Skip page header and navigation

Heddiw, mae Amy Murithi a Shauna Hawker, dwy chwaer, wedi graddio o gwrs BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar – Statws Ymarferydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn eu gynau graddio, mae Amy Murithi a Shauna Hawker yn sefyll yn agos at ei gilydd ac yn gwenu.

Roedd Amy wedi bod eisiau astudio’r cwrs ar ôl i ffrind argymell y brifysgol iddi. Roedd ei chwaer, Shauna, yn awyddus i gofrestru hefyd gan fod ganddi ymrwymiadau teuluol a’i bod hi’n byw yn agos at y campws.

Mae Amy wedi bod yn frwd dros addysg blynyddoedd cynnar erioed, a chyda 17 mlynedd o brofiad gwaith a chymhwyster lefel 3, roedd hi am ddatblygu ei gyrfa.

Meddai: “Roeddwn i am ddatblygu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth i ddod yn ymarferydd gwell fyth. Roedd fy nau blentyn hefyd yn ysbrydoliaeth i mi; roeddwn i am roi’r gorau ag y gallwn iddyn nhw tra oedden nhw yn eu blynyddoedd cynharaf, ac roedd astudio eu grŵp oedran nhw’n golygu y gallwn roi fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth ar waith fel mam.

“Roeddwn i hefyd am eu hysbrydoli nhw i gael breuddwydion mawr a gwybod y gallan nhw gyflawni beth bynnag y maen nhw ei eisiau mewn bywyd o ran addysg! Does dim rhaid iddo fod yn ofal plant; gall fod yn unrhyw beth, ond os byddan nhw’n fy ngweld i yn fy nghap a’m gŵn yn hongian mewn ffrâm ar wal yr ystafell fyw, efallai un diwrnod y gallaf innau eu hysbrydoli nhw hefyd…”

Cyn ei hamser yn y Drindod Dewi Sant, roedd Shauna wedi bod mewn sawl rôl, yn gweithio mewn canolfannau adsefydlu alcohol, mewn prosiectau gyda theuluoedd difreintiedig, ac mewn ysgolion gyda phlant yn eu harddegau yn delio gydag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, a chymdeithasol.

Meddai: “Ar ôl cael fy mabi cyntaf, sylweddolais yn gyflym fod llawer o’r anawsterau a brofir yn ystod plentyndod hwyr ac oedolaeth yn aml wedi’u gwreiddio mewn trawma yn ystod y Blynyddoedd Cynnar. Dyma oedd fy ysbrydoliaeth ar gyfer ymgeisio am y cwrs hwn. Roeddwn i am ddysgu mwy am y Blynyddoedd Cynnar a sut y gallwn ymgysylltu â’r grŵp oedran hwn mewn ffordd gadarnhaol a allai newid llwybr eu bywydau ar gyfer eu lles yn y dyfodol.”

Roedd astudio’r cwrs fel chwiorydd yn brofiad gwych i’r ddwy.

Dywedodd Shauna: “Rydw i wedi mwynhau astudio ochr yn ochr â’m chwaer yn fawr. Fe wnaeth ei hanogaeth fy helpu i deimlo fy mod i’n gallu astudio ar lefel addysg uwch. Heb hyn, efallai na fyddwn wedi ymgeisio am y cwrs o gwbl. Yn aml, byddai gennym syniadau gwahanol o fewn pob pwnc, ac fe wnaeth hyn fy herio i feddwl yn wahanol. Rwy’n ystyried fy hun yn lwcus fy mod wedi’i chael wrth fy ochr ar hyd y ddwy flynedd ac rydw i wedi mwynhau ein gweld ni’n dwy yn tyfu mewn hyder a gallu.”

Meddai Amy: “Rydyn ni wedi llefain gyda’n gilydd drwy’r gwaith caled, chwerthin gyda’n gilydd drwy sawl ymgais aflwyddiannus i recordio cyflwyniadau, ac rydym wedi annog a chefnogi’n gilydd bob cam o’r ffordd. Rwy’n credu ein bod ni’n dwy wedi dysgu’n eithaf cynnar fod y brifysgol yn ymwneud â’n darllen a’n hymchwil ein hunain, felly, daeth y ddwy ohonom yn angerddol iawn am ein teithiau academaidd ein hunain, a’n meysydd o ddiddordeb.

“Roedd rhywbeth yn arbennig iawn am rannu’r daith hon gyda hi, rhywbeth na wnaeth yr un ohonom ei gymryd yn ganiataol.”

Canmolodd y ddwy’r cymorth a gawsant gan eu darlithwyr. Meddai Amy: “Tua 2 flynedd yn ôl, cerddais i mewn i’r brifysgol a theimlo wedi fy llethu gan hunanamheuaeth. Fe wnaeth fy narlithwyr rannu geiriau’n angerddol, yn sensitif, a gyda her, ac erbyn diwedd y sesiwn honno, roeddwn i’n argyhoeddedig fod gen i ddarlithwyr a oedd yn credu ynof fi. Rwy’n dal i deimlo felly. Roedden nhw’n poeni amdanom ni hefyd, ein bywydau, ein teuluoedd, ac eisiau i ni gyrraedd ein potensial llawn.”

Dywedodd Shauna: “Fe wnaeth yr holl ddarlithwyr gyfrannu rhywbeth o werth go iawn i’m profiad dysgu ac ni allwn fod wedi cwblhau’r cwrs heb eu cymorth nhw.”

Meddai Glenda Tinney, Tiwtor Derbyn Blynyddoedd Cynnar y Drindod Dewi Sant: “Hyfryd oedd cael y fraint o addysgu Amy a Shauna. Roedden nhw’n wastad yn fyfyrwyr brwdfrydig ac yn llawn diddordeb mewn trafodaethau dosbarth. Mae cael ymarferwyr blynyddoedd cynnar mor wybodus  yn golygu ein bod ni fel darlithwyr yn clywed yn gyson am y cyfleoedd a’r heriau o fewn y sector, ac ar nosweithiau Llun, dysgais innau lawer o’r trafodaethau a’r mewnwelediadau.

“Dros ddwy flynedd, datblygodd hyder Amy a Shauna, ac rwy’n gwybod fod hyn wedi cefnogi eu dilyniant gyrfaol hefyd. Roedd hi’n braf gwybod eu bod nhw wedi rhannu eu taith ddysgu gyda’i gilydd a bydd hi’n hyfryd heddiw eu gweld nhw’n graddio gyda’i gilydd hefyd.”

Dywedodd Jessica Pitman, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’r perthnasoedd rydyn ni’n eu meithrin gyda’n myfyrwyr hyblyg yn wastad yn arbennig iawn. Mae hi hyd yn oed yn fwy felly pan fydd aelodau o’r teulu’n ymuno gyda’i gilydd. Roedd Amy a Shauna’n llawn cymhelliant, yn ddoniol ac yn garedig. Fe wnaethant gefnogi myfyrwyr eraill a chreu awyrgylch cadarnhaol yn y dosbarth. Mae’r ddwy yn hynod benderfynol ac am sefydlu eu busnesau eu hunain yn y dyfodol.

“Maen nhw wedi cael eu hannog i wneud cais am gymorth trwy ein grant Cychwyn Busnes Entrepreneuriaeth yn y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr i ddatblygu mentrau busnes. Rwy’n gobeithio y byddant yn gwneud hynny, gan fod angen mwy o fenywod mewn busnes arnom ym myd gwaith.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau