Skip page header and navigation

Trwy gydweithrediad arloesol rhwng ysgolion, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr, lansiodd yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) brosiect gyda’r nod o gyfoethogi treftadaeth leol a gwybodaeth ddiwylliannol.

Plant yn eistedd gyda’u coesau wedi’u croesi ar y lawnt o flaen Castell Ystumllwynarth.

Nod y prosiect yng Nghastell Ystumllwynarth oedd dod â phedwar diben y cwricwlwm newydd yn fyw trwy’r cysyniad o Gynefin – y berthynas rhwng pobl, lle, treftadaeth a hunaniaeth.

Mae’r fenter uchelgeisiol hon yn hyrwyddo dull dysgu drwy brofiad o ymdrin â Chynefin a’r cwricwlwm newydd ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Gwahoddir myfyrwyr i archwilio hanes Abertawe o’r 12fed ganrif, wedi’i ganoli o amgylch Brwydr Gŵyr ar Gomin Garngoch. Bydd y digwyddiad hanesyddol hwn, carreg filltir yn hanes Cymru, yn gonglfaen ar gyfer ymchwil myfyrwyr a dysgu dan arweiniad cymheiriaid.

Gan fynd y tu hwnt i gyfyngiadau ystafelloedd dosbarth, mae’r prosiect hwn yn grymuso myfyrwyr i rannu eu canfyddiadau gyda’r gymuned ehangach, gan feithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth dros etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru. Mae’r fenter yn gofyn am gefnogaeth arbenigwyr lleol, y Cyngor, y Gwasanaeth Llyfrgell, Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, Gwerin y Gŵyr, a mwy.

Dywedodd Alison Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Penyrheol: “Rydyn ni wedi dod at ein gilydd fel addysgwyr proffesiynol i rannu ein profiad er mwyn creu’r cwricwlwm rydyn ni’n gwybod bod ei angen ar ein disgyblion. Rydyn ni’n cydweithio â’r Brifysgol ac arbenigwyr rhyngwladol i’n helpu i sicrhau ein bod ni’n darparu profiadau dysgu cynhwysol, ystyrlon a phwerus i ddod â’r cwricwlwm newydd yn fyw.

“Gwyddom fod gennym ddysgwyr uchelgeisiol galluog yn Abertawe, ac rydym yn datblygu cyfleoedd i ddisgyblion ddangos pa mor wych y gallant fod fel cyfranwyr creadigol mentrus. Edrychwch ar y golygfeydd o’r Castell sy’n ddigon i’ch ysbrydoli – am leoliad gwych ar gyfer ystafell ddosbarth gymunedol!”

Yn nigwyddiad lansio’r prosiect, gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol i archwilio arddangosfa a oedd yn cynnwys ymchwil cychwynnol gan fyfyrwyr. Anogwyd y mynychwyr i roi adborth, gan feithrin amgylchedd o welliant adeiladol.

Pwysleisiodd cydlynydd y fenter, Hazel Israel o IICED yn y Drindod Dewi Sant, bwysigrwydd cyfranogiad cymunedol mewn addysg.

Meddai: Mae’n cymryd pentref i fagu plentyn. Mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe ac ysgolion, mae’r Brifysgol yn defnyddio dull Tîm Abertawe, Tîm Cymru o ddod â’r cwricwlwm newydd a’r pedwar diben yn fyw.”

“Mae ein disgyblion yn cymryd arnynt rôl haneswyr cymunedol, gan ddefnyddio eu dysgu i greu gwerth cymdeithasol a diwylliannol iddyn nhw eu hunain, o fewn, gyda ac ar gyfer eu cymunedau. Mae hyn nid yn unig yn cyfoethogi ein dealltwriaeth gyffredin o dreftadaeth leol ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb am ein hadnoddau diwylliannol a rennir, ac yn galluogi dysgu i ddefnyddio pobl a lleoedd lleol fel adnoddau i sicrhau y gall ein cwricwlwm newydd yng Nghymru fod y gorau yn y byd.”

Tri phlentyn oedran ysgol gynradd yn gwisgo clogynnau gyda chleddyfau a choronau plastig.

Dywedodd Nicola Powell, Swyddog Datblygu Ymgysylltu Dinesig INSPIRE yn PCYDDS: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda PCYDDS, Cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol ac Ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i greu profiad addysgol hanesyddol llawn hwyl i bobl ifanc yn y gymuned leol gan ddefnyddio a man gwyrdd. Roedd yn wych gweld lluniau a straeon a grëwyd gan y bobl ifanc yn dangos dealltwriaeth o ymdeimlad o le a hanes lleol a chefnogi athrawon i ddatblygu sgiliau ymchwil gweithredol i ddod â’r cwricwlwm newydd yn fyw.”

Mae’r prosiect yn cwmpasu meysydd amrywiol y tu hwnt i hanes a daearyddiaeth, megis gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau mynegiannol. Mae dulliau arloesol yn cynnwys cymhwyso technoleg VR ac arferion ynni cynaliadwy, gan ddarparu archwiliad cyfoethog, cyflawn o dreftadaeth leol a’r defnydd o fentyll wedi’u gwneud o baneli solar gan y rhyfelwyr ynni.

Bydd disgyblion yn mireinio eu prosiectau ymhellach yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, gan arwain at lyfr digidol. Bydd yr adnodd hwn, i’w rannu â llyfrgelloedd lleol, yn allweddol wrth addysgu dosbarthiadau yn y dyfodol am Frwydr Gŵyr. Yn ogystal, mae disgyblion wedi ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe i greu map VR 3D o’r Castell, gan ei wneud yn hygyrch i unigolion nad ydynt yn gallu ymweld â’r lleoliad yn gorfforol.

Edrychwch ar yr hyn y mae’r disgyblion wedi’i greu gyda chymorth staff dysgu digidol o Goleg Gŵyr i helpu pobl i ddysgu am y Castell a chael profiad ohono. Hefyd cadwch eich llygaid ar agor am brofiad ystafell drochi o Frwydr Gŵyr ar gampws SA1 y Drindod Dewi Sant, a llyfrau cyhoeddedig sy’n cynnwys yr hyn a ddysgwyd gan y disgyblion mewn llyfrgell leol yn eich ardal chi.

Gyda diolch i IICED y Drindod Dewi Sant, Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr, Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, Gwerin y Gŵyr, Bantani Cymru, Awel Aman Tawe, Gwasanaeth Llyfrgell Abertawe, Ysgol Gyfun Penyrheol, ysgolion cynradd Penyrheol, Pontybrenin, Gorseinon, Casllwchwr, Tre Uchaf, a Whitestone.

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter unigryw hon a chyfleoedd i gymryd rhan, cysylltwch â h.israel@pcydds.ac.uk.

Mae merch yn chwerthin mewn penset rhith wirionedd wrth i blant eraill ei gwylio gyda diddordeb.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon