Skip page header and navigation

Heddiw (4 Gorffennaf), mae Dai Lewis wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio haf y Brifysgol. 

Dai Lewis gyda Gwilym Dyfri Jones ac uwch aelodau eraill  Brifysgol, i gyd mewn gwisg academaidd ffurfiol.

Yn y seremoni, cafodd ei anrhydeddu i gydnabod ei gyfraniad neilltuol at amaeth a gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Magwyd David ym mhentref Llandysul, yn fab i Rhys a Myra Lewis ac yn ŵyr i J.D. Lewis, sylfaenydd Gwasg Gomer. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llandysul ac yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Pan enillodd gystadleuaeth siarad cyhoeddus yn un ar bymtheg oed, dywedodd y beirniad fod ganddo’r llais i fod yn bregethwr Cyrddau Mawr neu Ocsiwniar – ac fe benderfynodd ddewis yr ail yrfa.

Yn cyflwyno Dai Lewis i’r gynulleidfa roedd Gwilym Dyfri Jones, Profost campws y brifysgol yng Nghaerfyrddin. Dywedodd:  

“Gyda dau o’i phrif gampysau wedi eu lleoli yn y Gymru wledig, yma yn Ne Orllewin Cymru, y mae’n gwbl briodol fod y Brifysgol heddiw yn anrhydeddu gwron a gyfrannodd gymaint at sicrhau ffyniant a hirhoedledd cymunedau’r rhanbarth hwnnw.  

“Rydym yn aml yn clywed am freuder ein cymunedau gwledig a’r heriau sy’n eu hwynebu yn sgil diboblogi, mewnfudo a newid hinsawdd. Mae’r cymunedau hyn yn dibynnu ar arweinwyr goleuedig sy’n barod i fod yn llysgenhadon ac yn lladmeryddion huawdl ar eu rhan, sy’n barod i fynd y filltir ychwanegol ar eu rhan. Arweinydd felly yw David Lewis.  

“Mae David wedi bod yn llysgennad gwirioneddol i amaethyddiaeth Cymru ers dros hanner canrif. Ef yw’r unig berson sydd wedi dal pob un o’r swyddi uchaf yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae arweinyddiaeth ddinesig yn seiliedig ar wasanaeth, ar onestrwydd ac uniondeb, ar ymroddiad tuag at achos penodol, ar sefydlu partneriaethau cryf a pharchus ar draws y gymuned.

“Mae David Lewis yn arweinydd dinesig gwirioneddol sydd wedi cynrychioli ei gymuned ei hun gydag urddas a rhagoriaeth. Mae wedi gwneud hynny mewn ffordd gwbl ddiymhongar sydd wedi denu cefnogaeth ac edmygedd o bell ac agos.

“David, diolchwn i chi am eich cyfraniadau gwerthfawr i’r filltir sgwâr a, thrwy hynny, i wead cymdogaeth a chenedl fel ei gilydd.” 

Gan wenu, cydia Dai Lewis yn y sgrôl las sy’n symboleiddio’r Gymrodoriaeth gydag aelodau ei deulu’n sefyll wrth ei ochr.

Wedi’i fagu a’i addysgu yn Llandysul, pasiodd David Lewis ei arholiadau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn Llundain yn gynnar yn y 1960au cyn dychwelyd i Ddyfed, ei ardal enedigol. Mae wedi aros yn yr ardal ers hynny, gyda’i fusnes – Syrfewyr Siartredig Dai Lewis, Arwerthwyr, Priswyr a Gwerthwyr Tai. 

Ers 1974 mae ef a’i wraig Helena ynghyd â’u mab a’u hwyres – wedi ffermio fferm deuluol Helena ym Mhenrhiw ychydig y tu allan i Landysul, lle maent yn magu gwartheg Charolais. 

Bu taith David i wartheg pedigri yn llwyddiannus a bu’n cynrychioli Cymru ar Gyngor Cymdeithas Gwartheg Charolais Prydain am chwe blynedd, gan gynnwys cyfnod fel cadeirydd. Yn ddiweddarach etholwyd ef yn Llywydd y Gymdeithas. 

Ef yw’r unig berson sydd wedi dal pob un o’r swyddi uchaf yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Bu’n Llywydd yn ystod 2005, yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli rhwng 2006 a 2012 ac yn Gadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru rhwng 2012 a 2021. Ers 30 mlynedd a mwy, mae ei lais hefyd i’w glywed yn atseinio o amgylch y Sioe Frenhinol bob haf fel prif sylwebydd yn y cylchoedd gwartheg. Yn 2017 derbyniodd David Fedal Aur Cymdeithas Frenhinol Cymru am ei gwasanaeth clodwiw i’r Sioe ar hyd y blynyddoedd. 

Fis Tachwedd diwethaf, cyflwynodd Undeb Amaethwyr Cymru Wobr UAC am Wasanaeth Eithriadol i amaethyddiaeth Cymru i David. 

Ar hyd y blynyddoedd, sicrhaodd fod y Gymraeg yn cael lle teilwng bob amser yn holl weithgareddau’r Gymdeithas a gwnaeth hynny yn ddi-ffael wrth arwain a chadeirio gwahanol bwyllgorau’r Sioe Fawr. 

Bu’n gefnogwr brwd o’r Gymraeg yn lleol hefyd gan gynnwys ymgyrchu dros sefydlu Ysgol Ddwyieithog Dyffryn Teifi yn yr wythdegau.   

Mae David yn ddiacon yn Eglwys y Bedyddwyr, Penybont, ac yn aelod selog o nifer o gymdeithasau yn ei fro enedigol. 

Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Dai Lewis: 

“Ystyriaf hi’n fraint anferthol a hollol annisgwyl i gael derbyn y gymrodoriaeth hon.  Dwi wedi edmygu a rhyfeddu at lwyddiant a thyfiant Y Drindod Dewi Sant yn enwedig dros yr ugain mlynedd diwethaf.

“Mae’r ugain mlynedd diwethaf yma wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gydag arweiniad mor ysbrydoledig a llu o staff effeithiol sy’n barod i ufuddhau i bob gorchmyn! Mae’r arweinyddiaeth a’r ymroddiad a’r gred yn y gwerthoedd craidd wedi bod yn allweddol.

“Rwy’n teimlo anrhydedd mawr a byddaf yn trysori’r gymrodoriaeth hon ac yn dymuno llwyddiant parhaus i’r Brifysgol wrth iddi ddechrau ar gyfnod newydd.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau