Skip page header and navigation

Mae darlithydd sydd newydd ei benodi yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill gwobr am ei gyflwyniad i arddangosfa fawreddog.

Menyw mewn gardd haf werdd yn edrych i lawr ar ddarn o frodwaith coch a llwydfrown yn sownd i’w belt. Mae hi’n gwisgo crysan du llac dros flows wen, y mae’r arddull yn dwyn gwisg ganoloesol i gof.
Holly Slingsby, An Enclosed Garden, 2021. Fideo HD gyda sain. Llun llonydd cynhyrchiad gan Jordan Mary.

Ymunodd Holly Slingsby â thîm addysgu’r Drindod Dewi Sant yn ddiweddar fel darlithydd mewn Celf Gain, gan gyfnewid Margate am dde Cymru i barhau â’i gyrfa lwyddiannus a’i harfer artistig ar ôl gweithio yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Gelf Winchester.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ei bod wedi ennill Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg yn Oriel Phoenix yn Nyfnaint.

Arddangosfa flynyddol yw Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg, sy’n cynnwys detholiad bychan o waith wedi’u dewis o blith cannoedd o gynigion a gyflwynir gan artistiaid o bob rhan o’r DU. Mae’n un o brif uchafbwyntiau calendr diwylliannol De Orllewin Lloegr ac mae’n sbardun hanfodol ar gyfer gyrfaoedd egin artistiaid cyfoes.

Dewiswyd gwaith Holly, ochr yn ochr â gwaith 13 artist arall, gan Gemma Lloyd (Curadur Annibynnol), Judith Carlton (Cyfarwyddwr Southwark Park Galleries) a Churadur Oriel Phoenix, Matt Burrows. Roedd pob un o’r artistiaid a oedd yn arddangos eu gwaith yn gymwys i ennill Cronfa Gwobr 2023, Gwobr Ychwanegol a gwobr Dewis y Gynulleidfa.

Gan nad oedd y panel beirniadu’n gallu dewis un enillydd cyffredinol ac un enillydd ychwanegol, penderfynodd ddathlu’r tri artist mwyaf eithriadol o restr fer hynod safonol, sef Holly Slingsby, Anna Brass a Richard Phoenix. Rhannwyd cronfa Gwobr 2023 yn gyfartal rhyngddynt.

Menyw wedi’i gwisgo fel cynrychioliad canoloesol o sant mewn glas a magenta llachar yn codi ei hwyneb tuag at yr haul gyda’i llygaid ynghau. Mae hi’n sefyll ar bentwr o blanhigion a phorfeydd gwyllt yn sychu. Y tu ôl iddi mae’r llwyni a’r coed yn llond eu dail.
Holly Slingsby, An Enclosed Garden, 2021. Fideo HD gyda sain. Llun llonydd cynhyrchiad gan Jordan Mary.

Perfformiad fideo yw gwaith buddugol Holly (llun uchod), o’r enw An Enclosed Garden, sy’n cyfuno’r profiad a rennir o arddio yn ystod y cyfnod clo gyda ffigurau ar wahân: Penelope Homer, y feudwyes Julian o Norwich, yr abades Hildegard von Bingen a’r Forwyn Fair.

Wedi’i ffilmio mewn pedair gardd yng Nghaint, mae’r darn yn ennyn ymdeimlad o erddi perlysiau mynachaidd a phaentiadau canoloesol wrth archwilio perthnasedd y menywod hyn fel symbolau o fyfyrdod unig. Mae tomenni compost wedi’u cynnwys i’n hatgoffa o bosibilrwydd cynhyrchu rhywbeth newydd o weddillion o’r gorffennol sydd wedi’u bwrw o’r neilltu.

Dywedodd Holly: “Rwy’n falch iawn o fod yn un o enillwyr Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg 2023. Mae arddangosfa eleni’n cynnwys detholiad gwych o waith ac mae’n bleser mawr cael fy nghynnwys a’m cydnabod yn y cyd-destun hwn. Rwy’n ddiolchgar i’r detholwyr, Gemma Lloyd, Judith Carlton a Matt Burrows am eu cefnogaeth i’m harfer.”

Meddai’r Athro Sue Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Celf Gain yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr cael yr artist Holly Slingsby i ymuno â’n tîm Celf Gain. Mae ei hygrededd artistig yn ychwanegu haen bwysig arall o arbenigedd ac arfer at ein tîm sydd eisoes ar sail gadarn yn rhyngwladol. Mae’n newyddion ardderchog bod Holly yn un o enillwyr Arddangosfa Agored Gyfoes Caerwysg 2023.”

Mae Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn y safle 1af yng Nghymru ac yn yr 21ain safle yn y DU ar hyn o bryd ar gyfer ei rhaglenni Celf Gain (Tablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian, 2023–24).

Mae’r arddangosfa yn Exeter Phoenix ar agor tan ddydd Sul 5ed Tachwedd, a gallwch archwilio gwaith Holly ar hollyslingsby.com neu @hollyslingsby .

Holly Slingsby’n eistedd yn gwenu wrth ddesg yn ei stiwdio.
Tynnwyd y portread o Slingsby gan Sam Roberts.

Nodyn i’r Golygydd

Bywgraffiad

Mae Holly Slingsby (ganed ym 1983, y DU) bellach wedi’i lleoli yn Abertawe. Astudiodd yn Ysgol Arlunio a Chelf Gain Ruskin, Prifysgol Rhydychen, ac yn Ysgol Gelf Slade, Llundain.

Mae Slingsby wedi cael arddangosiadau a pherfformiadau unigol ar draws y DU a ledled y byd. Yn 2018, cyhoeddodd lyfr artist gyda Publication Studio London a The Bower.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau