Skip page header and navigation

Heddiw (11 Gorffennaf) mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, y Gwir Anrh Alun Michael, wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd yn seremonïau graddio haf y Brifysgol.

Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael mewn gynau doethurol ysgarlad a phiws yn sefyll rhwng uwch aelodau’r Brifysgol.

Yn y seremoni heddiw, cafodd ei anrhydeddu i gydnabod ei wasanaeth neilltuol i fywyd gwleidyddol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn cyflwyno’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael i’r gynulleidfa oedd Iestyn Davies, Dirprwy Is-ganghellor yn Y Drindod Dewi Sant. Dwedodd ef:

“Mae’n fraint cael cyflwyno’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael i’r cynulliad hwn. Daeth llwyddiant etholiadol cyntaf Alun pan gafodd ei ethol yn un o chwe chynrychiolydd Llafur ar gyfer Tredelerch, yn Etholiadau Rhanbarth Cymru. Roedd yn rôl a fyddai’n parhau ynddi drwy gydol y 1970au, a’r 1980au, yn cynrychioli ward Trowbridge, nes cael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth ym 1987.

“Gwasanaethodd Alun ei etholwyr yn ddiwyd yn y Senedd am bum cylch etholiadol arall. Yn Aelod o’r wrthblaid daeth yn Weinidog Materion Cartref yr Wrthblaid. Yn dilyn etholiad llwyddiannus Llafur Newydd ym 1997 gwasanaethodd wedyn fel Gweinidog Gwladol dros Faterion Cartref nes dod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru flwyddyn yn ddiweddarach.

“Ym mis Mai 1999, yn dilyn yr etholiadau cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth yn Brif Ysgrifennydd Cymru.

“Byddai’r cyfeiriad o destun hynafol y Mabinogion ‘A fo ben, bid bont - nhw a fyddai’n arwain, gadewch iddynt fod yn bont’, yn crynhoi’r dull a ffafrir gan Alun at arweinyddiaeth wleidyddol a chymunedol.

“Wrth ysgrifennu ar ddechrau Datganoli, nododd Alun y byddai “Gwleidyddiaeth Newydd ar gyfer Mileniwm Newydd” yn gofyn am ymrwymiad i ddemocratiaeth gynhwysol ac amrywiol. Dim ond hyn fyddai’n gallu mynd i’r afael â’r heriau economaidd parhaus ac ymddangosiad ‘ton lanw o arloesi a thechnoleg’ a oedd eisoes yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio ar ddechrau’r mileniwm.

“Yn y flwyddyn y mae Prifysgol Cymru ynghyd â’i phartneriaid addysg bellach wedi lansio ei rhwydwaith o Sefydliadau Technegol, yn y flwyddyn 2000 Alun a osododd flaenoriaeth polisi Llafur Cymru ar gyfer sgiliau ac addysg a hyfforddiant seiliedig ar waith sy’n parhau i fodoli heddiw.”

Daeth Alun Michael yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf De Cymru ym mis Tachwedd 2012. Alun Michael oedd Aelod Seneddol Llafur a Chydweithredol De Caerdydd a Phenarth am 25 mlynedd o 1987 ymlaen.

Wedi’i eni ym Mryngwran ar Ynys Môn, mynychodd Alun Ysgol Ramadeg Bae Colwyn a graddio o Brifysgol Keele yn 1966 gyda gradd mewn Athroniaeth a Saesneg.

O 1972 bu’n weithiwr ieuenctid a chymunedol yng Nghaerdydd am 15 mlynedd, gan ganolbwyntio ar brosiectau’n ymwneud â throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith. Gwasanaethodd hefyd fel Cynghorydd Dinas o 1973 i 1989, gan chwarae rhan mewn cynllunio, ailddatblygu a datblygu economaidd.

Ar ôl cyfnod fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig, bu’n ddirprwy i Tony Blair ac yna i Jack Straw gyda Materion Cartref. Yn dilyn etholiad cyffredinol 1997 daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref gyda chyfrifoldeb am yr heddlu, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid a’r sector gwirfoddol. Ym 1998 ymunodd wedyn â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dod yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cymru. Ar ôl ymddiswyddo o’r Cynulliad, daeth yn Weinidog Gwladol cyntaf dros Faterion Gwledig ac wedi hynny daeth yn Weinidog Gwladol dros Ddiwydiant a’r Rhanbarthau.

Ar ôl gadael y Llywodraeth yn 2006, daeth yn aelod blaenllaw o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, gan chwarae rhan flaenllaw yn adroddiad arloesol y Pwyllgor ar “Ailfuddsoddi Cyfiawnder”. Roedd Alun hefyd yn aelod blaenllaw o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, gan gymryd rhan mewn ymchwiliadau mawr i dirwedd newidiol plismona, terfysgoedd dinesig 2011 a pholisi cyffuriau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu hefyd yn gadeirydd Fforwm Llywodraethant Rhyngrwyd y DU a chadeiriodd nifer o Grwpiau trawsbleidiol mawr megis y Fforwm Seneddol ar y Rhyngrwyd a Thechnoleg Gwybodaeth, Llywodraethu Corfforaethol, Somaliland a Somalia, a Chymdeithas Sifil a Gwirfoddoli yn ogystal â bod yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp trawsbleidiol ar Blismona.

Roedd yn aelod o’r ddirprwyaeth arbenigol i archwilio troseddau cysylltiedig â gangiau, radicaleiddio a phenaethiaid heddlu etholedig yn Los Angeles yn 2001, ac fe’i penodwyd i gydbwyllgor Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi ar gadw’r rhai a ddrwgdybir o derfysgaeth yn y ddalfa.

Alun yw Arweinydd Grŵp Portffolio APCC ar Ddinasyddion mewn Plismona.

Alun Michael yng nghanol llun grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr mewn lifrai o’r heddlu a nifer o gyfranogion eraill y seremoni mewn gwisg academaidd.

Wrth dderbyn y wobr, ychwanegodd y Gwir Anrhydeddus Alun Michael:

“Mae’n fraint wirioneddol cael bod yma gan fod 31 o’n swyddogion heddlu newydd ar gyfer De Cymru yn derbyn eu graddau a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn gradd yma heddiw.

“Yn ysbryd Dewi Sant o fod â ffocws clir ar y pethau bach, rwyf hefyd am ddathlu datblygiad penodol yn Abertawe. Chwaraeodd y brifysgol hon ran allweddol yn sefydlu’r Ganolfan Gymorth – y Man Cymorth sy’n amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed yn economi’r nos.

“Pan gefais fy ethol gyntaf yn 2012, roedd dadleuon parhaus rhwng y prif gwnstabl a’r gweinidog iechyd ynghylch yr oriau lawer a dreuliwyd gan swyddogion heddlu yn eistedd ac yn aros am ambiwlans i ddod i ddarparu gofal i berson agored i niwed, tra bod y gweinidog yn amddiffyn y flaenoriaeth uwch o fynychu’r rhai sydd angen triniaeth frys ar gyfer trawiad ar y galon neu strôc neu ar ôl damwain car. Awgrymodd nyrs a secondiwyd i fy nhîm drydedd ffordd - y pwynt cymorth, felly nawr mae myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn ymateb gyda thaith cadair olwyn gyflym i’r gofal mewn caban symudol mewn maes parcio a ddarperir gan Ambiwlans Sant Ioan mewn awyrgylch o gyd-gymorth a nodweddir orau gan Bronwen Williams a sefydlodd y tîm o fyfyrwyr gwirfoddol a Gerallt Davies, parafeddyg ac un o hoelion wyth Sant Ioan a fu farw’n drist fel un o ddioddefwyr cynnar pandemig COVID-19 ac y mae’r ganolfan bellach wedi’i henwi ar ei ôl.

“Bydd y gwerthoedd hynny, sef gofal, cymorth ar y cyd a chydweithredu i ddatrys problemau, yn ganolog i wasanaeth swyddogion Heddlu De Cymru, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y rheini o Went hefyd, a dderbyniodd eu gradd heddiw. Roedd partneriaeth rhwng Heddlu De Cymru a’r brifysgol yn bwydo’u hawydd am addysg, am ddealltwriaeth ac am welliant cyson. Mae hynny bob amser wedi bod yn nodwedd sylfaenol o’n swyddogion heddlu gorau ochr yn ochr â’u hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus, eu dewrder a’u hymdeimlad o gymuned. Mae’r cyfan yn hanfodol pan fo gwasanaeth yr heddlu yn destun craffu a beirniadaeth yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Felly, diolchaf ichi am y fraint o fod yn rhan o’r diwrnod arbennig hwn o ddathlu wrth i’n swyddogion myfyrwyr ddod yn swyddogion graddedig. Am yr anrhydedd rydych chi wedi ei wneud i mi heddiw, am y fraint o weithio gyda phobl fel Bronwen a Gerallt. Os caf i gyfeirio fy sylw olaf atoch chi’n bersonol Is-Ganghellor – diolch i chi am y dychymyg a ddaeth gyda chi i’ch rôl gan ehangu gorwelion a’r ffordd yr ydych wedi hyrwyddo rôl y brifysgol ar gyfer ei myfyrwyr a’i chymunedau.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau