Skip page header and navigation

Dyfarnwyd cymrodoriaeth er anrhydedd i Margaret Evans, cyn uwch was sifil a fu’n gweithio i John Major a Michael Portillo. Bu Margaret Evans hefyd yn aelod hirsefydlog o Gynghorau Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

A chanddi wallt fioled byr a chot binc, mae Margaret Evans yn sefyll gan wenu rhwng Medwin Hughes ac Arwel Ellis Owen.

Cyflwynwyd Margaret Evans i’r cynulliad gan Arwel Ellis Owen, sydd hefyd yn aelod o’r Cyngor ac yn gyn Brif Weithredwr S4C.

Yn enedigol o Dreorci, cafodd Margaret Evans ei magu yng Nghwmafan ac ardal Port Talbot ar adeg pan oedd gwaith dur y dref yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi a ffordd o fyw yr ardal.

Treuliodd Margaret ei blynyddoedd ffurfiannol yn Ysgol Glanafan a Chapel Dyffryn ac mae’n talu teyrnged i’w hathrawon yn yr ysgol a’r ysgol Sul am eu dylanwad arni. Arwydd cynnar o’i chyfraniad i fywyd Cymraeg ei bro oedd ei dewis yn Ferch y Fro yn Eisteddfod Aberafan, ac iddi gyfarch Dic Jones pan enillodd y gadair am ei awdl i’r Cynhaeaf.

Astudiodd Margaret Evans Hanes yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) gyda’r canoloeswr nodedig Rees Davies, AJP Taylor a CV Wedgewood, gyda’r olaf yn defnyddio’r blaenlythrennau CV i guddio ei rhyw, cymaint oedd y rhagfarn yn erbyn haneswyr benywaidd ar y pryd, ac mae Margaret yn cofio ei sioc ei hun ar gyfarfod Wedgewood am y tro cyntaf, ar ôl tybio ar gam ei bod yn ddyn. Gwers a ddysgodd a nododd ar y pryd.

Ymunodd â’r gwasanaeth sifil, ac aeth i’r Swyddfa Gymreig newydd yn Whitehall ar ôl graddio, cyn symud ymlaen i weithio gyda John Major a Michael Portillo.  Ar ôl ugain mlynedd o fyw yn Llundain, bu datblygiadau gwleidyddol yng Nghymru yn atyniad anorchfygol iddi hi a’i gŵr Howard, academydd ymchwil meddygol rhyngwladol o fri a wahoddwyd i arwain tîm arbenigol yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru Syr Geraint Evans yng Nghaerdydd.

Cafodd Margaret ei gwahodd i ymuno ag Ymddiriedolaeth y Tywysog, elusen sy’n helpu pobl ifanc ddi-waith a difreintiedig, profiad a ddysgodd fwy iddi am realiti heriau bywyd nag unrhyw un o’i safleoedd pŵer eraill.

Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ymunodd Margaret â’r Adran dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, a bu’n cynorthwyo’r weinyddiaeth newydd i ddrafftio strategaeth ddiwylliant am y tro cyntaf yn hanes Cymru. Bu’n gweithio’n agos gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, yn cynorthwyo i gyflwyno strategaeth ar gyfer y Gymraeg a bathiad y term Iaith Pawb.

Yn ei anerchiad i’r cynulliad graddio, dywedodd Arwel Ellis Owen, cyd-aelod o Gynghorau’r Brifysgol: “Tybed oedd profiad bod yn Ferch y Fro i Dic Jones a’i gwpled ‘yr hen iaith Yn nillad gwaith ei hafiath cartrefol’ wedi dylanwadu ar ddychymyg y gwas sifil flynyddoedd wedyn wrth iddi ymbyfalu am arwyddair neu gipair crafog tebyg i Iaith Pawb?

Aeth yn ei flaen: “Y dyfnder profiad hwn a wnaeth Margaret yn un o aelodau mwyaf dylanwadol ac uchel ei pharch ar Gyngor Prifysgol Cymru ac yn ddiweddarach y sefydliad hwn. Roedd ei meddwl strategol yn eang ac yn heriol.  Mae ei sylw i fanylion yn anhygoel.”

Wrth dderbyn ei Chymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Margaret Evans: “Mae’n anrhydedd fawr i mi heddiw dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol, ac am yr holl gyfleoedd dros fwy na degawd i gyfrannu at ei llwyddiant.

“Fy niolch cynhesaf i’r Cadeirydd a’r Is-Ganghellor a hefyd i Sarah Clark a’r tîm am eu holl waith caled, cyfeillgarwch a chefnogaeth.

“I’r graddedigion heddiw, rwy’n edrych dros Fae Abertawe i fy nhref enedigol, Port Talbot. Mae fy nhaith oddi yno i’r brifysgol, gyrfa yn Llundain a Chymru a theithio’r byd gyda swydd fy ngŵr yn dangos pwysigrwydd cyfleoedd, gwaith caled a her i bob un ohonom. Rwy’n siŵr eich y byddwch chi’n profi’r rhain i gyd yn eich dyfodol disglair. Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau gorau i chi gyd!”

Gan bwyso ychydig ar ffon gerdded cwad, mae Margaret Evans yn gwenu tuag at y camera gyda’r Athro Elwen Evans, Arwel Ellis Owen a Medwin Hughes ar ei hochr chwith a’r Hybarch Randolph Thomas ac Emlyn Dole ar ei hochr dde.

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon