Skip page header and navigation

Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Paul Darby a Natasha Jones o Blentyndod, Ieuenctid ac Addysg, wedi cael ychydig ddyddiau gwych yn hyfforddi addysgwyr o Sir Benfro.

Menywod mewn cotiau glaw yn symud polion metel ac offer o gwmpas yn yr awyr agored.

Datblygwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â Gwasanaethau Addysg a Phlant Cyngor Sir Benfro, ac mae’n amlygu’r ffordd y mae’r arbenigedd o fewn disgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg y Drindod Dewi Sant o ran dysgu seiliedig ar chwarae chwilfrydig yn cefnogi datblygiad y Cwricwlwm i Gymru.

Bu’r sesiynau hyfforddi’n archwilio dysgu drwy chwarae a sut y gellir cefnogi meysydd dysgu’r Cwricwlwm i Gymru gydag oedolion sy’n galluogi dysgu ac amgylcheddau atyniadol. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar yr arbenigedd yn y tîm yn gysylltiedig â chwarae, lles, cynhwysiant a dysgu awyr agored a sut y gall y rhain ysgogi ac ysbrydoli plant gan ganiatáu iddynt ffynnu.

Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn ardderchog. Meddai un cyfranogwr:

“Darpariaeth ddifyr. Awyrgylch hamddenol yn caniatáu trafodaethau diddorol a chreadigrwydd.”

Dywedodd un arall:

“Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr. Rwy’n mynd adref yn teimlo’n hyderus i wneud i hyn weithio yn ein lleoliad ni. Llawer o hwyl ac yn ysbrydoledig.”

Ychwanegodd un arall:

“Rhoddodd y cwrs syniadau ysbrydoledig ar gyfer dysgu dilys mewn profiadau. Fe wnaeth ein caniatáu i fod yn greadigol, yn weithgar ac yn ymarferol drwyddi draw’. 

Cyfranogwyr yn eistedd ar lawr dosbarth yn gweithio gyda dail a brigau a gasglwyd yn yr awyr agored.

Meddai’r darlithydd Paul Darby:

“Cawsom brofiad gwych, yn rhannu gwybodaeth ac yn archwilio gwerth addysgol chwarae i blant ifanc. Roedd y gweithwyr proffesiynol a ddaeth yn llawn diddordeb ac yn chwilfrydig ac awyddus i ddatblygu syniadau o’r gweithdy i’w harfer addysgu.”

Dywedodd y darlithydd Natasha Jones:

“Rydw i a Paul wedi bod yn edrych ymlaen at y gweithdai hyn ers wythnosau, ac rwy’n credu y gallaf siarad dros y ddau ohonom wrth ddweud eu bod wedi bod y tu hwnt i’r disgwyl. Roeddwn i’n falch iawn, hyd yn oed gyda gwybodaeth a phrofiad o chwarae, fy mod wedi dysgu llawer gan y rhai a gymerodd ran.

“Mae’r grwpiau a oedd yn bresennol wedi ymgymryd â thrafodaeth a gweithgarwch helaeth, gyda phawb yn cymryd rhan. Profiad boddhaus iawn, a phleser cael cyflwyno ein safbwynt ar werth addysgol chwarae. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y caiff cynnwys ein gweithdy ei roi ar waith gan yr ymarferwyr hynod fedrus hyn.”

Mae’r ddau bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda rhagor o addysgwyr yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am gyfleoedd hyfforddi, mae croeso i chi gysylltu:

Paul Darby: paul.darby@uwtsd.ac.uk

Cyfranogwyr yn eistedd y tu mewn i babell fyrfyfyr o darpolin glas.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon