Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o chwe sefydliad ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gartref i Gymrodoriaeth fawreddog Stiwdio Freelands.

Vivian Ross-Smith yn eistedd yn hamddenol ar ymyl bwrdd drws nesaf i beiriant gwnïo mewn stiwdio ffabrig.

Lleolir y Cymrodyr llwyddiannus yn eu prifysgol letyol am flwyddyn galendr lawn. Rhoddir stiwdio iddynt yn yr adran Celf Gain, mynediad at gyfleusterau gweithdy a llyfrgell ac fe’u cefnogir gan fentor addysgu.

Mae ffocws y Cymrodoriaethau ar ddatblygu arfer yn barhaus, ac ochr yn ochr â hynny bydd y Cymrodyr yn cynorthwyo i addysgu’r myfyrwyr cyfredol yn eu prifysgol letyol.

Dechreuodd yr artist Vivian Ross-Smith ei Chymrodoriaeth yng Ngholeg Celf Abertawe ar 30 Ionawr ac mae’n cael ei mentora gan yr Athro mewn Celf Gain – y Cyfarwyddwr Cwrs, Sue Williams.

Mae Vivian, a fagwyd ar Fair Isle, yn defnyddio mannau ffisegol a digidol i wneud gwaith peintio, perfformio a thecstilau. Mae ganddi radd Meistr gyda Rhagoriaeth o Ysgol Gelf Glasgow (2020) a BA (Anrh) o Ysgol Gelf Gray (2013).

Yn ei harfer mae Vivian yn archwilio obsesiwn â materoliaeth. Mae’n mynd i’r afael â gwneud trwy brosesau rhythmig, corfforol, gan arwain at ganlyniadau dwys sydd i’w teimlo, eu profi, a’u gwisgo. A hithau wedi’i dylanwadu’n drwm gan ei safbwynt fel artist a fagwyd ar ynys, mae gwaith Ross-Smith yn ystyried gweithredoedd cymunedol o gasglu a gwneud sy’n archwilio themâu lle, cymuned, gofal, cysur, hygyrchedd a chyfathrebu.

Meddai Vivian: “Mae’r Gymrodoriaeth hon yn gyfle da i weithio ochr yn ochr â sefydliad, datblygu rhwydwaith, a chynnal fy arfer yn ddwys. Mae ffocws y Gymrodoriaeth ar arfer, gwneud, a chyfrannu at gymunedau creadigol a gynhelir yn yr ysgol gelf, yn gyffrous tu hwnt ac mae’n anrhydedd bod yn un o’r chwe artist sydd wedi’u dewis ar draws y Deyrnas Unedig.”

Meddai’r Athro Williams: “Mae’n bleser mawr ac yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r rhaglen fawreddog hon, sy’n rhoi cyfle gwych ac amhrisiadwy i’r cymrawd a’n myfyrwyr ddatblygu eu harfer yng Ngholeg Celf Abertawe.

“Trwy Gymrodoriaeth Freelands rydym hefyd wedi gwahodd nifer o artistiaid i gyflwyno eu gwaith i’n myfyrwyr ac i gefnogi Vivian trwy ei thaith greadigol.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym wrth ein bodd i groesawu Vivian yn Gymrawd Freelands yng Ngholeg Celf Abertawe (PCYDDS). Nifer bach o brifysgolion sy’n cael bod yn gartref i’r Gymrodoriaeth fawreddog hon ac felly mae hyn yn arwydd o ragoriaeth Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe.”

Yn ystod eu Cymrodoriaeth, bydd Cymrodyr yn ymweld â dwy brifysgol arall sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ac yn gweithio gyda myfyrwyr a staff fel darlithwyr gwadd.

Mae pob Cymrawd yn derbyn bwrsari o £22,000 dros gyfnod y Gymrodoriaeth. Byddant hefyd yn gweithio tuag at arddangosfa unigol, a gynhelir yn eu prifysgol letyol.

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Sefydliad Freelands a’r prifysgolion, sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r rhaglen, gyda’r Sefydliad yn darparu cyllid a seilwaith a’r prifysgolion yn goruchwylio’r cymrodoriaethau unigol, yn ogystal â recriwtio a chefnogi’r artistiaid.

Daw’r Cymrodoriaethau i ben gydag arddangosfa grŵp yng Ngwanwyn 2024, a gynhelir yn oriel Sefydliad Freelands yn Llundain, yn arddangos gwaith cymrodyr y flwyddyn honno. I gyd-fynd â’r arddangosfa hon ceir catalog yn llawn darluniau sy’n cynnwys ysgrifennu creadigol: cyfle i gael amlygrwydd a disgwrs beirniadol ar adeg arwyddocaol yn eu gyrfa gynnar.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau