Skip page header and navigation

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cytuno i sefydlu Cynghrair Strategol newydd rhyngddynt er mwyn gwella cyfleoedd cydweithio a chynyddu traweffaith  gadarnhaol dros sawl maes gweithgaredd er budd i Gymru.

Uwch gynrychiolwyr y sefydliadau dan sylw’n sefyll mewn llinell ac yn gwenu ar gyfer y camera.

Cyhoeddwyd sefydlu’r Gynghrair Strategol mewn digwyddiad arbennig ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Iau 10fed Awst am 1.30pm.

Mae’r rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Datblygu a Rhannu Sgiliau’r Gweithlu;
  • Arloesedd Digidol a Seilwaith Digidol;
  • Cwricwlwm ac Adnoddau Addysgol;
  • Datblygu Ymchwil a’r Casgliadau.

Mae’r partneriaid eisoes yn cydweithio ar gyfres o brosiectau ymchwil, addysg ac ymgysylltu drwy’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gan gynnwys prosiectau hir dymor fel Y Bywgraffiadur Cymreig a’r cynllun arloesol i gyd-gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800 a lansiwyd yn 2022 gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford mewn cynhadledd arbennig.

Llofnododd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Athro Pedr ap Llwyd FLSW, ac Is-Ganghellor y Prifysgolion, yr Athro Medwin Hughes, CBE, DL, y Memorandwm Cytundeb rhwng y sefydliadau ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed mewn cyfarfod arbennig ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Er bod hanes hir o’r sefydliadau’n cydweithio, yn enwedig ym maes ymchwil, bydd y Gynghrair Strategol newydd hon yn sicrhau mwy o aliniad o arbenigedd, profiadau ac adnoddau fel y gall ein sefydliadau cenedlaethol fynd i’r afael â materion economaidd, ymchwil, addysgol, dinesig a chymdeithasol ehangach.”

Dywedodd yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd y prifysgolion:

“Datblygwyd y Gynghrair Strategol o fewn fframwaith y Siartrau Brenhinol a strwythurau llywodraethant y sefydliadau. Fel sefydliadau cenedlaethol, rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein gwerthoedd craidd wrth wraidd ein cynllunio a’n darpariaeth strategol.”

Dywedodd yr Athro Pedr ap Llwyd:

“Dyma sefydlu perthynas glos, hynod bwysig rhwng dau o brif sefydliadau Cymru sy’n rhannu gwerthoedd sylfaenol ac yn gosod cydraddoldeb, tegwch, amrywedd a chynwysoldeb mynediad a chyfle wrth wraidd eu gweledigaeth, cenhadaeth a strategaethau, gan flaenoriaethu cefnogaeth i bobl o bob cefndir, profiad ac amgylchiadau a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Brifysgol  ac i’n cydweithrediad fynd o nerth i nerth. Gyda’n gilydd mi fedrwn ni wasanaethu pobl Cymru yn well.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes:

“Mae yna aliniad strategol clir rhwng gwerthoedd craidd y sefydliadau sy’n cynnig cyfle sylweddol i adeiladu partneriaeth gynaliadwy newydd a chyffrous, wrth i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod yn bartner strategol o fewn strwythur conffederal Prifysgol Cymru.”

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CyB, Darpar Is-Ganghellor:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliadau i ddatblygu ymhellach ein cydweithrediad agos. Bydd y Gynghrair Strategol hon yn caniatáu i’n sefydliadau wireddu ein hamcanion strategol yn fwy effeithiol, trwy weithio ar fodel arloesol ar gyfer cydweithredu sydd hefyd yn ychwanegu gwerth mewn cyfnod economaidd heriol.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon