Skip page header and navigation

Mewn digwyddiad gwirioneddol drawsddiwylliannol, ymunodd plant a rheini o Ysgol Gynradd Gellionnen â theuluoedd o gymuned Tsieineaidd Abertawe mewn dathliad hyfryd o’r Ŵyl Canol Hydref a drefnwyd gan Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant.

Plant yn rhoi cynnig ar beintio ag inc wrth un bwrdd mewn neuadd brysur.

Denwyd mwy na 200 o bobl gan y digwyddiad diwrnod cyfan, a’i fwriad oedd rhoi llawer o weithgareddau traddodiadol dilys i blant o bob cefndir i ddathlu ail ŵyl bwysicaf Tsieina. Roedd y rhaglen yn cynnwys chwedlau’n gysylltiedig â Gŵyl y Lleuad ac adrodd straeon; gwneud cacennau lleuad gan ddefnyddio toes chwarae i’r rhai bach; gwneud llusernau a thorri papur; posau, cystadlaethau gweill bwyta, a ‘thaflu i’r pot’ – y gêm Tsieineaidd hynafol o daflu saeth i mewn i bot (glynwyd yn gaeth at reolau iechyd a diogelwch!). Cafodd y plant hwyl hefyd wrth baentio wynebau, chwarae â phosau, yn ogystal â phaentio a chaligraffi â brws ac inc. Cyflwynwyd yr holl weithgareddau gan staff Athrofa Confucius a myfyrwyr-wirfoddolwyr Tsieineaidd y Drindod Dewi Sant o dan arweiniad Pennaeth yr Ysgol Tsieineaidd, Mrs Cindy Chen.

Mewn awyrgylch llawen a hapus, roedd plant a rhieni’n llawn diddordeb a chyffro i fod yn cymryd rhan. Roedd llawer o blant a oedd yn swil iawn ar y dechrau wedi dod o’u cragen a chael llawer o hwyl. Meddai Lisa Liu, Cyd-Gyfarwyddwr Tsieineaidd Athrofa Confucius: “Roeddwn i’n falch iawn o weld hwn yn troi’n ddigwyddiad teuluol iawn. Roedd rhieni a phlant yn darllen ac yn ceisio datrys posau gyda’i gilydd, a rhieni’n rhoi cliwiau i’w plant yn amyneddgar. Roedd hi’n hyfryd gweld rhieni’n helpu eu plant â gweithgareddau gwahanol, neu blant yn cynnwys eu rhieni. Roedd y rhain yn enghreifftiau go iawn o ffyddlondeb mab/merch – sef un o rinweddau mawr Conffiwsiaeth!”

Roedd yr adborth o’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn. Fe wnaeth rhieni disgyblion o Ysgol Gellionnen, lle mae Athrofa Confucius yn cyflwyno dosbarthiadau iaith a diwylliant Tsieineaidd yn wythnosol, ysgrifennu i ddweud cymaint yr oeddent wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ymuno â’r digwyddiad. Mae eu sylwadau i’w gweld isod:

Dywedodd rhai rhieni o’r gymuned Tsieineaidd fod y digwyddiad wedi dwyn i gof atgofion bore oes o ddathlu’r Ŵyl Canol Hydref mewn ffordd mor draddodiadol. Mae’r canlynol ymhlith y nifer o sylwadau a gafwyd gan rieni:

“Chwaraeodd fy mhlant yn hapus iawn ddoe. Rwy’n ddiolchgar iawn i Athrofa Confucius am gynnal y digwyddiad hwn. Fe wnaeth y gweithgaredd hwn adael i’r plant ddysgu llawer o wybodaeth, ac ar yr un pryd, gadawodd y gweithgaredd hwn atgof da. Diolch eto!”

“Mae’r digwyddiad hwn yn dda iawn! Mae gweithgareddau Gŵyl Canol Hydref yn gadael i mi deimlo’r awyrgylch llawen. Rwy’n gobeithio y bydd Athrofa Confucius yn cynnal mwy o weithgareddau o’r fath yn y dyfodol.”

“Rwy’n llawn cyffro i fod yn y digwyddiad hwn oherwydd rwy’n teimlo fel fy mod yn ôl yn fy nhref enedigol.”

“Fe wnaeth y plant fwynhau gweithgaredd heddiw’n fawr, a rhoddodd gweithgaredd heddiw brofiad gwych i’r plant!”

Rheolir yr Ysgol Tsieineaidd gan Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant ac mae’n cwrdd bob dydd Sul yn ystod y tymor yn adeilad IQ. Er bod y pwyslais ar roi sgiliau iaith a chymwysterau Mandarin ardderchog i blant o gefndir Tsieineaidd, mae’r ysgol yn chwarae rhan bwysig mewn helpu plant i gynnal eu treftadaeth ddiwylliannol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Athrofa Confucius, drwy anfon e-bost ati ar k.krajewska@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau