Skip page header and navigation

Mae gwaith academaidd a natur benderfynol un o raddedigion Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cael eu cydnabod yn y Senedd.

Summer Davies a Jane Hutt AS yn gafael bocs sy’n cynnwys y wobr wydr siâp deilen ac yn gwenu.

Enillodd Summer Davies, a raddiodd ym mis Gorffennaf o’r cwrs BA Dylunio Graffig, y wobr Cyflawniad Academaidd Eithriadol yng Ngwobrau Ieuenctid Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru 2023, a gynhaliwyd yn y Senedd wythnos diwethaf.

Roedd y categori a enillwyd gan Summer ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol yn eu rhaglen addysgol, neu wedi goresgyn rhwystrau sylweddol i gyflawni’r graddau uchaf posibl mewn arholiadau, asesiadau neu brofion.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Race Council Cymru a’i noddi gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS.

Meddai Summer: “Am noson anhygoel. Roeddwn i mor emosiynol! Roedd yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon a oedd yn cydnabod fy mhrofiadau heriol a’r modd y llwyddais i ffynnu yn y Drindod Dewi Sant er gwaethaf popeth.

“Defnyddiais fy mhrosiectau prifysgol i adfyfyrio ar y sefyllfaoedd anodd a’r trafferthion dwys a wynebais yn yr ysgol, fel merch ifanc ddu o Lanelli. Mae newid cadarnhaol a dathlu gwahaniaeth bob amser wedi fy ysbrydoli, felly creais ymgyrchoedd i addysgu a thynnu sylw at y problemau sy’n parhau.  

“Mae’n deimlad gwych i gael fy nghydnabod am fy ymdrechion ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i gael rhannu’r foment hon gyda phawb yn y Senedd nos Iau. Diolch i Race Council Cymru a Hanes Pobl Dduon Cymru am drefnu’r achlysur blynyddol arbennig hwn i ddathlu pobl ifanc du Cymru!”

Enillwyr gwobrau yng Ngwobrau Ieuenctid Cymru Hanes Pobl Ddu Cenedlaethol 2023 yn dal eu tystysgrifau.

Enwebwyd Summer gan Donna Williams, Rheolwr Rhaglen BA Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant, a ddywedodd: “Er iddi wynebu profiadau torcalonnus yn ystod ei blynyddoedd ffurfiannol yn yr ysgol, gwnaeth Summer ffynnu wrth astudio am ei gradd prifysgol. Gyda’i natur benderfynol a’i hangerdd i weithio gyda’i chreadigrwydd, enillodd un o’r marciau uchaf a ddyfarnwyd erioed ar y cwrs.

“Yn wyneb pob rhwystr, byddai Summer yn ymateb gyda graslonrwydd, amynedd a gostyngeiddrwydd dwfn wrth ddefnyddio ei phrofiadau poenus ei hun i addysgu eraill mewn ffordd addfwyn am hiliaeth. Rwy’n teimlo cymaint o falchder wrth weld Summer yn derbyn y wobr bwysig ac arwyddocaol hon. Diolch i Wobrau Ieuenctid Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru, a Race Council Cymru am greu’r gwobrau grymusol hyn ar gyfer ein pobl ifanc du.”

Estynnodd yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW, Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru “longyfarchiadau enfawr i fyfyrwraig anhygoel”, gan ddweud ei bod “wrth ei bodd bod Summer yn gallu ysbrydoli dysgwyr eraill i anelu am y brig. Rydyn ni i gyd mor falch ohoni!”

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig rhaglenni creadigol arloesol yng Ngholeg Celf Abertawe. Daeth y rhaglen Dylunio Graffig yn 1af yng Nghymru ac yn 11eg yn y DU yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024.

Mae siaradwr yn annerch cynulleidfa o lwyfan ym mynedfa’r Senedd; gellir gweld Bae Caerdydd a Phenarth trwy’r waliau gwydr tryloyw tu ôl iddi.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon