Skip page header and navigation

Mae Cymrawd Ymchwil, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cyd-olygu llyfr amlwg newydd sy’n canolbwyntio ar y ffurfiau newydd o gelfyddyd Fwslimaidd Brydeinig gyfoes.

Dr Sadek Hamid ar y chwith; clawr ei lyfr newydd ar y dde.

Bu Dr Sadek Hamid, Cymrawd Ymchwil ar gyfer y prosiect ‘Digital British Islam’, yn cyd-olygu Contemporary British Muslim Arts and Cultural Production: Identity, Belonging and Social Change gyda’i gyd-awdur a darlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, Stephen H. Jones.

Mae’r cydweithrediad unigryw hwn rhwng ysgolheigion, ymarferwyr, ac artistiaid Mwslemaidd yn proffilio ffurfiau newydd o gelfyddyd Fwslimaidd Brydeinig gyfoes, gan ysgogi dadl am ei phwrpas a’i chynnwys yng nghymdeithas y DU. Mae’n cynnwys dadansoddiad o gelfyddyd Fwslimaidd fel categori, yn ogystal ag adroddiadau myfyriol am bobl sy’n gweithio yn y theatr, cerddoriaeth boblogaidd, y sector treftadaeth, a chelfyddydau gweledol hynafol a modern, yn aml ar ymylon diwydiant celfyddydau Prydain.  Gan ymdrin â themâu cymdeithasegol a diwinyddol yn ogystal â hanes ac arfer celf, mae’r gyfrol yn darparu ymyriad amserol ar bwnc a esgeuluswyd.

Dywedodd Dr Sadek Hamid: “Rwy’n falch iawn o fod wedi helpu i gynhyrchu’r gyfrol hon ac rydym wrth ein bodd gyda’r llyfr gorffenedig. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi a chyfrannu at y gyfrol.”

Mae’r llyfr yn trafod pynciau amrywiol gan gynnwys sut mae Mwslimiaid Prydeinig ail a thrydedd genhedlaeth, fel rhan o newid cenhedlaeth ehangach, wedi ail-weithio cerddoriaeth Sufi a chaligraffeg draddodiadol a’u hasio ag arddulliau cerddorol ac artistig newydd, o Grime i gelfyddyd llyfrau comig, ochr yn ochr ag ystyriaeth o profiadau artistiaid Mwslimaidd sy’n gweithio yn y theatr, amgueddfeydd a’r sectorau celfyddydau perfformio.

Mae’n llyfr sy’n rhaid ei ddarllen i fyfyrwyr ac ymchwilwyr diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol, astudiaethau Islamaidd, celfyddyd gain, astudiaethau diwylliannol, ac astudiaethau ethnig a hiliol.

Gallwch archebu Contemporary British Muslim Arts and Cultural Production: Identity, Belonging and Social Change ar-lein nawr trwy ymweld â gwefan y cyhoeddwyr Routledge.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon