Skip page header and navigation

Mae Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler, wedi mynychu Fforwm Byd-eang India 2023 yr wythnos hon lle bu’n siarad am greu cysylltiadau parhaol rhwng sîn lenyddol India a Chymru.

Gan afael llyfr ar agor ar ei lin, mae Dr Jaideep Gupte yn siarad wrth i dri phanelydd wrando; baner Indiaidd ac arwydd mawr yn dweud ‘Creative Industries and Cultural Economy Summit’ i’w gweld tu ôl iddynt.

Roedd adran diwylliant y Fforwm, Uwchgynhadledd y Diwydiannau Creadigol a’r Economi Ddiwylliannol, a gyd-drefnwyd mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig, yn cynnull arweinwyr a rhanddeiliaid allweddol i barhau â’r ddeialog ar weledigaeth newydd o gyfnewid diwylliannol dwyochrog rhwng y DU ac India, yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg y llynedd.

Roedd Alexandra Büchler yn siarad am waith Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF), rhaglen a gynhelir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ochr yn ochr â Chyfnewidfa Lên Cymru, ac yn ei thrafodaeth soniodd am gydweithrediad hir-sefydlog LAF â sin lenydda a chyfieithu lewyrchus India. Ers 2009 mae LAF wedi sbarduno nifer o brosiectau, a hynny drwy gydweithio â gwyliau, ffeiriau llyfrau a sefydliadau addysg uwch sy’n anelu at hyrwyddo cyfnewid llenyddol rhyngwladol a dwyn sylw i lenyddiaeth Cymru boed yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

“Mae cydweithio wedi arwain at gysylltiadau parhaol a chynhyrchiol gydag India, gwlad sydd â thirwedd ddiwylliannol hynod fywiog sydd yn cynnig llwyfan a chynulleidfa eang a chymharol ifanc i awduron Cymraeg gael cyflwyno eu gwaith i ieithoedd India. Roedd y prosiect nodedig a gynhaliwyd gyda deg bardd Indiaidd a Chymreig yn 2017–18 yn ddathliad o 70 mlynedd ers i India ddod yn annibynnol, ac fe ddigwyddodd hyn yn ystod Tymor y DU–India gyda phreswyliadau cyfnewid a thaith o chwe gŵyl. Yn 2019, trefnon ni raglen ‘Cymru Gwlad Wadd’ yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kerala, a’r ŵyl ficro ‘Cymru yn y Ddinas!’ yn Mwmbai. Cawsom gyfle i ddychwelyd i India gyda thaith lenyddol yn gynharach eleni, diolch i gefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru,” meddai Alexandra Büchler.

“Rydym yn falch iawn o weld gwaith awduron o Gymru yn cael ei gyfieithu i ieithoedd India dan nawdd Cronfa Grantiau Cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru. Bydd addasiadau o Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros a Drift gan Caryl Lewis, dwy gyfrol lwyddiannus ddiweddar, yn ymddangos yn fuan gan DC Books, sy’n gyhoeddwr Malaialam blaenllaw. Yn ogystal â hyn, mae barddoniaeth Paul Henry yn cael ei chyfieithu gan y bardd adnabyddus Anwar Ali,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chyd-Gyfarwyddwr Strategol Cyfnewidfa Lên Cymru.

Ymhlith siaradwyr eraill o’r DU yn yr Uwchgynhadledd oedd yr awdur, hanesydd a darlledwr Bettany Hughes; Alison Barret, Cyfarwyddwr Gwlad dros India ar y Cyngor Prydeinig; Amish Tripathi, Cyfarwyddwr Canolfan Nehru; a Dr Jaideep, Gupte, Cyfarwyddwr Ymchwil, Strategaeth ac Arloesi Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. 

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Alexandra Büchler: alexandra@lit-across-frontiers.org

Cefndir

Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw’r llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a dadlau pholisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. 

Lleolir LAF yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, rhaglen sy’n hyrwyddo llyfrau Cymraeg ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer eu cyfieithu. Cefnogir eu gweithgareddau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllidwyr eraill.

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog.

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posib, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon