Skip page header and navigation

Yn ystod y mis diwethaf, mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Gellionnen wedi bod yn gloywi eu Tsieineeg ac yn paratoi i gymryd rhan mewn digwyddiad pwysig yn y calendr Tsieineaidd.  Mae Gŵyl Cychod y Ddraig yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei nodi yn Tsieina drwy ddathliadau, rasio cychod a choffáu’r bardd hynafol enwog, Qu Yuan.

Grŵp o ddau ddeg saith o ddisgyblion blwyddyn pump a chwech o Ysgol Gellionnen yn perfformio mewn neuadd.

Bydd Athrofa Confucius Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Gŵyl Cychod y Ddraig 2023 ar 18 Mehefin yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe gyda bore o berfformiadau o ganeuon a barddoniaeth gan blant o Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius, a phrynhawn o weithdai diwylliant Tsieineaidd sy’n agored i’r cyhoedd.  Mae’r digwyddiad yn ddathliad nid yn unig ar gyfer Ysgol Tsieineaidd Abertawe ond holl gymuned Abertawe.

Sefydlwyd yr Ysgol Tsieineaidd gan Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant yn 2016 i ddarparu addysg ar gyfer plant â threftadaeth Tsieineaidd yn ne Cymru, addysg sy’n eu cysylltu â’u hiaith a’u diwylliant ac mae’r ysgol yn cwrdd bob penwythnos yn ystod y tymor.  Ar ôl y pandemig, mae gan yr ysgol 120 o ddisgyblion o 5 i 18 oed.  I ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig mae’r plant wedi bod yn dysgu cerddi Tsieineeg clasurol a chaneuon poblogaidd.  

Fel digwyddiad cymunedol a thraws-ddiwylliannol, mae disgyblion o Ysgol Gellionnen wedi ffurfio côr plant Mandarin cyntaf Cymru ac maent wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan fel gwesteion arbennig.  Byddant yn rhoi eu perfformiad cyhoeddus cyntaf o’r caneuon Tsieineeg maent wedi bod yn eu dysgu gydag athrawes Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant, Cindy Chen.

Meddai Pennaeth Ysgol Gellionnen, Kevin Davies:  “Rydym ni wrth ein boddau i dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o Ŵyl Cychod y Ddraig ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i berfformio mewn cytgord o fewn y byd amlddiwylliannol lle rydym ni bellach yn byw yn ein cymuned leol.

“Mae Ysgol Gellionnen wedi creu cysylltiad cryf iawn rhwng Athrofa Confucius a’i disgyblion dros y pedair blynedd ddiwethaf gyda Mr Niles Guo yn gosod sylfeini cadarn y mae’r disgyblion wedi gallu ffynnu arnynt dan gyfarwyddyd Mrs Cindy Chen.

“Gyda’i gweledigaeth a’i chreadigrwydd, mae’r disgyblion wedi ymgysylltu’n drwyadl, gan ddysgu am y diwylliant a’r traddodiadau drwy brofiadau ymarferol megis gemau awyr agored a gweithgareddau.”

Dywedodd fod disgyblion wedi datblygu’r gallu i ddarllen testunau syml ac maent yn dod yn fwy cyfarwydd â rheolau gramadeg a thôn.

“Wedi dysgu penillion Tawel Nos mewn 4 iaith wahanol yn cynnwys Mandarin ar gyfer cyngerdd Nadolig 2022, ganwyd y syniad o ddatblygu côr Tsieineaidd ac ym mis Ebrill mewn datblygiad cyffrous crëwyd Côr Mandarin gyda disgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6 yn cymryd rhan mewn sesiynau canu wythnosol.”

Ychwanegodd Yu Liu, Cyd-gyfarwyddwr Athrofa Confucius yn y Drindod Dewi Sant:  “Rwy’n gobeithio y bydd hwn yn gyfle gwych, pan fydd disgyblion o Gymru yn gallu canu gyda’r disgyblion â Threftadaeth Tsieineaidd, mae hyn hefyd yn gallu tystio bod prydferthwch y diwylliant yn gallu cael ei rannu’n gyfartal gan bobl o ble bynnag maent yn dod, a bydd y rhannu’n cario ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth”.

Llefaru caneuon a cherddi clasurol yw gweithgaredd traddodiadol pobl Tsieineaidd i ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig drwy’r oesoedd.

“Gobeithio bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion yr Ysgol Sul Tsieineaidd a’u rhieni werthfawrogi llenyddiaeth brydferth glasurol Tseineaidd, ac yn dod ag awyrgylch trochol o’r miri traddodiadol Tsieineaidd i’r gymuned leol”.

Yn ystod prynhawn rhaglen Gŵyl Cychod y Ddraig, darperir gweithdai diwylliannol Tsieineaidd a drefnwyd gan staff a gwirfoddolwyr Athrofa Confucius, yn cynnwys torri papur, caligraffeg, gwisgoedd Tsieineaidd ac offerynnau Tsieineaidd.  

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krystyna Krajewska k.krajewska@pcydds.ac.uk neu Lisa Liu yu.liu@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau