Skip page header and navigation

Mae Canolfan S4C Yr Egin ar y cyd a thîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi agor ei drysau yn ddiweddar i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur er mwyn roi blas iddynt o’r hyn sydd gyda’r ganolfan i’w gynnig.

Mae myfyriwr yn rhoi cynnig ar benset rhith wirionedd.

Daeth 120 o ddisgyblion blwyddyn 10 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur i’r Egin i gymeryd rhan mewn amryw o weithdai. Wrth wraidd y sector greadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.

Bwriad y gweithdai yma oedd i agor drws Canolfan Yr Egin i’r disgyblion, a’u cyflwyno i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr un pryd, a dangos llwybrau gyrfaol posib iddynt yn ogystal â phwysigrwydd defnydd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd y disgyblion gyfle i fynychu gweithdy creu cerddoriaeth gyda’r cerddor adnabyddus Steffan Rhys Williams, gweithdy swyddi gan Natalie Jones o S4C a sesiwn berfformio yng nghwmni un o staff Yr Egin, Lowri Siôn. Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy a oedd yn cyflwyno technoleg y dyfodol drwy ddefnyddio offer VR.

Meddai Karen Grayson- Cooper, athrawes o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

“Bu’n ddiwrnod gwych, llawn bwrlwm sydd wedi rhoi syniadau di-ri i’n disgyblion am bosibliadau i’r dyfodol a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Hyfryd bod ein disgybion wedi cael y cyfle yma. Diolch!”

Disgyblion mewn crysau chwys ysgol glas yn eistedd wrth fwrdd hir yn gwneud nodiadau gyda beiros.

Dywedodd Rhodri Noakes, Swyddog Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant,

“Roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ymuno â ni ar ein campws yng Nghaerfyrddin ar gyfer gweithgareddau mewn partneriaeth â’r Egin. Fel tîm Ehangu Mynediad, rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith partneriaeth efo’r Egin gyda’r nod o gynyddu sgiliau a gwybodaeth y bobl ifanc rydym yn gweithio gyda mewn ysgolion.

“Fel rhan o’n rhaglen dosbarthiadau meistr mewn ysgolion, yn gysylltiedig â diwrnodau ABCh, mynychodd y disgyblion weithdai yn ystod y flwyddyn lle rydym wedi cyflwyno gweithdai yn edrych ar fowldio gyrfaoedd. Roedd yr ymweliadau campws yma yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ymhellach ac ehangu eu gwybodaeth am opsiynau a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

“Nod arall y digwyddiad oedd cael disgyblion i ddefnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch gwahanol y tu allan i’r ysgol, ac roedd yn wych gweld eu hyder yn tyfu drwy gydol y dydd. Braf oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn mwynhau eu hamser efo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â’r Egin.”

Ychwanegodd Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu’r Egin,

“Mae pob amser yn bleser cael pobl ifanc yn dod drwy ddrysau Canolfan S4C Yr Egin. Daw’r ifanc â chymaint o egni newydd, ffres a syniadau creadigol. Y gobaith yw y bydd diwrnodau fel hyn yn ehangu eu synnwyr o’r byd digidol a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Credwn mewn meithrin eu potensial a rhoi cyfle i bob person ifanc ddatblygu ei sgiliau digidol yng nghwmni arbenigwyr yn y maes.”

Os ydy eich ysgol chi am ymweld â Chanolfan S4C Yr Egin, neu cydweithio â’r tîm Ehangu mynediad, yna cysylltwch gyda helo@yregin.cymru

Mae’r disgyblion yn eistedd mewn rhesi’n wynebu sgrîn.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon