Skip page header and navigation

Mae’r adroddiad astudiaeth ddichonoldeb i ariannu gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i gyhoeddi.

Five young people in ripped jeans leaning against a brick wall and holding their phones.

Wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru, mae tair o Brifysgolion Cymru wedi cael y dasg o gynnal adolygiad llawn o gyllid gwaith ieuenctid o fewn y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chynaledig ledled Cymru. Dan arweiniad Dr Darrel Williams o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae academyddion o Brifysgol Wrecsam, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a’r Drindod Dewi Sant wedi dechrau eu hymchwil gyda’r nod o nodi model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol yng Nghymru.

Mae pedwar amcan allweddol ar gyfer yr adolygiad ariannu sy’n cynnwys tri cham ymchwil i’w cyflawni. Nod ‘cam un’ yr adolygiad ariannu oedd darparu fframwaith clir ar gyfer yr ymchwil i’w gwblhau gan gynnwys asesiad tystiolaeth cyflym o’r llenyddiaeth sydd ar gael, ymchwil ar ymarfer gwaith ieuenctid a golwg ar sut mae ymchwilwyr blaenorol wedi dadansoddi cyllid. a modelau o fesur gwerth am arian yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Cynhaliwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol hon mewn pedwar ardal awdurdod lleol gan gynnwys Wrecsam, Powys, Abertawe, Casnewydd. Dywedodd Dr Darrel Williams, Uwch Ddarlithydd, rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol PCYDDS:

“Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi’r adroddiad astudiaeth dichonoldeb cychwynnol hwn. Bydd yr adolygiad o gyllid gwaith ieuenctid yn rhoi cyfle gwirioneddol inni ymchwilio i waith ieuenctid ledled Cymru.

Rydym eisoes wedi dysgu llawer iawn am sut mae gweithwyr ieuenctid yn helpu pobl ifanc ar draws cymunedau. Mae gweithwyr ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc mewn cymaint o ffyrdd trwy drefnu gweithgareddau, cefnogaeth iechyd meddwl, ffitrwydd, gweithgaredd corfforol, helpu gyda chefnogaeth tai a chefnogi pobl ifanc i gyflawni yn yr ysgol. Mae’r holl ffyrdd y mae gweithwyr ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc yn ein cymunedau wedi gwneud cymaint o argraff arnom.”

Yn ystod ‘cam dau’ yr adolygiad bydd cyfle i’r tîm ymchwil adeiladu ar y wybodaeth a’r dystiolaeth a gyhoeddwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb. Bydd y tîm nawr yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a godwyd yng ‘ngham 1’ drwy gasglu tystiolaeth fanylach o leoliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a lleoliadau gwaith ieuenctid a gynhelir ar draws ardaloedd y pedwar awdurdod lleol.

Bydd yr adolygiad hefyd yn samplu sefydliadau’r sector gwirfoddol sy’n ymwneud â chyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru a bydd yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol nad ydynt yn cael unrhyw arian cyhoeddus. Bydd gan rai o’r sefydliadau sector gwirfoddol hyn ôl troed cenedlaethol yn gweithredu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol lluosog, tra bydd gan eraill broffil lleol.

Wrth edrych ymlaen at gam nesaf yr adolygiad, ychwanegodd Dr Williams:

“Mae’r tîm ymchwil nawr yn edrych ymlaen at y cam nesaf ac yn ymweld â phob rhan o Gymru i gasglu data newydd ar gyfer yr adolygiad hollbwysig hwn.

Mae rhai o’n canfyddiadau cychwynnol wedi bod yn hynod ddiddorol ac rydym yn barod i archwilio rhai o’r materion hyn ymhellach yn ystod ail gam y prosiect.

Ar ôl y gwaith hwn, bydd cam olaf (Cam 3) yr adolygiad yn cynnwys dadansoddiad cost a budd gyda’r nod o sefydlu effaith ac effeithiolrwydd economaidd cyllid gwaith ieuenctid. Byddwn hefyd yn ceisio nodi arfer da mewn perthynas ag ariannu gwasanaethau gwaith ieuenctid lleol ar gyfer y dyfodol wrth i ni weithio tuag at nodi model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad dichonoldeb ‘Cam 1’ ar llyw.cymru.

Os hoffech ddarganfod mwy am yr ymchwil neu os ydych yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac eisiau bod yn rhan o gam 2, cysylltwch â Dr Darrel Williams – D.G.Williams@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon