Skip page header and navigation

Bydd cyfres o seminarau Hanes Eglwysig Cymru yn dychwelyd fis nesaf gyda nifer o siaradwyr gwadd amlwg.

Print o 1714 gan George Vertue yn dangos yr Esgob William Lloyd yn ei ynau eglwysig yn eistedd o flaen silffoedd sy’n llawn llyfrau trwm; mae geiriau Lladin oddi dano.

Yn dilyn blwyddyn agoriadol lwyddiannus, bydd y Darlithoedd yn ailgychwyn ar Dachwedd 14 2023 gyda’r Athro William Gibson yn cyflwyno ei ddarlith dan y teitl Bishop William Lloyd: A Welsh Plotter in the Glorious Revolution of 1688. Mae’r papur hwn yn dadlau nad oedd William Lloyd, Esgob Llanelwy yn wrthwynebydd i Iago II yn unig ond yn gynllwyniwr gweithgar yn ystod Chwyldro 1688. Cydlynodd weithredoedd yn erbyn Iago a’i ysgogi i fesurau mwy eithafol. Erbyn i Iago II ffoi o’r wlad, roedd Lloyd yn ffigwr o bwys a oedd yn dadlau dros olyniaeth William a Mary ac yn hyrwyddo eu hachos yn Senedd Confensiwn 1689.

Mae’r rhaglen eleni, a drefnir gan Y Drindod Dewi Sant, Canolfan Methodistiaeth a Hanes Eglwysi Rhydychen a Chanolfan Hanes Pobl, Lle a Chymuned y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, hefyd yn cynnwys darlithoedd gan yr Athro Frances Knight (Prifysgol Nottingham) a’r Athro Barry Lewis ( Canolfan Astudiaethau Uwch Dulyn).

Yr Athro Williams Gibson wrth ddarllenfa wedi’i haddurno â lliain ag arno golomen yn hedfan o flaen croes.

Wrth edrych ymlaen at ddarlith gyntaf y gyfres, dywedodd yr Athro Williams Gibson, Cyfarwyddwr Canolfan Methodistiaeth a Hanes Eglwysig Rhydychen: “Mae’n anrhydedd cael cymryd rhan yng nghyfres ddarlithoedd Hanes Eglwysig Cymru eleni ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at draddodi fy narlith yn amgylchedd hyfryd Ystafell Ddarllen Roderic Bowen.

Fel myfyriwr graddedig o Lambed mae bob amser yn bleser cael y cyfle i siarad ar y campws ac eleni mae ein cysylltiadau â’r Sefydliad Ymchwil Hanesyddol yn golygu bod y gyfres seminarau hefyd ar-lein.

Y seminar yw’r unig fforwm ar gyfer papurau ymchwil Hanes Eglwysig Cymru ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig i Hanes Cymru.”

Y seminarau, a gynhelir yn Ystafell Ddarllen Roderic Bowen ac ar-lein, yw:

  • Yr Athro Bill Gibson (Canolfan Methodistiaeth a Hanes Eglwysig Rhydychen, Prifysgol Oxford Brookes): 14 Tachwedd 2023 – Yr Esgob William Lloyd: Cynllwyniwr Cymreig yn Chwyldro Gogoneddus 1688
     
  • Yr Athro Frances Knight (Prifysgol Nottingham): 20 Chwefror 2024 – Bywydau Parallel: Alfred Ollivant & Curnop Thirlwall a Chreu Hunaniaeth Gymreig
     
  • Yr Athro Barry Lewis (Canolfan Uwchefrydiau Dulyn): 14 Mai 2024 – Ysgrifennu Hanes Cristnogaeth yng Nghymru Cyn y Normaniaid: Heriau a Chyfleoedd

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon