Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyrraedd y rhestr fer am y Rhaglen Addysgol Orau 2023, (categori Busnes Mawr) dan nawdd HIT Training, a Thîm Datblygu Talent y Flwyddyn 2023 dan nawdd Caterer.com  yn y Gwobrau Lletygarwch byd-eang blynyddol gan y Sefydliad Lletygarwch, sy’n arddangos y gorau sydd gan y diwydiant i’w gynnig.

Grŵp o bobl yn sefyll o flaen sgrin fawr yng nghynhadledd Sefydliad Lletygarwch Cymru a’r diwydiant ehangach, sef Future You: Make a Splash in Swansea.

Roedd yr enwebiadau am y digwyddiad Future You gan yr ITT, a drefnwyd gan y myfyrwyr, ac Antur Academaidd Aspen dan nawdd ‘Taith’, ymgysylltu â’r diwydiant a lleoliadau a rhaglenni graddedig sy’n ysbrydoli.  

Roedd y gynhadledd a ffair yrfaoedd Future You: Make a Splash in Swansea, a gafodd ei chynnal gan y Drindod Dewi Sant ac a gefnogwyd gan y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth, ABTA, Sefydliad Lletygarwch Cymru a’r diwydiant yn ehangach, yn agored i ysgolion, colegau, myfyrwyr prifysgol a chyn-fyfyrwyr.

Roedd yn ddigwyddiad rhyngweithiol a oedd yn symud yn gyflym, gydag amrywiaeth o siaradwyr a chysylltiadau fideo o bob rhan o’r byd, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus o’r Drindod Dewi Sant. Roedd yn rhoi cyfle i’r mynychwyr rwydweithio a chwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Trefnwyd y digwyddiad gan y myfyrwyr. Mae un o’r myfyrwyr, Joshua Wilson, yn Gadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr Sefydliad Lletygarwch Cymru, a chwblhaodd ei leoliad gyda Celebrity Cruises yn teithio o amgylch ardal Môr y Canoldir, y Deyrnas Unedig a Sgandinafia. Roedd e’n siaradwr yn y digwyddiad. Mae dwy o’r myfyrwyr eraill a fu’n trefnu, Amanda Lewis ac Amy Lewis, yn Llysgenhadon ABTA ac yn cael eu mentora gan Royal Caribbean International, a bu myfyriwr arall, Mel Bourke, yn cyflwyno’r digwyddiad.  ..

Cefnogir rhaglen Antur Academaidd Aspen gan gyllid ‘Taith’ Llywodraeth Cymru, a’i nod yw darparu rhaglen flasu bythefnos o hyd sy’n cael effaith uchel, ar gyfer graddedigion a hoffai brofi diwydiant twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau America, ond nad ydynt yn gallu ymgymryd â lleoliad oherwydd ymrwymiadau, amser, neu gyfyngiadau ariannol.  

Gan weithio gyda phartneriaid lleoliadau a graddedigion y Drindod Dewi Sant, roedd y rhaglen yn cynnwys Dosbarthiadau Meistr, Ymweliadau â Gwestai 5 Seren Forbes, Teithiau Tu ôl i’r Llenni a Phrofiadau Bwyd a Diod. Cawson nhw eu croesawu gan Siambr Aspen, Bwyd a Diod Aspen, Lletygarwch Aspen, Sefydliad Aspen, Ransh Dyffryn Aspen, Gwestai Hamdden Auberge, Four Seasons, Ritz Carlton, Sonnenalp a rhagor.  

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd ar gyfer y cyrsiau Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi cael ein henwebu gan ein myfyrwyr a’r diwydiant am y Gwobrau, ac yn falch dros ben i fod ar y rhestr fer am ddwy wobr am yr 2il flwyddyn yn olynol.  Mae hyn yn gydnabyddiaeth fyd-eang ragorol am y rhaglenni Twristiaeth a Digwyddiadau a’r Drindod Dewi Sant, gan arddangos y cyfleoedd addysgol rhagorol a’r cyfleoedd i ddatblygu talent rydym yn eu darparu ar gyfer ein myfyrwyr.”

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ddarparwr cyrsiau blaenllaw yn y maes hwn, sy’n cynnwys teithiau astudio rhyngwladol, ymweliadau â’r diwydiant ac interniaethau integredig â thâl gyda sefydliadau a digwyddiadau blaenllaw, yn lleol ac yn rhyngwladol.  Drwy’r cyfleoedd hyn, mae modd i fyfyrwyr feithrin rhwydweithiau gyrfa rhagorol gydag arweinwyr y farchnad o gwmpas y byd.

Gan gyhoeddi’r rhestr fer, meddai Robert Richardson FIH MI, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Lletygarwch:  “Bob blwyddyn byddaf i a fy nhîm yn cael ein synnu gan ansawdd yr enwebiadau a gawn.  Eleni mae wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau ni hyd yn oed.  Mae’r talent a’r gwaith sy’n cael ei gwblhau ar draws y diwydiant lletygarwch byd-eang yn anhygoel.  Rwyf mor falch i weithio yn y diwydiant hwn wrth ochr cynifer o bobl dalentog.”

Eleni roedd y gwobrau’n agored i ymgeiswyr o bob rhan o’r byd, o unrhyw sector ac arbenigedd lletygarwch, o drefnwyr lletygarwch bach i rai mawr.

Meddai Sarah Peters FIH, Pennaeth Digwyddiadau a Datblygu Masnachol y Sefydliad Lletygarwch:  “Roedd hi’n anodd dros ben penderfynu ar restr fer eleni, ond rydym ni wrth ein boddau i gael rhestr mor anhygoel o enwau yn y rownd derfynol.  Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn cinio seremonïol yn Hilton Llundain Bankside ar 26 Mehefin.

Grŵp o bobl yn sefyll o flaen paentiad portreadol mawr o ddyn.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau