Skip page header and navigation

Bydd Dr Jenny Day o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn brif siaradwr yng nghynhadledd y Celtic Studies Association of North America.

Llun pen ac ysgwyddau o Dr Jenny Day

Bydd Dr Jenny Day yn cyflwyno papur fel prif siaradwr yn y gynhadledd ar y thema ‘Continuity and identity in the Cistercian abbeys of late-medieval Wales: the poets’ view’.

Mae’r ddarlith hon yn archwilio hunaniaethau Cymreig a Sistersaidd y tai hyn a’u habadau, gan dynnu ar dystiolaeth barddoniaeth Gymraeg ganoloesol. Mae’r themâu a ystyrir yn cynnwys lleoliad yr abatai yn y tirwedd, sut y cofiwyd am eu sylfaenwyr a noddwyr tywysogaidd, a chyfeiriadau at seintiau Cymreig fel Beuno a Dewi ac at ffigurau Sistersaidd fel St Bernard a St Benedict. Mae mynachlogydd Sistersaidd megis Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn rhan o dirwedd a hanes Cymru, ond cyn eu diddymiad roeddynt hefyd yn rhan o Urdd grefyddol rymus ryngwladol â’i gwreiddiau ar y Cyfandir.

Cynhelir y gynhadledd rithiol hon - un o brif bwyntiau yng nghalendr academaidd Astudiaethau Celtaidd - ar 16-19 Mawrth 2023. Mae Dr Jenny Day yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ac mae diddordeb arbennig ganddi mewn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r hyn y gall ei ddatgelu am y gymdeithas gyfoes, tirwedd a diwylliant materol. Dechreuodd ei gyrfa ymchwil yn gweithio ar arfau mewn barddoniaeth ganoloesol a bu’n aelod o nifer o brosiectau cydweithredol dan nawdd yr AHRC gan weithio ar farddoniaeth Guto’r Glyn, Cwlt y Seintiau yng Nghymru, a phrosiect ‘Tirweddau Sanctaidd Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gyda’r Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan a chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ar brosiect a gyllidir hefyd gan yr AHRC i greu golygiadau newydd o farddoniaeth Myrddin.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

‘Hoffwn longyfarch Dr Jenny Day ar y gwahoddiad i gyflwyno papur fel siaradwr gwadd yn CSANA 2023. Mae hyn yn tystio i’r parch rhyngwladol sydd i’w gwaith fel ymchwilydd ym maes astudiaethau Celtaidd a Chanoloesol.’

E-bostiwch eska@vt.edu i gofrestru.

Nodyn i’r Golygydd


Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

  1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
  2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  
  3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau