Skip page header and navigation

Heddiw, yn y Seremoni Raddio a gynhaliwyd ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol dyfarnwyd cymrodoriaeth er anrhydedd i Mr Dai Rogers i gydnabod ei wasanaethau eithriadol i’r Brifysgol ac, yn arbennig, wrth gefnogi myfyrwyr.

Saif Dai Rogers gyda Rhys Dart ac uwch aelodau eraill y Brifysgol tu allan i’r Hen Adeilad ar Gampws Caerfyrddin; maent i gyd yn gwisgo gwisg academaidd.

Dai Rogers yw cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol a fu’n gyfrifol am gefnogi myfyrwyr ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru ac yn Llundain a Birmingham.

Wedi’i eni yn Noc Penfro a’i fagu a’i addysg yn Llandysul ac Aberhonddu, graddiodd Dai mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, gan arbenigo mewn daearyddiaeth gymdeithasol ac, yn arbennig, daearyddiaeth yr iaith Gymraeg.

Dechreuodd cysylltiad Dai â’r Brifysgol pan gafodd ei benodi i ddysgu Daearyddiaeth yn 1989 yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, fel yr oedd ar y pryd. Dechreuodd hyn yrfa a oedd yn ymestyn dros 28 mlynedd o’r 31 mlynedd nesaf mewn amrywiaeth o swyddi nes iddo ymddeol yn 2020.

Wrth gyflwyno Dai i’r gynulleidfa dywedodd Rhys Dart, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: “Mae Dai yn rhywun sydd nid yn unig yn gweithio mewn lle, mae’n buddsoddi ei amser a’i egni a’i ymrwymiad. Mae’n cofleidio rôl gymunedol ehangach y Brifysgol yn arbennig. Anaml iawn, hyd yn oed yn ei ymddeoliad, yw mynd i ddigwyddiad prifysgol a pheidio â gweld Dai yno, yn dathlu ac yn cefnogi’r rôl y mae’r Brifysgol hon yn ei chwarae wrth ddod â phobl ynghyd ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy cadarn a rhyng-gysylltiedig”.

“Mae cymuned wastad wedi bod yn bwysig i Dai sydd wedi defnyddio ei angerdd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru wledig i helpu i adnabod y cyfleusterau yr oedd pobl mewn pentrefi, fel Llandysul, eisiau eu gweld yn cael eu darparu gan lywodraeth leol. Nid yn unig roedd hwn yn gyfle iddo ddefnyddio ei sgiliau arbenigol i roi yn ôl i’w gymuned ond hefyd yn gyfle gwych i’w fyfyrwyr”.

Penodwyd Dai Rogers i arwain Adran Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin yn ystod rhai o’r blynyddoedd mwyaf trawsnewidiol yn hanes diweddaraf y Brifysgol. Ar ei ymddeoliad roedd yn arwain tîm amlddisgyblaethol yn gweithio ar draws nifer o leoliadau daearyddol ac yn cefnogi dros 20,000 o fyfyrwyr ac roedd wedi rhoi ystod o systemau a phrosesau cymorth ar waith.

Dai Rogers gyda’i deulu.

Aeth Rhys Dart ymlaen, “Roedd y twf yng nghyfrifoldebau Dai dros y blynyddoedd yn syfrdanol, ond yr hyn oedd yn gyson oedd ei agwedd ofalgar a’i allu i wneud amser i bobl. Mae gan fyfyrwyr heddiw fynediad i linell gymorth myfyrwyr 24/7. Nid gor-ddweud yw hi mai Dai oedd am flynyddoedd lawer y person a fyddai’n derbyn y galwadau ffôn gan bobl oedd angen cymorth a beth bynnag yr awr byddai’n gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ddiogel, bod staff yn cael eu cefnogi, a bod teulu a ffrindiau yn dawel eu meddwl. I brifysgol sy’n ymfalchïo mewn bod yn deulu, roedd Dai bob amser yn ganolog i’n dull myfyriwr-ganolog.

“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i Dai am yr amynedd, y gefnogaeth a’r arweiniad a roddodd i mi ac eraill yn yr adran gwasanaethau myfyrwyr yn ystod misoedd cynnar 2020 pan oedd ef ei hun yn dod i delerau â diagnosis o glefyd Parkinson. Roedd bryd hynny, ac mae yn awr, yn berson oedd ar gael â’i gyngor, yn feddylgar, yn ystyriol, yn gefnogol ac yn anad dim, yn ddoeth.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau