Cyn-fyfyriwr Y Drindod Dewi Sant yn creu gêm gardiau Chwedlau Cymru
Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi creu gêm gardiau gyda’r gobaith o annog mwy o bobl i ymddiddori yn hanes a chwedloniaeth Cymru.
Mae Eifion Rogers a raddiodd yn 2007 gyda gradd BA Rheoli Chwaraeon wedi cael gyrfa amrywiol ers cwblhau ei astudiaethau gan gynnwys hyfforddi timau pêl-droed a chyhoeddi llyfr ar hanes pêl-droed ym Mrynaman.
Ac yntau bellach yn dilyn ei gariad at hanes a chwedloniaeth, ei fenter ddiweddaraf fu creu gêm gardiau yn seiliedig ar chwedlau Cymru.
Gyda’i deulu yn hanu o bentref bach Myddfai yn Sir Gaerfyrddin, sy’n adnabyddus am straeon llên gwerin am Feddygon Myddfai ac Arglwyddes y Llyn, mae Eifion wastad wedi ymddiddori yn y maes hwn.
Taith i Iwerddon yn ôl yn 2018 a sbardunodd y syniad am y gêm lle dysgodd am fytholeg Iwerddon a llyfr yn cynnwys hen straeon llên gwerin a grëwyd gan blant ysgol o wybodaeth yr oeddent wedi’i chasglu gan eu perthnasau byw hynaf.
Yn ei ddychymyg, gwelai Eifion ei hun yn creu llyfr a oedd yn rhannu mythau a threftadaeth ei wlad ei hun, ond ar ôl cyfarfod â phartner busnes, David Daniel, penderfynon nhw fynd i lawr llwybr gêm gardiau hwyliog ac addysgol.
Mae gêm Chwedlau Cymru, sydd wedi ei chreu yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn sbin ar y gêm gardiau Top Trumps, ac yn cynnwys 32 o gymeriadau o fytholeg Cymru gan gynnwys Myrddin y Dewin, Mari Lwyd a Rhiannon.
Mae Eifion yn gobeithio y bydd yn cael ei defnyddio mewn ysgolion ac y bydd yn ysbrydoli pobl ledled y byd i ymddiddori yn y ffigurau eiconig hyn sydd wedi siapio diwylliant Cymru.
Mae’r gêm eisoes wedi’i chludo i 12 gwlad a 15 talaith yn UDA ac wedi ymddangos ar bapurau newydd a gorsafoedd radio rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag S4C.
Fel un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant, mae Eifion wedi gallu derbyn cyngor gan dîm Menter y Brifysgol i helpu gyda dechrau ei fusnes.
Meddai Dylan Williams-Evans, Swyddog Gweithredol Menter a Chronfeydd y Dyfodol y Drindod Dewi Sant:
“Mae’n wych gweld, ar ôl iddo fynychu ein Cwrs Dechrau Busnes, derbyn cefnogaeth un-i-un a chael mynediad i’n Grant Entrepreneuriaeth i Fusnesau Newydd, fod Eifion wedi mynd yn ei flaen ac wedi defnyddio popeth y mae wedi’i ddysgu i ddechrau ei fusnes yn llwyddiannus mewn maes y mae’n angerddol iawn amdano a lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.”
Mae Eifion yn canmol y Brifysgol am ei helpu i gyrraedd lle y mae heddiw gan ddweud:
“Cafodd y Brifysgol effaith enfawr ar fy natblygiad a phopeth rydw i wedi’i gyflawni mewn bywyd hyd yn hyn. Fe wnes i feithrin perthnasoedd â staff y byddaf yn eu trysori am oes. Anghofiaf i byth am y ffordd y gwnaeth y brifysgol siapio fy mywyd.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996