Skip page header and navigation

Mae un o’r rhai cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth newydd a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi graddio yn Abertawe y mis hwn.

Yn gwisgo gŵn a het academaidd, mae Funmi Olaniyan yn gwenu at y camera.

Roedd Funmilayo (Funmi) Olaniyan ymhlith y cyntaf i wneud cais am Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan ganiatáu i’r rhai â statws ceisiwr lloches neu ffoadur gael eu hepgor rhag talu ffioedd dysgu ac i dderbyn cymorth ychwanegol ar gyfer costau cynnal a chadw.

Dewisodd Funmi ddefnyddio ei hysgoloriaeth i astudio’r Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol CertHE ar Gampws Busnes Abertawe’r Brifysgol. Ar ôl ei chwblhau, symudodd i LLB y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol, cwrs newydd a gynigir ar yr un campws gan PCYDDS.

Fel aelod o’r garfan gyntaf un, daeth Funmi yn un o raddedigion cyntaf y cwrs newydd a dyfarnwyd gradd 2:1 iddi, gyda’i darlithwyr yn ei disgrifio fel “myfyriwr rhagorol”.

Dywed Funmi: “Nid yw geiriau’n ddigon i fynegi sut rwy’n teimlo. Rwyf wedi fy syfrdanu, ond fe wnai geisio dod o hyd i ychydig eiriau i ddisgrifio’r teimlad. Rwy’n teimlo’n falch iawn i raddio gyda gradd yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol o’r Drindod Dewi Sant. Fyddwn i ddim wedi dymuno mynd i unrhyw Brifysgol arall. Mae wedi bod yn daith o dair blynedd o ddysgu ymroddgar, heriol ac effeithiol. Roedd hi’n ddiddorol iawn i gael y cyfle i ddysgu am system gyfreithiol Cymru a Lloegr ddiddorol.

Hoffwn ddiolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y cyfle gwych hwn. Rwyf wedi gwireddu breuddwyd. Rwyf bob amser wedi edrych ymlaen at astudio’r gyfraith oherwydd fy mhrofiad, i roi yn ôl i’r gymdeithas sydd wedi rhoi cymaint i mi, a hefyd cefnogi pobl drwy’r broses gyfreithiol. Rhoddodd PCYDDS y cyfle hwnnw imi drwy’r Ysgoloriaeth Noddfa, a byddwn yn dragwyddol ddiolchgar am hynny. Cefais gyfle hefyd i gwrdd â chyd-ddisgyblion anhygoel. Ar gyfer fy nodau a’m dyheadau gyrfa yn y dyfodol, edrychaf ymlaen at sicrhau cytundeb hyfforddi gyda chwmni Cyfreithiwr, tra byddaf hefyd yn ysgrifennu fy SQE, i gymhwyso fel Cyfreithiwr.”

Dywed yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor PCYDDS a Chadeirydd Panel y Brifysgol Noddfa: “Mae PCYDDS wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd drwy sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i elwa ar addysg.

“Nod ein Hysgoloriaeth Noddfa yw annog cyfranogiad yn ein rhaglenni a sicrhau ein bod yn creu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i’n campysau. Rydym mor falch o weld Funmi yn llwyddo ac yn gobeithio y bydd ei thaith yn parhau i gyflawnu mwy fyth yn y dyfodol.”

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio tuag at ennill statws Prifysgol Noddfa, ac mae ganddi gampws yn Abertawe sy’n Ddinas Noddfa.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon