Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2023 yw Ffion Anderson, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o Gwm Gwendraeth.

Ffion Anderson mewn gwisg academaidd.

Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bu Norah Isaac yn Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau’n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.

Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Ffion yn derbyn ei gwobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio.

Bu angerdd a brwdfrydedd Ffion, myfyrwraig ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion ar draws y Brifysgol dros y tair blynedd ddiwethaf. 

Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg bu’n llysgennad penigamp wrth hybu’r Gymraeg a Chymreictod, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau parhad i’r Gymdeithas ac yn cydnabod y pwysigrwydd o’i fodolaeth i’r Brifysgol. Gwnaeth annog myfyrwyr i ymuno yn yr amryw o weithgareddau a gyniga’r Brifysgol, ac i fanteisio ar bob cyfle posib.

Gweithiodd yn ddiwyd hefyd i drefnu sesiynau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol yn enw’r Gymdeithas a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Dangosodd sgiliau trefnu ardderchog pan drefnodd taith i’r Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chydweithiodd yn ddiflino gyda’i chyd-fyfyrwyr a gydag aelodau o staff i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd ar gampws Llambed yn gynharach eleni. 

Cyfrannodd hefyd i lu o gyfweliadau ar y cyfryngau yn ystod y flwyddyn gan leisio barn ar bynciau llosg y dydd megis costau byw myfyrwyr a’r gostyngiad ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc yn sir Gâr yn dilyn canlyniadau cyfrifiad 2021. 

Hyrwyddodd defnydd y Gymraeg hefyd fel aelod brwd o dîm pêl-rwyd Academi Chwaraeon y Brifysgol.

Fel aelod o’r Urdd, cefnogodd a chyfrannodd tuag at nifer o weithgareddau codi arian i Eisteddfod Sir Gaerfyrddin a drefnwyd gan y Brifysgol. Yn ogystal, cymerodd ran yng ngweithgareddau Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan gynnwys penwythnos y glas, dathliadau Gwŷl Ddewi a chanu yng nghôr y Gangen mewn gwasanaethau. 

Yn ystod ei phrofiad addysgu proffesiynol llwyddiannus, ymdrechodd i godi safonau iaith y dysgwyr ifanc dan ei gofal trwy gynnal gweithgareddau megis y Cynllun Clonc i ysgogi datblygiad llafaredd. Yn dilyn hynny fe’i penodwyd i swydd athrawes Cyfnod Allweddol Dau ar gyfer Medi 2023 yn yr union ysgol, fel y gall barhau i fod yn llysgennad gwych i genedlaethau’r dyfodol. Yn ychwanegol at ofynion ei chwrs, astudiodd ar gyfer arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Meddai Ffion:

“Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Norah Isaac. Mae’r Gymraeg a fy Nghymreictod yn bwysig iawn i mi, felly mae ennill y wobr hon yn anrhydedd fawr. Roedd dewis prifysgol â diwylliant Cymreig yn gwbl bwysig i mi, felly ble gwell na chanol tref Caerfyrddin?

“Mae’r Brifysgol yn sicr wedi darparu cwrs BA Addysg Gynradd arbennig i mi trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda darlithwyr profiadol a chefnogol yn arwain y cwrs. Mae hyn wedi gosod y seiliau cadarn i mi fel athrawes, a braint bydd y cyfle i drosglwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymreig i ddisgyblion y dyfodol.

“Gan y dechreuais fy mhrofiad dan gwmwl cofid, roeddwn yn benderfynol o ail-gydio ym mywyd Cymreig y Brifysgol a sicrhau bod y Gym Gym dal i redeg. Cefais y fraint yn rhan o dîm arbennig wrth drefnu’r Eisteddfod Ryng-golegol yn Llambed. Teimlais falchder fel Llywydd y Gym Gym wrth wisgo bathodyn PCYDDS a gweld y myfyrwyr yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, 

“Mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yn llongyfarch Ffion Anderson yn gynnes iawn ar ennill Gwobr Goffa Norah Isaac eleni ac a gyflwynir yn flynyddol gan y Gymdeithas. Mae gweld person ifanc yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod yn ystod ei chyfnod yn y coleg yn rhywbeth i’w ymfalchïo ynddo, ac yn un o flaenoriaethau Norah Isaac pan oedd hi yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod.”

Nododd Nanna Ryder, Uwch Ddarlithydd Addysg y Brifysgol:

“Bu’n bleser i gefnogi Ffion ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC ar hyd y dair mlynedd. Mae ei hangerdd a’i brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg yn heintus ac mae’n llawn haeddu’r wobr nodedig hon am ei chyfraniad sylweddol i fywyd Cymreig y Brifysgol. Llongyfarchiadau calonnog iddi ar dderbyn yr anrhydedd a phob dymuniad da iddi wrth ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol yn ei swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Lon Las ym mis Medi.” 

Ffion Anderson yn gafael tarian y wobr gyda Nanna Ryder, Peter Hughes Griffiths a’i theulu’n bresennol.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau