Skip page header and navigation

Croesawodd myfyrwyr Peirianneg Israddedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Jacob Frappe, Arweinydd Profion Cerbydau yn Applus+ IDIADA, ar gyfer darlith arbennig ar ‘Systemau Cynorthwyol Gyrru Uwch’.

Jacob Frappe yn sefyll wrth faner saith troedfedd yn hysbysebu gwasanaethau Applus+ IDIADA.

Roedd y digwyddiad yn nodi darlith wadd gyntaf y flwyddyn academaidd, ac roedd yn rhan o’r gyfres Datblygiad Proffesiynol a Chyflogadwyedd a drefnwyd gan adran Peirianneg y brifysgol.

Mae Jacob Frappe, un o gyn-raddedigion BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro Y Drindod Dewi Sant  bellach mewn safle amlwg yn Applus+ IDIADA®, Partner Datblygu Modurol a Thŷ Prawf byd-eang. Rhoddodd ei ddarlith gipolwg gwerthfawr ar fyd Systemau Cymorth Gyrru Uwch (ADAS), profi gwydnwch, a phrofion gweithrediadau maes.

Mae rôl Jacob ar flaen y gad o ran arloesi yn y diwydiant modurol, lle mae’r ffocws yn symud tuag at gerbydau awtonomaidd a chysylltiedig. Pwysleisiodd bwysigrwydd cynyddol Systemau Cymorth Gyrru - technoleg sy’n helpu gyrwyr gyda gweithrediad eu cerbyd yn ddiogel – o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd i yrwyr, teithwyr, a cherddwyr. Mae gwaith Jacob yn cynnwys profi cerbydau corfforol mewn lleoliadau byd-eang amrywiol, a phrofion sy’n seiliedig ar efelychu, sy’n ddull cost-effeithiol ac sy’n ennill amlygrwydd yn y diwydiant.

Jacob Frappe yn siarad â dau o fynychwyr y ddarlith.

Rhannodd Jacob ei daith o fod yn un o gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i yrfa ddeinamig sydd wedi mynd ag e ar draws y byd gan gynnwys Sbaen, Tsieina, UDA, Japan ac Awstralia. Gan adfyfyrio ar ei brofiad academaidd, meddai: “Dysgais i lawer o theori a sgiliau gwych yn Y Drindod Dewi Sant, a’m  helpodd i ddod o hyd i fy lle ochr yn ochr ag ystod o beirianwyr eraill pan ymunais â’r diwydiant.

“Mae Applus+ IDIADA yn gwmni cefnogol iawn sy’n helpu peirianwyr i ddatblygu ac ennill sgiliau ychwanegol yn y gwaith, felly roeddwn yn falch o ddychwelyd i’r Brifysgol a siarad â myfyrwyr am gyfleoedd recriwtio cyffrous sydd ar gael iddyn nhw.”

Mynegodd Dr Kerry Tudor, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Peirianneg yn Y Drindod Dewi Sant, ei brwdfrydedd dros groesawu Jacob Frappe, gan ddweud: “Mae bob tro yn hyfryd gweld y cyfeiriadau gyrfa y mae ein cyn-fyfyrwyr wedi’u dilyn. Mae rôl bresennol Jacob yn amserol iawn i’n myfyrwyr peirianneg fodurol oherwydd cynnydd mewn technoleg awtonomaidd a chysylltiedig, felly roedd hi’n wych ei glywed e’n darlithio ar bynciau perthnasol a rhoi sylw i gyfleoedd recriwtio gyda chwmnïau byd-eang hefyd.”

Mae’r ddarlith gan Jacob Frappe yn dyst i’r cysylltiadau cryf rhwng Y Drindod Dewi Sant a’i chyn-fyfyrwyr, yn ogystal ag ymrwymiad y brifysgol i roi canfyddiadau a chyfleoedd yn y diwydiant i fyfyrwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau