Skip page header and navigation

Dr Harkaitz Zubiri Esnaola o Gyfadran Addysg, Athroniaeth, ac Anthropoleg Prifysgol Gwlad y Basg, fydd Athro Preswyl Cymrodoriaeth Etxepare Alan R. King 2023 yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Dr Harkaitz Zubiri Esnaola.

Mae’r Gymrodoriaeth, a enwir ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth ym meysydd sosioiethyddol a pholisi cynllunio iaith.

Bydd Harkaitz Zubiri Esnaola yn treulio chwe wythnos yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra yn y Ganolfan bydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil yn ymwneud â sosioieithyddiaeth a’r iaith Fasgeg.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:

“Dyma’r ail flwyddyn i ni groesawu ysgolhaig o Wlad y Basg i Gadair Breswyl Alan R. King mewn Sosioieithyddiaeth, fel rhan o’r bartneriaeth arbennig rhwng y Brifysgol a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Mae arbenigedd Dr Harkaitz Zubiri ym maes addysg cyfrwng Basgeg yn arbennig o amserol i ni yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yn arbennig at ei ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol ac at yr elfennau eraill yn ei raglen waith ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio i gryfhau’r cyswllt rhwng Cymru a Gwlad y Basg. ”

Meddai Harkaitz Zubiri Esnaola, “Gall addysg chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau mynediad cyfartal i ddysgu iaith i bawb. Y brif flaenoriaeth yw nodi pa gamau addysgol sy’n gwneud hyn yn bosibl. Er bod modelau trochi yn gefnogol iawn, efallai na fyddant yn gwarantu llwyddiant i’r holl fyfyrwyr. Trwy archwilio statws ieithoedd fel Basgeg a Chymraeg mewn lleoliadau addysgol a chyfnewid canfyddiadau ymchwil perthnasol sy’n canolbwyntio ar effaith gymdeithasol gallwn fynd i’r afael â’r her hon yn well. Mae Cadair Alan R. King yn cynnig llwyfan ardderchog ar gyfer yr ymdrech hon, ac rydym eisoes yn gwneud y gorau o’r cyfle hwn.”

Mae gan Harkaitz Zubiri Esnaola raglen amrywiol fel rhan o’i gyfnod fel Athro Preswyl yng Nghymru. Y digwyddiad cyntaf fydd darlith ganddo yn dwyn y teitl ‘Making Basque accessible to all: exploring successful actions aimed at effective teaching and learning the language in schools’. Cynhelir y ddarlith nos Iau, 26 Hydref 2023, am 5.00 o’r gloch yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein drwy Zoom.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd paned am 4:30yh. Anfonwch RSVP at canolfan@cymru.ac.uk.

Os ydych am ymuno arlein e-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i dderbyn y ddolen Zoom.

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan 07590 428404. elin.jones@pcydds.ac.uk

  1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.
  2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a’r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.
  3. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu Cadair mewn Sosioieithyddiaeth a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig Dr Alan R. King yn 2022. Mae’n rhaglen flynyddol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn y maes blaenoriaeth hwn gan y ddwy wlad. Mae Cadair Alan R. King yn un o ddeg o gadeiriau a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn prifysgolion ar draws y byd, a hon yw’r unig un ym maes polisi a chynllunio iaith.
  4. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon