Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, dychwelodd James Owen, entrepreneur llwyddiannus a raddiodd yn 2021 o’r rhaglen BA Gwneud Ffilmiau i gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i siarad â myfyrwyr cyfredol Ffilm a’r Cyfryngau Digidol gan gyfrannu at eu prosiect ffilm.

Grŵp o fyfyrwyr yn ffilmio: mae un yn dal clepiwr; un arall yn dal meicroffon bŵm, ac un arall yn addasu’r camera.

Fe wnaeth James Owen, a chafodd ei wahodd yn ôl gan ei gyn-ddarlithydd Dr Brett Aggersberg, ysbrydoli myfyrwyr blwyddyn gyntaf BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol a BA Gwneud Ffilmiau Antur wrth iddo adrodd yr hanes am adeiladu ei gwmni cynhyrchu fideo, Stori Cymru.

Siaradodd James, sydd yn Gymro Cymraeg balch o Lanelli, am y brwydrau a’r llwyddiannau wrth iddo ddechrau ei fusnes yn 2019 fel myfyriwr ar y pryd. Rhannodd sut mae ef wedi gwneud i’r cwmni dyfu i fod yn llwyddiannus fel y mae heddiw, gan gynyddu’r profiad, yr offer a’r tîm, a hyd yn oed cyflogi a chynnig profiad gwaith i gyd-fyfyrwyr a graddedigion y Drindod Dewi Sant.

Ar ôl ei ddarlith fel siaradwr gwadd, ei gyfle ef oedd hi i gamu o flaen y camera i gael ei gyfweld gan y myfyrwyr sy’n cynhyrchu ffilm sy’n cynnwys straeon cyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a fydd yn cael ei hasesu fel rhan o’u hastudiaethau blwyddyn gyntaf.

Roedd cyfrannu at y ffilm hon yn bwysig i James gan ei fod yn gwybod yn iawn beth yw gwerth prosiectau go iawn ac ymarferol i’r cwrs ac i’r profiad myfyrwyr yn gyffredinol.

Meddai James:

“Oherwydd y cyfleoedd a roddwyd i mi yn ystod fy ngradd BA Gwneud Ffilmiau, cefais brofiad ymarferol pwysig o fewn y diwydiant a fu’n allweddol o ran fy helpu i sylweddoli beth oedd fy nghryfderau a’m diddordebau, gan f’arwain yn y pen draw i ble rydw i heddiw.

“Roeddwn i mor falch pan gefais fy ngwahodd yn ôl i siarad â’r myfyrwyr presennol, i gyfrannu at eu ffilm, a helpu i roi iddyn nhw’r profiad yr oeddwn i’n ei werthfawrogi gymaint.

“Roedd hefyd yn gyfle i mi ddiolch i’m cyn-ddarlithwyr a wnaeth fy nghefnogi a fy annog trwy gydol fy ngradd.”

Yn ogystal â chymryd rhan yn y prosiect hwn i fyfyrwyr a’r ddarlith gwadd, yn ddiweddar bu James hefyd yn cyflwyno sesiwn i fyfyrwyr a chyd-gyn-fyfyrwyr fel rhan o Glwb Menter y Drindod Dewi Sant, a drefnwyd gan y tîm menter yn INSPIRE.

Yma rhannodd y cyngor ysgogol bod yn rhaid i chi “gredu ynoch chi’ch hun, gweithio’n galed i gyrraedd lle rydych chi am fod, ac aros yn wydn yn ystod cyfnod heriol” er mwyn bod yn berchennog busnes.

Cynnig sgyrsiau gan siaradwyr gwadd a phrofiad gwaith i fyfyrwyr presennol yw dim ond rhai o’r ffyrdd y mae cyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant, fel James, yn rhoi yn ôl i’r Brifysgol ac yn cefnogi ein graddedigion yn y dyfodol yn y teithiau sydd o’u blaenau.

Gall gyn-fyfyrwyr sydd â diddordeb dychwelyd i’w rhaglenni pwnc neu fod yn rhan o’r Clwb Menter, cysylltu â alumni@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon