyn nhw edrych arno gyda’r gobaith o gael ateb yn gyflym mewn pryd i ben-blwydd Archer. Ac fe wnaethon nhw! Gan fod botwm arall ar yr ochr chwith i droi’r camera o gwmpas i dynnu hun-luniau, newidiodd y tîm y botymau er mwyn i Archer allu ei ddefnyddio â’i law chwith. Hefyd gorffennodd y tîm y gwaith yn gyflym iawn er mwyn i Archer gael y camera mewn pryd i’w ben-blwydd.

“Hoffem ni ddiolch i chi gymaint am eich help gyda hyn. Roedd e’n dwlu ar ei gamera ac yn tynnu lluniau gydag ef drwy’r dydd yn y parc saffari. Heb eich help yn addasu camera Archer ni fyddai wedi gallu ei ddefnyddio a byddai hynny wedi bod yn gymaint o drueni. Rydym ni’n wir yn gwerthfawrogi hyn”.

Meddai Dr Ross Head: “Roedd hwn yn waith bach anodd, ond yn llawer o hwyl i allu helpu Archer i ddefnyddio’i gamera newydd. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig mae hi i blant allu gwneud beth maen nhw eisiau a ffitio mewn gyda brodyr a chwiorydd a’u cyfoedion, felly gweithion ni’n galed iawn i agor y camera’n ofalus iawn, sodro mewn nifer o wifrau newydd, aildrefnu’r switshys a rhoi’r camera yn ôl at ei gilydd! Rydw i mor hapus ein bod ni wedi llwyddo i’w orffen yn ddigon cyflym i ben-blwydd Archer a’i fod wedi cael diwrnod allan hyfryd gyda’r ffotograffiaeth!”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon